Ydych chi erioed wedi sylwi pa mor aml mae angen sgiliau mathemateg arnoch yn eich bywyd bob dydd? Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn mathemateg. Mae wedi ei ddylunio i’ch ysbrydoli chi i wella’ch sgiliau mathemateg ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd a aeth yn angof.
Bydd gweithio trwy’r enghreifftiau a gweithgareddau rhyngweithiol y cwrs
hwn yn eich helpu chi i redeg cartref neu symud ymlaen yn eich gyrfa, ymysg
pethau eraill. Er mwyn cwblhau’r cwrs, bydd arnoch angen cyfrifiannell, llyfr
nodiadau ac ysgrifbin.
Bydd cofrestru ar y cwrs hwn yn cynnig y cyfle ichi ennill bathodyn
digidol y Brifysgol Agored. Mae’r bathodyn yn ffordd dda o ddangos eich
diddordeb yn y pwnc. Bydd yr hyn a ddysgwch drwy gwblhau’r cwrs o fudd mawr os
hoffech gofrestru am gymhwyster ffurfiol.
Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.
First Published: 14/05/2019
Updated: 15/04/2020