6.1 Ysbrydoliaeth
Pa enghreifftiau sy’n eich ysbrydoli chi? Gan bwy allwch chi ddysgu? Er bod rhai (ond nid pob un) o’r gwneuthurwyr newid a ddewiswyd wedi gallu manteisio ar eu henwogrwydd neu eu safle wrth sicrhau newid, rhywbeth nad yw’n agored i’r rhan fwyaf ohonom, maent i gyd yn dangos sut y gall gweithredoedd bach arwain at newid mawr, ysbrydoli eraill i weithredu, codi proffil materion pwysig, ac achosi newid gwleidyddol.
Highlighted | |
---|---|
HighlightedSicrhau newid drwy brotest heddychlon | |
Pwy: Greta Thunberg, ymgyrchydd amgylcheddol o Sweden. Categori: Protest heddychlon, gweithredu ar y cyfryngau a deisebu. Gweithredu: Pan oedd yn 15 oed, protestiodd y tu allan i Senedd Sweden, gan alw am fwy o weithredu ar newid hinsawdd, gan ddal arwydd a oedd yn dweud: ‘streic ysgol dros yr hinsawdd’. Ymunodd myfyrwyr eraill ledled y byd, gan greu streic hinsawdd i bobl ifanc. Effaith: Roedd ei cham bach cyntaf o brotest heddychlon unigol wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid ar draws y byd, wedi cael gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta’. Heriau: Sylw helaeth yn y cyfryngau/cyfryngau cymdeithasol a beirniadaeth gan wleidyddion ac eraill. |
|
HighlightedCreu newid drwy chwaraeon | |
Pwy: Marcus Rashford, pêl-droediwr o Brydain ac ymgyrchydd prydau ysgol am ddim. Categori: Ymgyrchu ar y cyfryngau, lobïo ac ymgyrchu economaidd. Gweithredu: Gyda’r elusen gwastraff bwyd, FareShare, cododd dros £20 miliwn i ddarparu bwyd am ddim i blant na allent gael eu pryd ysgol am ddim mwyach oherwydd pandemig Covid-19. Yna, bu’n lobïo llywodraeth y DU ynghylch tlodi plant a phrydau ysgol am ddim. Mae wedi parhau i ymgyrchu ynghylch y mater hwn. Effaith: Ei effaith amlycaf oedd dylanwadu ar y llywodraeth i newid ei pholisi ac ymestyn prydau ysgol am ddim i blant. Drwy wneud hyn, cododd broffil y mater yn y cyfryngau a chyda’r cyhoedd, gan arwain at sgwrs genedlaethol am dlodi bwyd. Heriau: Dod â gwleidyddion at ei gilydd gyda’i syniadau. Roedd ei ymgyrchoedd cynharach (darparu bocsys bwyd i bobl ifanc ddigartref ym Manceinion) yn gyfyngedig, oedd yn dangos yr her o sicrhau bod ymgyrch yn llwyddiannus ar raddfa fawr. |
|
HighlightedCreu newid drwy ymgysylltu â Senedd y DU | |
Pwy: Ian McKellen, actor ac ymgyrchydd LGBT. Categori: Ymgyrchu a lobïo yn y cyfryngau. Gweithredu: Ac yntau'n un o sylfaenwyr elusen hawliau hoywon y DU (hawliau LBGT erbyn hyn) Stonewall yn yr 1980au, bu’n gweithio gyda’r elusen i lobïo Senedd y DU i ddiwygio cyfraith cydraddoldeb (materion megis diddymu Adran 28 a chyflwyno oedran cydsynio cyfartal). Nod yr elusen yw lobïo’n broffesiynol ac ymgysylltu â’r broses wleidyddol er mwyn sbarduno newid, dylanwadu a gweithio gyda gwleidyddion. Effaith: Newid araf a chyson yn y gyfraith ac agweddau’r cyhoedd. Fel un o’r actorion hoyw cyhoeddus uchaf ei broffil, mae hefyd wedi ysbrydoli cenedlaethau ar ei ôl i ddod allan yn falch. Heriau: Yr amser a gymerodd i roi newidiadau gwleidyddol allweddol ar waith, ac agweddau cas cynnar ar y cyfryngau. |
|
HighlightedCreu newid drwy weithio gyda phobl ifanc fel rhanddeiliaid yng Ngogledd Iwerddon | |
