Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol
Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Y Senedd (Senedd Cymru)

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 10: Logo Senedd Cymru.

Gweithio gydag Aelodau’r Senedd sy’n eich cynrychioli chi

Mae’r Senedd (a elwir fel arall yn Senedd Cymru, a Chynulliad Cenedlaethol Cymru neu Gynulliad Cymru gynt) yn cynnwys 60 Aelod o’r Senedd (AS).

Yn yr un modd â Senedd yr Alban, cynrychiolir trigolion Cymru gan fwy nag un AS: un yn cynrychioli’r ardal leol (yr etholaeth), a phedwar arall yn cynrychioli rhanbarth Cymru lle mae’r person yn byw.

Mae ASau yn gweithio i ddal llywodraeth Cymru i gyfrif, yn ogystal â datrys materion a godir gan etholwyr sy’n ymwneud â materion sydd wedi’u datganoli i Senedd Cymru. Gallwch edrych i weld pa feysydd y mae gan y Senedd bŵer drostynt yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , mae meysydd eraill yn cael sylw gan Senedd y DU neu gynghorau lleol.

Chwiliwch am eich AS yn ôl cod post yma. Gellir cysylltu â swyddfeydd AS drwy lythyr, e-bost, ffôn a chyfryngau cymdeithasol, ac mae’r Aelodau’n cynnal cymorthfeydd rheolaidd. Edrychwch ar yr hanfodion yn Adran 2.2 i gael cyngor ar gysylltu â chynrychiolwyr etholedig.

Gall AS godi materion sydd wedi cael eu dwyn i’w sylw mewn amryw o ffyrdd. Er enghraifft, gall ofyn cwestiwn i Weinidog (gan gynnwys y Prif Weinidog) yn ystod cyfarfodydd llawn y Senedd. Cynhelir y cyfarfodydd hyn yn y brif siambr drafod, y Siambr, ar ddydd Mawrth a dydd Mercher. Gallant hefyd ofyn cwestiynau ysgrifenedig, gwneud pwyntiau yn ystod dadl, codi materion mewn cyfarfodydd pwyllgor, neu ysgrifennu’n uniongyrchol at lunwyr penderfyniadau.

Yn ogystal â helpu a chefnogi etholwyr, mae gan Aelodau Seneddol hefyd rôl bwysig i’w chwarae o ran craffu ar gyfreithiau a threthi. Felly, mae ASau yn gweithio i gynrychioli Cymru a’r materion sy’n bwysig i’r bobl sy’n byw yno, drwy eu cyfraniadau.

Llofnodi neu greu deiseb

Gellir defnyddio deisebau i’r Senedd i dynnu sylw at fater sy’n peri pryder (os oes gan y Senedd bŵer dros y mater dan sylw). Mae deisebau sydd â digon o lofnodion ac sy’n bodloni’r safonau gofynnol (gan gynnwys bod gan yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n ei dechrau gyfeiriad yng Nghymru) yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • Bydd deisebau sydd â dros 250 o lofnodion yn cael eu hadolygu gan y Pwyllgor Deisebau, a fydd yn penderfynu beth y gallant ei wneud i fwrw ymlaen â’r ddeiseb, sy’n cynnwys gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu.
  • Bydd deisebau sydd â thros 10,000 o lofnodion yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor ar gyfer dadl yn siambr y Senedd. Mae’r ffactorau sy’n cael eu hystyried yn cynnwys y pwnc, pa mor frys ydyw, a nifer y llofnodion gan drigolion Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am ddeisebau’r Senedd ar gael yma.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 11: Senedd Cymru.

Gweithio gyda Grwpiau Trawsbleidiol

Gall aelodau’r Senedd sefydlu Grwpiau Trawsbleidiol sy’n ymwneud â materion sy’n cael sylw gan y Senedd. Rhaid iddynt gynnwys cynrychiolwyr o dri grŵp gwleidyddol gwahanol o leiaf sy'n cael eu cynrychioli yn y Senedd. Er nad oes ganddynt rôl ffurfiol yn y gwaith o lunio polisïau, maent mewn sefyllfa dda i godi ymwybyddiaeth o faterion. Mae Grwpiau Trawsbleidiol hefyd yn ffordd wych i grwpiau diddordeb a chyrff ymgyrchu siarad yn uniongyrchol ag ASau a thrafod materion polisi yn fanwl.

Gallwch weld y Grwpiau Trawsbleidiol a’r manylion cyswllt ar hyn o bryd yma.

Rhoi tystiolaeth i Bwyllgorau

Mae Pwyllgorau’r Senedd yn archwilio deddfwriaeth arfaethedig ac yn craffu ar wariant a pholisïau llywodraeth Cymru. Mae Pwyllgorau’n cynnwys Aelodau o wahanol bleidiau gwleidyddol, a benodir gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn, ac maent yn canolbwyntio ar bynciau penodol. Gall trigolion Cymru gysylltu â phwyllgorau i awgrymu materion y dylid edrych arnynt yn fanwl yn eu barn nhw.

Gall pwyllgorau gasglu tystiolaeth gan y cyhoedd a sefydliadau ac yna ysgrifennu adroddiad ar gyfer y llywodraeth. Cyhoeddir galwadau am dystiolaeth ysgrifenedig ar dudalen we’r pwyllgor. Caiff pwyllgor ddefnyddio’r dystiolaeth ysgrifenedig hon wrth benderfynu pwy i’w gwahodd i sesiwn tystiolaeth lafar i drafod y mater ymhellach.

Mae Pwyllgorau presennol y Senedd ar gael yma.

Mae’r rhain yn gyfleoedd gwych i Aelodau’r Senedd glywed am faterion y mae trigolion Cymru yn pryderu yn eu cylch, ac yna codi ymwybyddiaeth ohonynt yn y Senedd a’r tu allan iddi.