Transcript

Mae astudio’r gwyddorau naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn beth hynod o bwysig a hynod o werthfawr i chi fel gwyddonwr oherwydd yn aml iawn mae’r gwyddorau naturiol yn ymwneud a rheoli’r amgylchedd ac adnoddau naturiol – ac felly mae’r gallu i gyfathrebu materion gwyddonol sydd aml iawn yn reit gymhleth a thechnegol gydag amryw o wahanol bobl o wahanol ddiwydiannau yn beth bwysig iawn i wneud yn siwr bod polisïau amgylcheddol yn cael eu cynorthwyo, yn enwedig gan y cyhoedd a gan y llywodraeth.
Mae astudio gwyddorau naturiol yn y Gymraeg hefyd yn golygu gwell cyfleoedd yn y byd gwaith oherwydd os ydych chi yn medru dangos eich bod chi hefo’r gallu i gyfathrebu un ai yn ysgrifenedig neu ar lafar drwy’r Gymraeg, a hynny amdan pwnc sy’n reit technegol a chymhleth – i gyflogwyr, mae’n beth deniadol iawn, a dyddiau yma mae gael rhywbeth sy’n wneud I chi sefyll allan yn beth hynod o bwysig.
Y peth dwi’n mwynhau mwyaf am addysgu y gwyddorau naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg ydy’r ffaith bod grwpiau fel arfer yn reit fach felly dwi’n teimlo bod fi’n medru rhoi fy amser i bob un unigolyn i gael y cymorth mae nhw eu hangen ac felly os ydych chi’n dewis astudio y gwyddorau naturiol yn y Gymraeg yna mi fyddwch chi ar fantais oherwydd byddwch chi’n cael mwy o gymorth gan gyfoethion a gan eich addysgwyr.