Beth yw’r manteision o astudio drwy’r Gymraeg?
Clywch gan athro:
Download this video clip.Video player: Athro


Transcript: Athro
Mae astudio’r gwyddorau naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn beth hynod o bwysig a hynod o werthfawr i chi fel gwyddonwr oherwydd yn aml iawn mae’r gwyddorau naturiol yn ymwneud a rheoli’r amgylchedd ac adnoddau naturiol – ac felly mae’r gallu i gyfathrebu materion gwyddonol sydd aml iawn yn reit gymhleth a thechnegol gydag amryw o wahanol bobl o wahanol ddiwydiannau yn beth bwysig iawn i wneud yn siwr bod polisïau amgylcheddol yn cael eu cynorthwyo, yn enwedig gan y cyhoedd a gan y llywodraeth.
Mae astudio gwyddorau naturiol yn y Gymraeg hefyd yn golygu gwell cyfleoedd yn y byd gwaith oherwydd os ydych chi yn medru dangos eich bod chi hefo’r gallu i gyfathrebu un ai yn ysgrifenedig neu ar lafar drwy’r Gymraeg, a hynny amdan pwnc sy’n reit technegol a chymhleth – i gyflogwyr, mae’n beth deniadol iawn, a dyddiau yma mae gael rhywbeth sy’n wneud I chi sefyll allan yn beth hynod o bwysig.
Y peth dwi’n mwynhau mwyaf am addysgu y gwyddorau naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg ydy’r ffaith bod grwpiau fel arfer yn reit fach felly dwi’n teimlo bod fi’n medru rhoi fy amser i bob un unigolyn i gael y cymorth mae nhw eu hangen ac felly os ydych chi’n dewis astudio y gwyddorau naturiol yn y Gymraeg yna mi fyddwch chi ar fantais oherwydd byddwch chi’n cael mwy o gymorth gan gyfoethion a gan eich addysgwyr.
Athro
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Clywch gan fyfyriwr:
Download this video clip.Video player: Myfyriwr


Transcript: Myfyriwr
Felly pam wnes i ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol? Oherwydd dwi yn berson oedd yn Gymraeg iaith gyntaf ac yn teimlo’n gryf dros yr iaith ac hefyd wedi ei astudio fel Lefel A ac arholiadau TGAU yn yr ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg, felly oedd yn bwysig iawn i mi mod i’n cael y cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg – ac oherwydd oedd na modiwlau ar gael yma ym Mangor, roeddwn i’n teimlo bod nhw yna i fyfyrwyr fel fi fy hun ac roeddwn i yn teimlo hefyd bod yn rhoi mantais i fi bod fi’n rhoi gwaith i fewn a gwneud arholidau a phrofion ac ati trwy fy iaith gyntaf
Felly, my mhrofiad o astudio yn y Gymraeg yma yn y brifysgol yw, gan fod y modiwlau ar gael yn y Gymraeg, mi wnes i gymryd mantais o hyn a dewis yr holl fodiwlau oedd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer eu hastudio. Fues i’n ffodus iawn yn cael fy mhenodi gyda tiwtor oedd yn siarad Cymraeg ac felly’n gallu astudio ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac oherwydd hwnna dwi’n meddwl bod hwnna di bod yn gefnogaeth fawr i mi gyflawni fy ngradd.
Yn ogystal a hyn, mae na nifer helaeth o ddarlithwyr o fewn y brifysgol ac o fewn adran ni yn benodol sydd yn siarad Cymraeg ac yn hybu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg – ac oherwydd bod na ddim problem gydag unrhyw ddarn o waith trwy gyfrwng y Gymraeg, boed o yn wneud cyflwyniad neu sgwennu traethawd neu eistedd arholiad, dwi yn teimlo bod hwn wedi fy ngwthio ymlaen trwy fy gradd o gael gwneud gwaith yn fy iaith gyntaf
Dwi’n meddwl bod o’n bwysig hefyd cofio am yr adnoddau eraill ar gael wrth astudio fy ngradd yn cefnogi fi trwyddo fo, er enghraifft, adnoddau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yng Nghanolfan Bedwyr, sef yr uned ar gyfer y Gymraeg yma yn y brifysgol. Bod cael adnoddau, er enghraifft, Cysgair a Cysill a pob math o bethau er mwyn ein helpu ni fel myfyrwyr i ddefnyddio ein Cymraeg ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, yn help mawr i mi ar gyfer astudio fy ngradd.
Felly pam byswn i’n argymell i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a dewis y modiwlau Cymraeg hyn? Wel, dwi’n teimlo fel person – fel dwi di son yn barod – sy’n iaith gyntaf y Gymraeg, dwi’n teimlo bod na gyfrifoldeb arnyn ni fel myfyrwyr Cymraeg i ddewis y modiwlau hyn. Wrth gwrs, mae’r brifysgol yn eu rhoed nhw ar y daflen modiwlau ar ein cyfer ni, felly rwy’n teimlo bod hi’n bwysig bod y myfyrwyr yn manteisio ar hyn. Dwi hefyd yn teimlo bod o wedi rhoi rhywfaint o brofiad ychwanegol i mi gan fod ffy mod i wedi dod i nabod y staff Gymraeg yn dda a bod fi hefyd wedi dod i nabod myfyrwyr Cymraeg eraill ,felly rwy’n credu bod na nifer o fanteision i fyfyrwyr wneud hyn.
Dwi’n meddwl bod hi hefyd yn bwysig cofio bod y pethau ma ar gael – dwi’n meddwl ella bod ambell myfyrfiwr ddim yn ymwybodol o’r holl adnoddau Cymraeg sydd ar gael ac oherwydd hynny yn peidio dewis y modiwlau hyn, ond dwi’n meddwl bod o’n bwysig ein bod ni’n eu dewis nhw er mwyn eu hargymell nhw ar gyfer myfyrwyr y dyfodol ac yn y blaen.
Dwi yn teimlo bod gallu gwneud cyflwyniadau a bod yn ddwyieithog, wrth gwrs yn siarad Cymraeg ac yn Saesneg, a bod yn hyderus yn sgwennu ac yn darllen drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn rhoi mantais ychwnaegol i fyfyrwyr ymhellach ymlaen yn eu gyrfa, er enghraifft, os ydyn nhw yn ymgeisio am swydd, yn enwedig y dyddiau yma, ma na bwyslais mewn nifer o swyddi fod yr ymgeiswyr yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg yma yng Nghymru, felly dwi yn credu bod y gallu i ysgrifennu yn ffurfiol ac ysgrifennu o safon drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi mantais ychwanegol nes ymlaen mewn bywyd.
Dwi hefyd yn teimlo bod yr adnoddau sydd ar gael yma i’w defnyddio ac felly mae eisiau gwneud y fwyaf ohonyn nhw. Hefyd, dwi’n siarad gyda nifer o ffrindiau fi, sydd efallai wedi mynd i ffwrdd i brifysgol neu wedi dewis astudio modiwlau trwy gyfrwng y Saesneg, sydd yn teimlo ar ôl gadael y brifysgol eu bod eu Cymraeg nhw wedi dirywio ac oherwydd hyn nad ydyn nhw mor hyderus yn yr iaith. Felly dwi yn teimlo bod na gyfrifoldeb i ddewis y modiwlau hyn er budd ein hunain ac er budd y Gymraeg.
Myfyriwr
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Pam dewis astudio drwy’r Gymraeg? Mae rhesymau a phrofiad pawb yn wahanol, ond dyma’r prif fanteision mae myfyrwyr eu hunain yn nodi [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] o astudio cwrs drwy’r Gymraeg:
- Cymorth ariannol drwy ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Dosbarthiadau llai ac felly profiad dysgu fwy personol a chefnogol
- Dod i adnabod darlithwyr a chyd-fyfyrwyr yn well
- Gwell opsiynau gyrfa a chyfleoedd cyflogaeth trwy cael sgiliau ychwanegol ar y CV
- Codi hyder a gwella sgiliau iaith Cymraeg
- Deall y pwnc yn well trwy gweithredu mewn dwy iaith
Eisiau clywed mwy gan fyfyrwyr am y manteision o astudio cyrsiau drwy’r Gymraeg? Cymerwch olwg ar flogiau Llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu dilynwch #llaisllysgennad ar trydar.