Cyflwyniad
Yn yr adran olaf hon, byddwch yn ystyried y gydberthynas rhwng pleidleiswyr Cymru a datganoli. Nid yw'r berthynas honno bob amser wedi bod yn un hawdd. Cofiwch, dim ond 6700 o bleidleisiau oedd y mwyafrif o blaid datganoli yn 1997. Ers hynny, cafodd pwerau pellach i Senedd Cymru eu cefnogi yn refferendwm 2011. Fodd bynnag, mae nifer sylweddol o bleidleiswyr Cymru yn parhau i wrthwynebu datganoli. Yn yr adran hon, byddwn yn archwilio'r thema hon ymhellach.
OpenLearn - Deall datganoli yng Nghymru 
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
