Pa adnoddau eraill sydd ar gael i astudio’r gwyddorau naturiol drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog?

Yn ogystal â’r adnoddau byddwch yn derbyn ar eich cwrs, mae yna amryw o adnoddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gael ar-lein i gefnogi eich dysgu a darganfod mwy am ryfeddodau’r byd naturiol! Dyma rai engrheifftiau:

  • Gwerddon – e-gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg sy’n cynnwys ymchwil ar ystod o bynciau gan gynnwys y gwyddorau Naturiol
  • Wicipediau Cymraeg – gwyddoniadur Cymraeg sy’n seiliedig ar Wikipedia gyda dros 90,000 o dudalennau pwnc
  • Llên natur – geiriadur enwau a thermau