Pwy: Pure Mental NI (puremental.org) Categori: Lobïo, ymgyrchu ar y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol. Gweithredu: Elusen dan arweiniad pobl ifanc a sefydlwyd i roi pwysau ar Weithrediaeth Gogledd Iwerddon ynghylch materion iechyd meddwl (addysg ac ymyrraeth gynnar) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Ngogledd Iwerddon. Maent wedi cynllunio pecynnau cymorth iechyd meddwl i athrawon eu defnyddio gyda myfyrwyr, maent yn lobïo gwleidyddion i geisio gwella darpariaeth iechyd meddwl mewn ysgolion, ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Effaith: Maent eisoes wedi sicrhau rhai llwyddiannau allweddol o ran gwella gwasanaethau iechyd meddwl mewn ysgolion. Heriau: Sicrhau cydbwysedd rhwng gweithio i newid ochr yn ochr â chyfrifoldebau eraill, cyllid. |
|
HighlightedCreu newid drwy ddeddfwriaeth Senedd yr Alban | |
Pwy: Monica Lennon ASA Categori: Senedd yr Alban Gweithredu: Bu’n ymgyrchu i roi terfyn ar dlodi mislif (pan na all menywod ar incwm isel fforddio cynnyrch mislif) o 2016 tan 2020. Bu’n ymgyrchu yn y cyfryngau ac yn Senedd yr Alban. Effaith: Daeth ‘Deddf Cynhyrchion Mislif (Darpariaeth am Ddim) (Yr Alban)’ yn gyfraith yn 2020, gan sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol yn awr i sicrhau bod eitemau fel tamponau a phadiau mislif yn rhad ac am ddim i’r rheini sydd eu hangen. Erbyn hyn, dylai menywod gael gwell mynediad at yr eitemau hyn ledled yr Alban. Heriau: Cael cefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau llwyddiant y cynnig. Mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â’r mislif. |
|
HighlightedCreu newid drwy bobl ifanc yn lleisio eu barn yng Nghymru | |
Pwy: Angel Ezeadum, cyn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru Categori: Ymgyrchu a deisebu. Gweithredu: Angel oedd Aelod Senedd Ieuenctid y DU dros Gaerdydd ac fe’i hetholwyd yn Aelod cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru a oedd yn cynrychioli Race Council Cymru. Defnyddiodd ei phlatfform i wneud cyfraniadau effeithiol i drafodion Senedd Ieuenctid Cymru ac i alw am i hanesion Pobl Ddu a Phobl o Liw gael eu gwneud yn rhan orfodol o gwricwlwm newydd ysgolion Cymru. Ochr yn ochr ag ymgyrchwyr a arweiniodd ddeiseb i’r Gweinidog Addysg, a gafodd bron i 35,000 o lofnodion ac a gafodd ei thrafod yn y Senedd, helpodd i berswadio Llywodraeth Cymru i fynnu’n fwy penodol bod cymunedau amrywiol, yn enwedig straeon pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn rhan orfodol o’r cwricwlwm. Effaith: Fe wnaeth yr ymgyrchu dygn a chraff yn wleidyddol gan lawer o bobl a sefydliadau, gyda phobl ifanc a phobl â phrofiad go iawn yn cael y cyfrwng a’r cyfle i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, lwyddo i gyfrannu at newid sylweddol mewn polisi gan Lywodraeth Cymru. Heriau: Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn gadarn yn ei sefyllfa tan hynny, ac roedd pandemig y Coronafeirws yn mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o agendâu gwleidyddol a’r cyfryngau. |
Gweithgaredd 6: Dod o hyd i ysbrydoliaeth
Dewiswch un o’r gwneuthurwyr newid uchod neu enghraifft arall (nid oes angen iddo fod yn rhywun cyhoeddus) ac edrych yn fanylach ar y camau y gwnaethant eu cymryd i geisio newid (er enghraifft, sut yr oeddent yn ymgyrchu ar-lein, pwy oeddent yn lobïo, sut yr oeddent yn ceisio dylanwadu ar bolisi). Ysgrifennwch y pedwar peth pwysicaf rydych chi’n meddwl maen nhw wedi’u gwneud: