Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol
Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Senedd yr Alban

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 7: Logo Senedd yr Alban.

Gallwch geisio newid pethau drwy Senedd yr Alban yn y ffyrdd canlynol.

Gweithio gyda’ch cynrychiolydd etholedig

Mae aelodau Senedd yr Alban yn cynrychioli etholwyr yn Senedd yr Alban, yn ogystal ag archwilio gwaith Llywodraeth yr Alban a’i dal i gyfrif. Gall ASAau helpu etholwyr gyda materion sydd wedi’u datganoli i Senedd yr Alban (rhagor o wybodaeth yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ) – Senedd y DU neu gynghorau lleol sy’n delio â materion eraill. Yn wahanol i Senedd y DU, caiff trigolion yr Alban eu cynrychioli gan fwy nag un ASA:

  • Un ASA etholaeth, sy’n cynrychioli ardal leol.
  • Saith ASA ranbarthol, sy’n cynrychioli ardal fwy sy’n cynnwys etholaeth rhywun.

Chwiliwch am eich ASA yn ôl cod post yma. Gellir cysylltu â swyddfeydd ASA drwy lythyr, e-bost a dros y ffôn, ac mae’r Aelodau’n cynnal cymorthfeydd rheolaidd. Edrychwch ar yr hanfodion yn Adran 2.2 i gael cyngor ar gysylltu â’ch cynrychiolwyr etholedig.

Mae llawer o ffyrdd y gall ASA helpu etholwr i newid pethau. Yn y siambr ddadlau, gall Aelodau o Senedd yr Alban gyflwyno cynnig am broblem y mae etholwr wedi’i dwyn i’w sylw a gofyn i Senedd yr Alban fynd i’r afael â hi. Gall ASAau hefyd godi materion lleol a chenedlaethol a chwestiynu polisi’r llywodraeth yn ystod Hawl i Holi’r Prif Weinidog a Chwestiynau Holi eraill (testun, cyffredinol a phortffolio), yn ogystal ag anfon cwestiynau ysgrifenedig. Mae’r rhain yn gyfleoedd gwych i ASAau godi ymwybyddiaeth o faterion y mae etholwyr wedi cysylltu â hwy yn eu cylch.

Gall ASAau hefyd gynnig hyd at ddau Fil Aelod yn ystod pob sesiwn seneddol pedair blynedd; gall y rhain ymwneud â materion y mae etholwr wedi’u codi. Gallwch weld y cynigion sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno yma.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 8: Siambr drafod Senedd yr Alban.

Gweithio gyda Grwpiau Trawsbleidiol

Mae grwpiau trawsbleidiol yn cynnwys Aelodau o Senedd yr Alban a phobl eraill sydd â diddordeb mewn mater penodol. Rhaid iddynt gynnwys ASAau o fwy nag un blaid wleidyddol. Er nad oes ganddynt unrhyw bwerau i gyflwyno materion yn ffurfiol i’r system seneddol, mae’r grwpiau’n lle defnyddiol i randdeiliaid allanol, gan gynnwys sefydliadau ac aelodau o’r cyhoedd, drafod materion sy’n berthnasol i ASAau, rhannu gwybodaeth, a chodi ymwybyddiaeth o faterion a all, yn ei dro, effeithio ar yr agenda wleidyddol ehangach. Mae rhagor o wybodaeth am Grwpiau Trawsbleidiol ar gael yma.

Rhoi eich barn i Bwyllgorau

Mae pwyllgorau am gael gwybod beth yw barn trigolion yr Alban er mwyn helpu Aelodau gyda’u hymholiadau. Gallwch gyflwyno eich barn am ymchwiliadau ac ymgynghoriadau cyfredol y pwyllgor drwy chwilio am y materion diweddaraf sy’n cael eu trafod ar wefan Senedd yr Alban.

Os yw’r drafodaeth yn ymwneud â bil, gallwch fel arfer gyflwyno ymateb manwl ar-lein ar fanylion y bil neu ateb arolwg byr ar egwyddorion cyffredinol y bil. Mae pynciau eraill hefyd yn cael eu trafod lle gofynnir am adborth yn fwy cyffredinol drwy ffurflen gyflwyno neu fforwm trafod ar-lein.

Efallai hefyd y cewch eich galw i fod yn dyst mewn sesiwn pwyllgor, os yw’r pwyllgor yn teimlo bod gennych wybodaeth bwysig i’w harchwilio’n fanylach.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae Pwyllgorau Senedd yr Alban yn gweithio drwy wylio Fideo 1.

