Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Deall datganoli yng Nghymru

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Deall datganoli yng Nghymru

Mae'r cwrs am ddim hwn yn dilyn y ffordd y mae setliad datganoli Cymru wedi cael ei drawsnewid yn yr 20 mlynedd ers y refferendwm ar ddatganoli yn 1997. Byddwch yn ystyried y ffordd y daeth Cynulliad â chefnogaeth mwyafrif bach iawn o'r cyhoedd a phwerau deddfu cyfyngedig yn Senedd â'r pŵer i osod trethi. Byddwch yn archwilio rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu gwleidyddiaeth yng Nghymru heddiw, o ddadleuon dros faint y Senedd a diffyg craffu i gwestiynau am degwch o ran cyllido ac annibyniaeth farnwrol.

Gan ddefnyddio fideo, sain ac elfennau rhyngweithiol, mae'r cwrs hwn yn dod â'r prif ddadleuon ym myd gwleidyddiaeth yng Nghymru yn fyw.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • deall pam y cafodd pŵer ei ddatganoli i Gymru
  • disgrifio'r modd y datblygodd y setliad datganoli yn sylweddol rhwng 1999 a 2020
  • nodi'r materion sy'n wynebu'r setliad datganoli yng Nghymru ar hyn o bryd
  • deall sut mae materion hunaniaeth yn gysylltiedig â datganoli.

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/03/2021

Wedi'i ddiweddaru: 22/06/2022

Hepgor Graddau y Cwrs