Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Lluniau o Flaenau Gwent

Diweddarwyd Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2021

Ffotograffau gan Linda Stemp.

Ynglŷn â'r gwaith hwn


Cafodd y lluniau hyn o adeiladau hanesyddol ym Mlaenau Gwent eu tynnu gan y ffotograffydd o Lanhiledd, Linda Stemp. Maent yn dangos agweddau ar dreftadaeth y rhanbarth sy'n bwysig iawn iddi. Mae'r rhain yn ymwneud yn bennaf â hanes diwydiannol yr ardal. Mae Llun 1 yn dangos pen pwll glo Blaenafon, a gaeodd yn 1980 ond sydd bellach yn rhan o Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru. Mae Llun 2, yn dangos Sefydliad Glöwyr Llanhiledd, a adeiladwyd yn 1906 i rymuso'r dosbarth gweithiol, ac mae'n dal i fodoli fel lleoliad cymunedol heddiw.

Mae Llun 3 a Llun 4 yn dangos adeilad arall, a gafodd ei adeiladu yn sgil y diwydiant, o onglau gwahanol. Cafodd Eglwys y Drindod yn Aberbîg, a adeiladwyd er mwyn gwasanaethu'r aneddiadau a dyfodd o amgylch Glofa'r Chwe Chloch, ei chwblhau yn 1909. Serch hynny, mae ei phensaernïaeth Gothig unionsyth yn atgof o'r Oesoedd Canol. Oherwydd hyn, mae'n crybwyll hanes hŷn, cyn y chwyldro diwydiannol. Mae dau lun olaf Linda yn dweud mwy am y thema hon. Mae Llun 5 yn dangos hen adeiladau fferm ar gyrion Llanhiledd, ac mae Llun 6 yn dangos crudiau colomennod yng Nglynebwy. Mae'r ddau lun olaf hyn yn atgof o orffennol cyn-fodern Blaenau Gwent, a daflwyd i'r cysgod gan newid diwydiannol, ond sy'n bresenoldeb grymus serch hynny i'r bobl sy'n byw yno.

Mae'r ymdeimlad hwnnw o orffennol dyfnach yn dod i'r amlwg yng ngeiriau Linda ei hun, y bwriadwyd iddynt ategu’r lluniau hyn:

'Rwy'n byw mewn hen bentref glofaol bach yn ne Cymru. Mae'n ardal lle bu cryn amddifadedd dros y blynyddoedd, fel sy'n wir am gymoedd de Cymru yn gyffredinol. Mae'n ardal a fu unwaith yn wledig iawn, gyda chymunedau amaethyddol, a gafodd ei hanrheithio a'i difetha gan ddiwydiannu'r ddeunawfed ganrif a barhaodd ymhell i mewn i'r ugeinfed ganrif. Mae ffowndrïau, gweithfeydd dur a phyllau glo wedi gadael eu hôl ar y tir a'i bobl.

Serch hynny, mae'n dir sy'n dal i ysgogi'r dychymyg, mae'n fythol! Fel plant, byddem yn crwydro’r bryniau uwchlaw ein pentref bach ac yn chwarae yn adfeilion sguboriau a bythynnod yr hen ffermydd, a ninnau'n adnabod pob un. Byddem yn codi argae ar hyd y nentydd ac yn crwydro'r gweundir uchel am oriau, dyna oedd ein maes chwarae. Byddem yn dychmygu llwythddynion Celtaidd a'u ceffylau a'u cerbydau rhyfel yn rasio ar hyd y rhosydd, patrolau Rhufeinig yn mynd dros y bryniau a Mynaich Gwynion yn gwarchod eu defaid a gweini eu praidd dynol.

Mae cofnod yn Llyfr Du Caerfyrddin o 1250 sy'n gysylltiedig â'n tir, sy'n darllen:

Gwedi gwrwm, a choch, a chain,
a gorfyddawr mawr min-rhain,
Yn Llanheledd bedd Owain

Mae'n bennill sydd bob amser wedi gyrru ias i lawr fy nghefn.’


BG REACH exhibition logo / Logo arddangosfa BG REACH

Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.

Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol

Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?