2.2 Cael cefnogaeth eich AS
Gall perswadio eich AS lleol i gefnogi eich ymgyrch fod yn gam tuag at godi’r materion sy'n bwysig i chi yn Senedd y DU.
Mae’n debyg mai ysgrifennu (drwy lythyr neu e-bost) yw’r ffordd orau o gysylltu â’ch AS (neu unrhyw gynrychiolydd etholedig arall fel cynrychiolydd datganoledig, neu aelod o Dŷ’r Arglwyddi) ac mae’n darparu cofnod ysgrifenedig y gellir cyfeirio ato yn nes ymlaen.
Wrth ysgrifennu, cofiwch yr awgrymiadau hyn:
COFIWCH:
Cyn ysgrifennu:
- Llunio disgrifiad clir o’r hyn y mae eich ymgyrch yn ceisio’i gyflawni.
- Casglu tystiolaeth i gefnogi eich ymgyrch.
- Ystyried sut mae eich mater yn cyd-fynd â’u buddiannau polisi.
- Gwneud yn siŵr bod gennych chi syniad clir pam eich bod am iddyn nhw gymryd rhan.
- Meddwl pa gamau yr hoffech iddynt eu cymryd.
Wrth ysgrifennu:
- Esboniwch pwy ydych chi a nodwch yn glir y mater yr ydych am ei godi gyda nhw.
- Gofynnwch iddynt wneud rhywbeth penodol, e.e. gofyn cwestiwn yn ystod dadl neu sesiwn, neu fynd i gyfarfod gyda’ch grŵp ymgyrchu i drafod y mater ymhellach.
- Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt.
Ar ôl ysgrifennu:
- Rhowch amser iddynt ymateb. Maent yn brysur yn jyglo eu hamser rhwng eu gwaith etholaethol a’u swydd fel cynrychiolydd etholedig, felly gall gymryd peth amser iddynt ymateb. Ond mae’n iawn i chi fynd ar drywydd hyn os nad ydych chi’n clywed yn ôl.
PEIDIWCH Â...Rhefru! Efallai nad ydych yn cytuno â nhw ar rai materion, ond nhw yw eich cynrychiolydd, felly mae meithrin perthynas gadarnhaol yn fwy tebygol o godi eich mater ar yr agenda.