6 Beth yw gwneuthurwr newid?
Gall sicrhau newid fod yn anodd. Efallai y cewch lwyddiant ar unwaith neu efallai y bydd yn rhaid i chi ymgyrchu a lobïo am amser hir. Efallai y byddwch yn gwneud rhywfaint o gynnydd ond wedyn yn wynebu rhwystr.
Gyda hyn mewn golwg, pa rinweddau sydd eu hangen ar wneuthurwr newid?
- Ymwybyddiaeth emosiynol ac empathi:gwneud ymdrech i ddeall sut mae pobl eraill yn teimlo – bydd hyn yn helpu wrth gyfathrebu â phobl yn eich tîm eich hun a’r tu allan iddo. Gall rhoi eich hun yn sefyllfa pobl eraill hefyd helpu i gryfhau eich dadl. Hefyd, byddwch yn ymwybodol o sut rydych chi’n teimlo a sut mae hyn yn effeithio ar eich perfformiad eich hun.
- Optimistiaeth:cadw’n bositif, ond...
- Realaeth:...bod yn realistig. Deall beth mae modd ei gyflawni a gosod nodau cyraeddadwy.
- Sgiliau gwrando:gwrando ar aelodau eraill eich tîm a grwpiau ymgyrchu eraill – gan gynnwys pobl sy’n anghytuno â chi. Gall gwrando ar bobl â safbwyntiau gwahanol eich helpu i gryfhau eich dadl, neu i feddwl am atebion sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr.
- Sgiliau cyfathrebu:efallai y bydd angen i chi gyfathrebu’n ‘ffurfiol’ (ysgrifennu at wleidydd neu gyflwyno tystiolaeth i bwyllgor) yn ogystal ag yn ‘anffurfiol’ (ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol). Mae angen i chi ystyried gwahanol ‘ddulliau’ o gyfathrebu (ysgrifenedig, gweledol) a sut i gyfathrebu â gwahanol grwpiau o bobl (gwleidyddion, y cyhoedd ac ati).
- Pendantrwydd:sefyll dros yr hyn rydych chi’n credu ynddo, ond mewn ffordd dawel a chadarnhaol.
- Meddwl strategol:nodi eich nodau tymor hir a sut rydych chi’n bwriadu eu cyflawni.
- Ffocws:meddwl am ganlyniad clir a cheisio peidio â gadael i faterion eraill dynnu eich sylw.
- Gwytnwch:os ydych chi’n wynebu rhwystr, dylech ail-ffocysu ac ail-lunio eich strategaeth.
- Hunan-gymhelliant:gallu gyrru eich hun i weithredu, hyd yn oed yn wyneb rhwystrau. Cadwch eich nod terfynol mewn cof.
- Trefnus: bod yn glir yn yr hyn yr ydych am ei gyflawni, gyda gwaith cynllunio a chadw cofnodion da.
- Hyblygrwydd:bod yn agored i newid a gallu ymateb i amgylchiadau sydd wedi newid.
- Gallu gweithio gydag eraill:mae’n bosibl cyflawni newid gan weithio ar eich pen eich hun, er ei bod yn aml yn haws mewn tîm. Bydd hyn yn golygu gweithio gyda phobl a allai fod â safbwyntiau gwahanol i chi (hyd yn oed os ydyn nhw’n rhannu eich nod terfynol a/neu’n rhan o’ch tîm).
- Creadigrwydd:defnyddio dychymyg wrth ymgyrchu. Meddyliwch am y gwahanol ffyrdd y gallwch ymgysylltu â’r cyhoedd a sut y gallwch roi cyhoeddusrwydd i’ch ymgyrch mor eang â phosibl gan ddefnyddio gwahanol ddulliau.
OpenLearn - Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.