2.2 1979

Yn 1969, sefydlwyd y Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad o dan yr Arglwydd Kilbrandon er mwyn ystyried opsiynau ar gyfer dyfodol y Deyrnas Unedig ymysg cefnogaeth gynyddol i bleidiau cenedlaetholgar. Gwynfor Evans a enillodd sedd seneddol gyntaf Plaid Cymru yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1969, gyda Winnie Ewing yn ennill sedd i'r SNP yn is-etholiad Hamilton yn 1967. Awgrymodd adolygiad Kilbrandon ddatganoli deddfwriaethol a gweithredol i Gymru a'r Alban a Chynghorau Cynghori Rhanbarthol i Loegr. Gwrthodwyd y cynllun hwn am ei fod yn rhy fiwrocrataidd ac annoeth yn nhermau economaidd.

Cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig ar gyfer datganoli i Gymru a'r Alban wedi hynny. Yn 1974, cyhoeddwyd cynllun ar gyfer datganoli yng Nghymru, a oedd yn cynnwys datganoli swyddogaethau gweithredol i Gynulliad o 72 o aelodau yng Nghymru, a fyddai'n gweithredu drwy system pwyllgorau dan arweiniad Prif Weithredwr. Bu'r cynllun yn destun refferendwm.

Gweithgaredd 1 Refferendwm (1979)

Cynhaliwyd y refferendwm ar 1 Mawrth 1979. Edrychwch ar y deunyddiau ymgyrchu hyn ar gyfer y ddwy ochr.

Ffigur 1 ‘Vote yes on March 1st’
Ffigur 2 ‘Why you should vote no’

Sut fyddech chi'n pleidleisio? Gwnewch eich penderfyniad, yna datgelwch y drafodaeth isod i ddarganfod y canlyniadau.

Ffigur 3 Papur pleidleisio refferendwm

Discussion

A YDYCH AM I DDARPARIAETHAU DEDDF CYMRU 1978 CAEL EU GWEITHREDU?
Ymateb Pleidleisiau %
Ydwyf 243,048 20.26%
Nac ydwyf 956,330 79.74%

Methodd y refferendwm.