Gweld y maint llawn
Ynglŷn â'r gwaith hwn
Dyma gollage o Gofeb Glofa'r Chwe Chloch, cofeb 20 metr o uchder i'r 45 o ddynion a fu farw yn nhrychineb Glofa'r Chwe Chloch yn 1960. Cafodd y gofeb ei hun ei datgelu gan Archesgob Caergaint, Rowan Williams, ar 28 Mehefin 2010, hanner can mlynedd yn union ers diwrnod y ffrwydrad. Cofeb wag rwyllog ydyw, wedi'i gwneud o filoedd o stribedi rhydlyd o ddur, sy'n rhoi iddi ansawdd etheraidd o ambell ongl. Saif mewn parcdir wedi'i dirlunio ar safle'r hen bwll glo, wedi'i hamgylchynu gan lystyfiant naturiol sydd wedi dychwelyd i'r ardal ers i'r pwll gau yn 1988.
Fodd bynnag, mae ymdeimlad llai heddychlon o lawer i baentiad Mark. Mae'r portread hwn o'r gofeb yn un solet a du, ac mae'n dominyddu canol y llun gyda'i phresenoldeb a'i phŵer. Nid oes unrhyw barcdir gwyrddlas nac awyr las glir y tu ôl iddi. Yn lle hynny, gwelwn felyn a choch tanllyd sy'n dwyn i gof y ffrwydrad trychinebus y mae'r gofeb yn ei goffáu. Mae'r paentiad yn defnyddio ystyr y gofeb yn llythrennol ac yn ei fynegi'n drosiadol drwy bontio'r hanner can mlynedd rhwng y trychineb a'r gofeb mewn un ddelwedd. Saif y gofeb hon rhwng y tân a'r gwyliwr, gan gynnig diogelwch nad oedd gan y dynion a fu farw yn y trychineb. Gallwch weld llun ohoni gan y ffotograffydd lleol, Linda Stemp, isod.
Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.
Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol
Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon