Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol
Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Sut mae dechrau newid

Gellir canolbwyntio newid ar:

  • Elfen wleidyddol; er enghraifft, ymgyrchu dros newid llywodraeth neu newid polisi.
  • Elfen gymdeithasol; newid sut mae rhywbeth yn gweithio mewn cymdeithas, fel yr hawliau sydd gan grŵp.
Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 3: Enghraifft o brotest wleidyddol.

Wrth gwrs, mae’r pethau hyn yn gorgyffwrdd – gall ymgyrchu dros newid cymdeithasol arwain at newid gwleidyddol. Gall y newid fod yn fawr neu’n fach. Gallai fod yn weithred unigol fach sy’n arwain at newid llawer mwy. Mae llawer o wahanol ffyrdd y gallwch chi newid pethau, boed hynny drwy ymgysylltu â Senedd y DU i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed neu drwy ddefnyddio sianeli eraill.

Darllenwch isod i gael arweiniad ar sut i ddechrau arni:

  • Gwneud eich gwaith ymchwil: mae’n bwysig casglu’r holl ffeithiau, enwau pobl a sefydliadau allweddol, a gwybodaeth am y ffordd orau o sicrhau newid; darllen y newyddion a chadw golwg ar y mater a’r gwahanol safbwyntiau sy’n gysylltiedig ag ef – ceisiwch ddeall ‘ochr arall’ y ddadl gan y bydd hyn yn eich helpu i gyflwyno eich dadl
  • Penderfynu ar eich nodau: beth ydych chi’n ceisio ei gyflawni? Mae’n ddefnyddiol cael nifer cyfyngedig o amcanion clir; gall canolbwyntio ar atebion gwybodus fod yn ddefnyddiol
  • Estyn allan at bobl eraill: efallai y gallwch ymuno mewn ymgyrch sydd eisoes yn bodoli neu wneud eich ymgyrch eich hun yn gryfach drwy weithio gydag eraill
  • Nodi eich targed: pwy yw’r unigolyn neu’r grŵp gorau i fynd ato i wneud newid? Pwy sy’n gwneud y penderfyniad? Pwy sy’n gyfrifol? Gallai hyn fod yn unigolyn, yn nifer o bobl, yn sefydliad, yn gyngor neu’n senedd, neu’r cyhoedd hyd yn oed – mae’n dibynnu ar eich nodau
  • Ystyried yr amseru: rhy gynnar ac efallai na fyddwch yn cael effaith, rhy hwyr ac efallai na fyddwch yn gallu dylanwadu. Cydnabod pa mor amserol yw mater, a pha bryd y gallai’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau fod yn barod i dderbyn rhai dadleuon
  • Ystyried y modd: a ddylai eich ffocws fod ar gyfryngau cymdeithasol, ar adroddiad ffurfiol, neu ar siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus? Beth yw eich sgiliau? Mae’n debyg y bydd angen i chi ymgyrchu mewn mwy nag un modd
  • Meddyliwch am hygyrchedd: gwnewch yn siŵr bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu ymgysylltu â’ch cynnwys (er enghraifft, darparu isdeitlau ar fideos, neu drawsgrifiad o araith)
  • Cysylltu â’ch cynrychiolwyr: os ydych chi'n gobeithio newid y gyfraith, efallai y bydd angen i chi gysylltu neu lobïo eich cynrychiolydd etholedig; gallai hwn fod yn gynghorydd neu'n aelod o senedd neu gynulliad (megis Senedd y DU)
  • Rhoi cyhoeddusrwydd i’ch ymgyrch: meddyliwch am y ffordd orau o hyrwyddo eich achos. Gallech ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu llythyrau at bapurau newydd, a siarad mewn cyfarfodydd a digwyddiadau er enghraifft
  • Yn olaf: dechreuwch yn fach: gall gweithredoedd bach arwain at newid mawr!

O ran y modd, a’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i gyfleu newid drwy siarad cyhoeddus, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen ‘Dare to speak up’, a guide to communicating change via persuasive speech [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ’.

Gweithgaredd 1: dechrau arni i sicrhau newid

Timing: 15 munud

Meddyliwch a oes unrhyw faterion cenedlaethol neu ryngwladol rydych chi’n teimlo’n angerddol yn eu cylch a sut gallech chi gymryd rhan. Meddyliwch a oes pobl neu grwpiau eisoes yn ymgyrchu dros y mater hwn, a pha lefel o gyfranogiad y gallwch ymrwymo iddi (gallai hyn fod mor syml â llofnodi deiseb, neu ysgrifennu amdani ar y cyfryngau cymdeithasol, neu gallai olygu mwy o ymrwymiad amser).

Un o’r ffyrdd y gallech fod eisiau newid os ydych wedi’ch lleoli yn y DU yw drwy Senedd y DU. Darllenwch i weld sut gallwch chi wneud hyn.