Dysgwch fwy am gyrsiau gwleidyddiaeth Y Brifysgol Agored.
Mae'r byd yn lle brawychus ar hyn o bryd – mae argyfyngau hinsawdd, awdurdodwyr treisgar ac anghydraddoldeb ysgubol i gyd yn cyflwyno heriau cymhleth, cydblethol a dirfodol. Mae teimlo fel petai ein problemau yn ein llethu yn ddealladwy, oherwydd gallant deimlo'n rhy fawr i unrhyw un ohonom wneud gwahaniaeth yn y byd. Ond o droi at esiampl Cymru, gallwch weld rhai gwersi gwerthfawr. Wedi'r cyfan, yr hyn sy'n dod i'r amlwg ar y sgrin wrth wylio'r rhaglen Wales: Who Do We Think We Are, a gyflwynwyd gan Huw Edwards ac a gydgynhyrchwyd gan y BBC a'r Brifysgol Agored, yw'r amrywiaeth o gyfryngau gweithredu, egni a syniadau oddi isod, gan bobl gyffredin sydd wedi penderfynu y gallant roi newid ar waith.
Owain Smolović Jones (trydydd o'r chwith) gyda'r tîm cynhyrchu a'r cyflwynydd Huw Edwards yn ystod y ffilmio ar gyfer Wales: Who Do We Think We Are yng Nghastell Cyfarthfa. Darganfyddwch fwy am y gyfres ar OU Connect.
Mae arweinyddiaeth yn ymarfer neilltuol sy'n aml yn cael ei gamddeall. Yn ei hanfod, mae'n dylanwadu ar ganfyddiadau a dychymyg, gan darfu ar y ffordd arferol o wneud pethau, meddwl a theimlo, a thrwy hynny greu dewisiadau amgen. Rhan allweddol o'r farn hon am arweinyddiaeth yw bod yr ymarfer yn cael ei roi ar waith gan lawer o bobl a rhwng llawer o bobl yn hytrach na bod yn eiddo i unrhyw unigolyn – berf yn hytrach nag enw (Grint a Smolović Jones, 2022). Mae arweinyddiaeth yn wahanol i reoli, sy'n ymwneud â gwneud y byd yn fwy adnabyddus ac arferol. Mae'n wahanol hefyd i orchymyn, sy'n ymwneud â dilyn gorchmynion y bobl sy'n rheoli'n ffurfiol. Mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau a chymdeithasau iach gydbwysedd o bob un o'r tri dull.
Ac eto, yn ystod y cyfnod o anesmwythyd dwys sydd ohoni, mae dadl gref bod angen llawer mwy o arweinyddiaeth arnom a llawer llai o reolaeth a gorchmynion – ymarfer beiddgar i'n hysgwyd ni allan o'r patrymau a'r llwybrau dinistriol cyfredol. Un o oblygiadau'r farn hon yw y dylem, wrth edrych ar enghreifftiau o arweinyddiaeth, roi llai o sylw i'r bobl yn ein byd sydd â phŵer eithriadol yn barod. Wedi'r cyfan, dyma fel arfer y bobl sydd wedi creu'r cyfyng-gyngor yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd.
Yn hytrach, mae angen i ni wneud synnwyr o esiamplau o arweinyddiaeth oddi isod sydd wedi llwyddo i greu newid. Dyma gyflwyno Cymru, sy'n gwneud gwahaniaeth ar hyd meysydd allweddol newid hinsawdd, tai, cydraddoldebau a gofal sylfaenol i eraill mewn cymdeithas.
Mae dwy rinwedd gysylltiedig yn gwahaniaethu arweinyddiaeth yng Nghymru.
Yr un gyntaf yw dinasyddiaeth weithgar: y syniad y gall pobl gyffredin fod yn ddinasyddion gwleidyddol gweithgar; gallant roi cynnig ar newid pethau (neu'n wir atal pethau rhag newid). Gallant fod yn ‘wneuthurwyr newid’. Er mwyn gwneud hynny, mae angen eu cymell i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, democratiaeth a dulliau gweithredu mewn cymdeithas, ac i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd hyn. Ceir hefyd elfen o gyfrifoldeb personol, h.y. mae angen iddynt wneud yr ymdrech i ymgysylltu.
