3.2 Y Senedd (Senedd Cymru)

Gweithio gydag Aelodau’r Senedd sy’n eich cynrychioli chi
Mae’r Senedd (a elwir fel arall yn Senedd Cymru, a Chynulliad Cenedlaethol Cymru neu Gynulliad Cymru gynt) yn cynnwys 96 Aelod o’r Senedd (AS).
Yn yr un modd â Senedd yr Alban, cynrychiolir trigolion Cymru gan fwy nag un AS. Ers cyflwyno diwygiadau yn 2026, mae Cymru wedi'i rhannu'n 16 etholaeth, pob un yn ethol chwe AS gan ddefnyddio cynrychiolaeth gyfrannol. O ganlyniad, cynrychiolir pobl gan ASau lluosog ar gyfer eu hetholaeth yn hytrach na chynrychiolwyr etholaethol a rhanbarthol ar wahân.
Mae ASau yn gweithio i ddal llywodraeth Cymru i gyfrif, yn ogystal â datrys materion a godir gan etholwyr sy’n ymwneud â materion sydd wedi’u datganoli i Senedd Cymru. Gallwch edrych i weld pa feysydd y mae gan y Senedd bŵer drostynt yma, mae meysydd eraill yn cael sylw gan Senedd y DU neu gynghorau lleol.
Chwiliwch am eich AS yn ôl cod post yma. Gellir cysylltu â swyddfeydd AS drwy lythyr, e-bost, ffôn a chyfryngau cymdeithasol, ac mae’r Aelodau’n cynnal cymorthfeydd rheolaidd. Edrychwch ar yr hanfodion yn Adran 2.2 i gael cyngor ar gysylltu â chynrychiolwyr etholedig.
Gall AS godi materion sydd wedi cael eu dwyn i’w sylw mewn amryw o ffyrdd. Er enghraifft, gall ofyn cwestiwn i Weinidog (gan gynnwys y Prif Weinidog) yn ystod cyfarfodydd llawn y Senedd. Cynhelir y cyfarfodydd hyn yn y brif siambr drafod, y Siambr, ar ddydd Mawrth a dydd Mercher. Gallant hefyd ofyn cwestiynau ysgrifenedig, gwneud pwyntiau yn ystod dadl, codi materion mewn cyfarfodydd pwyllgor, neu ysgrifennu’n uniongyrchol at lunwyr penderfyniadau.
Yn ogystal â helpu a chefnogi etholwyr, mae gan Aelodau Seneddol hefyd rôl bwysig i’w chwarae o ran craffu ar gyfreithiau a threthi. Felly, mae ASau yn gweithio i gynrychioli Cymru a’r materion sy’n bwysig i’r bobl sy’n byw yno, drwy eu cyfraniadau.
Llofnodi neu greu deiseb
Gellir defnyddio deisebau i’r Senedd i dynnu sylw at fater sy’n peri pryder (os oes gan y Senedd bŵer dros y mater dan sylw). Mae deisebau sydd â digon o lofnodion ac sy’n bodloni’r safonau gofynnol (gan gynnwys bod gan yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n ei dechrau gyfeiriad yng Nghymru) yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
- Bydd deisebau sydd â dros 250 o lofnodion yn cael eu hadolygu gan y Pwyllgor Deisebau, a fydd yn penderfynu beth y gallant ei wneud i fwrw ymlaen â’r ddeiseb, sy’n cynnwys gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu.
- Bydd deisebau sydd â thros 10,000 o lofnodion yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor ar gyfer dadl yn siambr y Senedd. Mae’r ffactorau sy’n cael eu hystyried yn cynnwys y pwnc, pa mor frys ydyw, a nifer y llofnodion gan drigolion Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am ddeisebau’r Senedd ar gael yma.

Gweithio gyda Grwpiau Trawsbleidiol
Gall aelodau’r Senedd sefydlu Grwpiau Trawsbleidiol sy’n ymwneud â materion sy’n cael sylw gan y Senedd. Rhaid iddynt gynnwys cynrychiolwyr o dri grŵp gwleidyddol gwahanol o leiaf sy'n cael eu cynrychioli yn y Senedd. Er nad oes ganddynt rôl ffurfiol yn y gwaith o lunio polisïau, maent mewn sefyllfa dda i godi ymwybyddiaeth o faterion. Mae Grwpiau Trawsbleidiol hefyd yn ffordd wych i grwpiau diddordeb a chyrff ymgyrchu siarad yn uniongyrchol ag ASau a thrafod materion polisi yn fanwl.
Gallwch weld y Grwpiau Trawsbleidiol a’r manylion cyswllt ar hyn o bryd yma.
Rhoi tystiolaeth i Bwyllgorau
Mae Pwyllgorau’r Senedd yn archwilio deddfwriaeth arfaethedig ac yn craffu ar wariant a pholisïau llywodraeth Cymru. Mae Pwyllgorau’n cynnwys Aelodau o wahanol bleidiau gwleidyddol, a benodir gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn, ac maent yn canolbwyntio ar bynciau penodol. Gall trigolion Cymru gysylltu â phwyllgorau i awgrymu materion y dylid edrych arnynt yn fanwl yn eu barn nhw.
Gall pwyllgorau gasglu tystiolaeth gan y cyhoedd a sefydliadau ac yna ysgrifennu adroddiad ar gyfer y llywodraeth. Cyhoeddir galwadau am dystiolaeth ysgrifenedig ar dudalen we’r pwyllgor. Caiff pwyllgor ddefnyddio’r dystiolaeth ysgrifenedig hon wrth benderfynu pwy i’w gwahodd i sesiwn tystiolaeth lafar i drafod y mater ymhellach.
Mae Pwyllgorau presennol y Senedd ar gael yma.
Mae’r rhain yn gyfleoedd gwych i Aelodau’r Senedd glywed am faterion y mae trigolion Cymru yn pryderu yn eu cylch, ac yna codi ymwybyddiaeth ohonynt yn y Senedd a’r tu allan iddi.
OpenLearn - Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.