Modron
Gan Barbara Candlish
Out of the mist of time
In these valleys you will find
A spirit in our blood and in our bones
It's written of the ancient days
Silures age old Celtic Tribe
In south east Wales they did abide
Fierce strong warriors bold were
undefeated
Held Roman forces in abeyance.
On and on they fought for freedom
each intruder to our land
Down through the decades
Life was harsh, life was grim
She's always there Modron Celtic warrior Queen
Her fighting spirit can be seen.
To fight injustice, right the wrong
In every miner's struggle she was there
Walking with
the Chaterist to Newport square.
Saving every penny to heal the sick
Nursing the injured in the pit
the NHS was born.
Women widowed far too young
Clung together to survive
They didn't ask when or how.
They shouted out we'll do it now
Her spirit is in our blood and in our bones
He wrote of the loss of our Valleys green
Now the beauty all around
us can be seen
Modron our Celtic Warrior Queen
Gweld y maint llawn
Ynglŷn â'r gwaith hwn
Mae'r portread o Modron yn y paentiad yn drawiadol iawn, gyda'i gwallt hir a'i chlogyn, a'i chleddyf a'i tharian. Mae'r gerdd yn ei chysylltu â'r Silwriaid, llwyth Celtaidd a oedd yn byw yn yr hyn a elwir ym Mlaenau Gwent heddiw pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Gyda'i gilydd, mae'r ddau ddarn, y paentiad a'r gerdd, yn ei darlunio fel ffigur Buddug, sy'n cynrychioli cryfder, annibyniaeth ac ewyllys anorchfygol. Mae hynny'n amlwg yn ail a thrydydd pennill y gerdd, lle mae ysbryd Modron yn atseinio drwy'r oesoedd drwy fudiad y Siartwyr, sefydlu'r GIG, a dioddefaint y menywod yng nghymunedau glofaol Cymoedd Gwent.
Yn y testun isod, mae Barbara Candlish, a greodd y ddau ddarn, yn siarad am ei hysbrydoliaeth. Er ei bod yn canolbwyntio’n bennaf ar y paentiad, mae ei geiriau'n datgelu cryn dipyn am y gerdd hefyd. Yn benodol, mae'n creu cysylltiadau rhwng chwedl Modron
a chwedl fwy diweddar o gymoedd de Cymru. Mae'r fam Gymreig yn fatriarch ddelfrydol. Hi yw'r gwarbin sy'n dal y teulu ynghyd, a'i chryfder hi sy'n tynnu'r teulu drwy adfyd. Yng ngherdd Barbara a'i myfyrdod isod hefyd, mae thema parhad drwy amser yn
amlwg. Cred Barbara fod angen cydnabod grym heb ei gydnabod Blaenau Gwent, boed hynny gan mlynedd neu ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Datblygodd y syniad ar gyfer y gwaith celf hwn i'r hyn ydyw heddiw – Modron, duwies Geltaidd Gymreig chwedlonol, Arwres Gymreig. Mae'r gwaith celf hwn yn rhan o brosiect BR REACH Y Brifysgol Agored. Ethos BG REACH yw dathlu Blaenau Gwent, myfyrio ar y gorffennol ac ystyried yr hyn y dylid ymfalchïo ynddo a'i ddathlu. Fy syniad cyntaf oedd lluniadu a phaentio menyw a fyddai'n gwisgo cyfuniad o wisg fodern a gwisg Gymreig draddodiadol, gan gymharu'r ffordd yr oedd menywod yng Nghymru yn edrych yn y gorffennol a'r ffordd y maent yn edrych heddiw.
Yna, ar ôl cymryd rhan mewn gweithdy hanes, a gynhaliwyd gan un o haneswyr Y Brifysgol Agored, fel rhan o raglen BG REACH, dysgais am Lwyth Celtaidd Cymreig y Silwriaid. Roedd y Silwriaid yn byw yng nghornel ddwyreiniol ddeheuol de Cymru, sef Blaenau Gwent erbyn hyn. Roeddent yn llwyth neu gydffederasiwn llwythol grymus a rhyfelgar, na chawsant fyth eu trechu gan y Rhufeiniaid.
Nid oeddwn erioed wedi clywed amdanynt, ond gwn fod gan eu disgynyddion heddiw eu DNA a'u hysbryd. Mae'r ysbryd hwnnw i'w weld yn y cymoedd, a'r ysbryd hwn a roddodd y syniad o Arwr i mi – yn enwedig gan fod plant wrth eu bodd ag arwr. Gan gynnal y syniad o fenyw, gan fod menywod y cymoedd yn gymeriadau cryf, penderfynol a meithringar, meddyliais am y 'Fam Gymreig'. Hyd y gwn i, nid oes fawr ddim wedi'i ysgrifennu am fenywod y cymoedd; nid yw eu llais yn cael ei glywed.
Dyma stori wir sy'n crisialu ysbryd y 'Fam Gymreig'. Mae'n sôn am fam-gu fy chwaer yng nghyfraith, yn y 1920-30au, mae'n debyg. Roedd gan Mrs Margaret Ellen Davies o Drecenydd yng Nghaerffili naw o blant a oedd wedi goroesi ac roedd dri mis yn feichiog, yn cario tad fy chwaer yng nghyfraith. Cafodd ei gŵr ei gicio gan geffyl danddaear; roedd yn ceisio achub y ceffyl rhag tram a oedd wedi rhedeg yn rhydd. Daethpwyd ag ef adref, a bu farw ymhen tridiau. Roedd hi bellach yn wraig weddw ac ni allai dalu'r rhent, felly penderfynodd hi a'i ffrind, a oedd hefyd yn wraig weddw â phlant, ddod ynghyd i rannu tŷ. Yna, bu farw ei ffrind, a pharhaodd i ofalu am blant ei ffrind yn ogystal â'i phlant hi ei hun. Aethpwyd â phlant ei ffrind oddi wrthi, ond brwydrodd i'w cael yn ôl, a bu'n llwyddiannus. Cawsant barti y diwrnod y cafodd y plant yn ôl – llond llaw o losin a bara a jam. Parhaodd i ofalu am bob un o'r plant nes eu bod yn hŷn. Hi yw ein harwr, ac ni fyddai ei stori wedi bod yn anghyffredin ymhlith menywod y Cymoedd bryd hynny. Hi yw'r Fam Gymreig, a hi yw Modron hefyd.
Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.
Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol
Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon