Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Astudio’r gwyddorau naturiol yn ddwyieithog
Astudio’r gwyddorau naturiol yn ddwyieithog

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

OK, ond... ydy fy Nghymraeg yn ddigon da?

Dim yn siŵr os ydy eich Cymraeg yn ddigon da i astudio pwnc gwyddonol drwy’r Gymraeg yn y brifysgol? Gall hyn fod yn bryder i rai unigolion am amryw o resymau. Efallai fod cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd yn brin. Neu efallai eich bod yn digon cyfforddus yn defnyddio’r Gymraeg gyda ffrindiau neu teulu, ond yn ansicr mewn sefyllfaoedd academaidd. Efallai eich bod yn poeni am ddysgu terminoleg gwyddonol newydd yn y brifysgol. Peidiwch â phoeni. Mae astudio drwy’r Gymraeg yn gyfle yn ei hun i adeiladu eich hyder yn yr iaith, trwy:

  • dysgu mewn grŵpiau bach gyda myfyrwyr o gefndiroedd ieithyddol amrywiol
  • arweiniad gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr byd-eang yn eu maes
  • cefnogaeth ieithyddol, megis:

Cymerwch olwg ar flog Rhiannon, myfyriwr Sŵoleg, am ei phrofiad hi a’i ‘tips’ am astudio pwnc gwyddonol drwy’r Gymraeg.