7.2 Cynulliad yn troi'n Senedd

Yn 2017, cyhoedd panel arbenigol adroddiad pwysig yn galw am newidiadau sylweddol i faint a threfniadau etholiadol y Cynulliad. Tra bod cynyddu nifer yr ACau yn bwnc dadleuol, bu'n haws mynd ar drywydd rhai o argymhellion eraill y panel. Cyflwynodd Comisiwn y Cynulliad Fil y Senedd ac Etholiadau (Cymru) ym mis Chwefror 2019. Roedd iddo dri phrif ddiben:

  • ailenwi’r Cynulliad Cenedlaethol yn Senedd
  • gostwng oedran pleidleisio gofynnol etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol i 16 oed
  • cyflawni diwygiadau eraill i drefniadau etholiadol a gweithredol y Cynulliad Cenedlaethol.

Cafodd gefnogaeth yr uwch-fwyafrif angenrheidiol ar 27 Tachwedd 2019.

Ar 6 Mai 2020 – flwyddyn un union cyn Etholiadau Senedd 2021 – cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei ailenwi'n swyddogol yn Senedd Cymru, neu'r Senedd fel y caiff ei hadnabod yn gyffredin.

Daeth Aelodau'r Senedd yn Aelodau o'r Senedd (AS) neu'n Members of the Senedd yn Saesneg.