Download this video clip.Video player: Fideo 1: There shall be a Scottish Parliament – Committees (Sylwch nad oes llais i'w glywed ar y fideo hwn)
Fideo 1: There shall be a Scottish Parliament – Committees (Sylwch nad oes llais i'w glywed ar y fideo hwn)
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Cyflwyno neu lofnodi deiseb

Gall unrhyw berson neu sefydliad gyflwyno deiseb – does dim angen i chi fyw yn yr Alban hyd yn oed, a does dim ots pa mor hen ydych chi. Mae’r Pwyllgor Cyfranogiad Dinasyddion a Deisebau Cyhoeddus yn gosod y rheolau ynghylch sut mae deisebau’n gweithio.

Un o’r rheolau pwysicaf yw bod rhaid i’r ddeiseb ymwneud â a) rhywbeth sydd wedi’i ddatganoli i Senedd yr Alban, b) sy’n berthnasol i’r Alban gyfan.

Dylech hefyd fod wedi cysylltu â naill ai ASA neu lywodraeth yr Alban cyn dechrau’r ddeiseb, a rhoi gwybod i’r Pwyllgor beth ddigwyddodd o ganlyniad i’r cyswllt hwnnw. Os bydd eich deiseb yn bodloni’r rheolau ac yn cael ei chymeradwyo, bydd yn cael ei hychwanegu at y wefan Deisebau er mwyn i bobl eraill ei llofnodi.

Ar ôl i’ch deiseb gael ei chyhoeddi, bydd y Pwyllgor yn edrych arni ac yna’n penderfynu pa gamau i’w cymryd. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Gofyn i lywodraeth yr Alban, sefydliadau neu unigolion ymateb.
  • Gofyn i’r deisebydd am fwy o wybodaeth neu ofyn iddo siarad â’r Pwyllgor am y ddeiseb.
  • Argymell camau gweithredu ar gyfer llywodraeth yr Alban.
  • Gofyn am ddadl yn y Siambr.
  • Ei chyfeirio at bwyllgor arall.
  • Cau’r ddeiseb.

Mae rhagor o wybodaeth am ddeisebau Senedd yr Alban ar gael yma.

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am sut mae deisebau Senedd yr Alban yn gweithio drwy wylio Fideo 2.

Download this video clip.Video player: Fideo 2: Petitioning the Scottish Parliament (Sylwch nad oes llais i'w glywed ar y fideo hwn)
Fideo 2: Petitioning the Scottish Parliament (Sylwch nad oes llais i'w glywed ar y fideo hwn)
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Cymryd rhan mewn protest neu wrthdystiad heddychlon

Mae gan Senedd yr Alban bolisi protest heddychlon swyddogol dan y faner ‘agored, hygyrch a chyfranogol’ gyda phrotestiadau yn ‘rhan hanfodol o fynegi democratiaeth yn yr Alban’. Dylai unrhyw un sy’n cynllunio protest yn Senedd yr Alban ysgrifennu at heddlu neu unedau diogelwch Senedd yr Alban i ofyn am ganiatâd i gynllunio protest swyddogol ar dir Senedd yr Alban. I gael eu cymeradwyo, rhaid i brotestiadau fynd i’r afael â holl reolau’r polisi swyddogol, fel bod yn ddi-blaid. Mae rhagor o wybodaeth am drefnu protest ar dir Senedd yr Alban ar gael yma.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 9: Mae streic newid hinsawdd wedi'i threfnu gan fyfyrwyr yn digwydd y tu allan i Senedd yr Alban.

Cynnal digwyddiad codi ymwybyddiaeth yn y Senedd

Fel arfer, bydd digwyddiadau a noddir gan ASA yn cael eu cynnal ar ddiwrnodau busnes yn ystod amser cinio a gyda’r nos. Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o fater gydag ASAau yn y Senedd ac maent yn cael eu cynnal mewn gwahanol rannau o’r adeilad, yn dibynnu ar ba mor fawr yw’r digwyddiad.

Gall Aelodau o Senedd yr Alban hefyd noddi arddangosfeydd i gyfrannu at waith y Senedd a chodi ymwybyddiaeth o faterion, a galwadau am luniau (mae’r rhain yn gyfle i dynnu lluniau Aelodau o Senedd yr Alban yn cefnogi achos).

Rhaid i ddigwyddiadau beidio â bod yn wleidyddol ond gallant adlewyrchu buddiannau a sefyllfa polisi ASA. Mae lleoliadau ar gael am ddim, er ei bod yn costio i logi offer clywedol. Mae rhagor o wybodaeth am drefnu digwyddiad ar gael yma.