1 Cyllid

Mae angen arian ar y llywodraeth ddatganoledig i gyllido'r gwasanaethau a reolir ganddi, megis y GIG yng Nghymru drwy fyrddau iechyd a gwasanaethau addysg drwy awdurdodau lleol.

Yn 2019/20, roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario tua £18 biliwn.

Daeth y cyllid hwn o dair prif ffynhonnell:

  • arian a ddyrannwyd gan Lywodraeth y DU
  • arian a godwyd yng Nghymru drwy drethi a thaliadau eraill
  • benthyciadau
Ffigur 1 O ble mae Cymru yn cael ei harian?

Mae cyllid yn cyflwyno dwy brif her: sicrhau atebolrwydd a sicrhau tegwch.