Nid term statig mo dinasyddiaeth weithgar: gellir ei deall ar sbectrwm (Wood et al, 2018). Felly, gellir ei deall yn ei hystyr isaf (gweithgareddau sy'n ymwneud â ‘chyfrifoldeb personol’, megis ufuddhau i'r gyfraith a thalu trethi), yr holl ffordd i'w hystyr uchaf, gan ganolbwyntio ar frwydro yn erbyn anghyfiawnder mewn cymdeithas, a ddiffinnir gan Westheimer a Kahne (2004) fel dinasyddiaeth ‘sy'n canolbwyntio ar gyfiawnder’. Felly, ceir ‘lefelau’ gwahanol o ddinasyddiaeth weithgar ac, yn gysylltiedig â hyn, mae angen gofyn i ba raddau yn union y dylai unigolion fod yn weithgar. Pa bynnag ddull y bydd unigolyn yn ei ddewis, mae dinasyddiaeth weithgar yn bwysig i ddemocratiaeth, felly hefyd ymdrechion i feithrin dealltwriaeth o'r hyn y mae dinasyddiaeth weithgar yn ei golygu ac yn ei chynnwys; dyma'r achos yn benodol mewn gwledydd lle mae democratiaeth yn y fantol, ond mae'n gymwys ym mhobman, gan gynnwys yng Nghymru.
Un enghraifft ardderchog o ddinesydd gweithgar yng Nghymru yw Angel Ezeadum, cyn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Roedd Angel yn Aelod Senedd Ieuenctid y DU ar gyfer Caerdydd a chafodd ei hethol yn Aelod cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru gan gynrychioli Race Council Cymru. Defnyddiodd ei llwyfan i wneud cyfraniadau effeithiol at weithrediadau Senedd Ieuenctid Cymru ac i wneud cais am i hanesion Pobl Dduon a Phobl o Liw ddod yn rhan orfodol o gwricwlwm ysgol newydd Cymru. Ochr yn ochr ag ymgyrchwyr a arweiniodd ddeiseb i'r Gweinidog Addysg, a lofnodwyd gan bron i 35,000 o bobl ac a ddadleuwyd yn y Senedd, helpodd i ddarbwyllo Llywodraeth Cymru i'w gwneud hi'n ofynnol mewn ffordd fwy penodol i gymunedau amrywiol, yn enwedig straeon pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, fod yn rhan orfodol o'r cwricwlwm.
Angel Ezeadum yn siarad yn Senedd Ieuenctid Cymru.
Yn ein rhaglen, gallwn weld enghreifftiau amrywiol o ddinasyddion gwleidyddol gweithgar, pobl sy'n ceisio creu newid. Ceir Bria de la Mare, sy'n ymgyrchu ar y tir am Gymru annibynnol drwy Blaid Lafur Cymru – enghraifft o'r hyn a allai gael ei alw'n ddinasyddiaeth wleidyddol 'draddodiadol', h.y. ymgysylltu â gwleidyddiaeth etholiadol/pleidiol. Yna, ceir prosiect Dynion Gurnos a'r Hope Pantry, y ddau'n gweithio yn y gymuned i greu newidiadau i bobl gyffredin (gan wella iechyd meddwl a chanlyniadau cyflogaeth dynion, a gwneud yn siŵr bod gan bobl ddigon i'w fwyta). Enghreifftiau ‘eang’ o ddinasyddiaeth wleidyddol yw'r rhain, sy'n pwysleisio bod yna bethau yr ydym yn eu gwneud y gellir ystyried eu bod yn wleidyddol, hyd yn oed os nad ydym yn eu hystyried yn amlwg fel pethau gwleidyddol. Yn hyn o beth, rydym yn ‘gwneud gwleidyddiaeth’, ac rydym yn ddinasyddion gwleidyddol mewn amrywiaeth o ffyrdd bob dydd, weithiau gan wybod hynny, weithiau heb wybod hynny.
Yr ail rinwedd sy'n gwahaniaethu Cymru yw natur organig ei harweinyddiaeth. Ar ei lefel amlycaf, mae arweinyddiaeth organig (Grint a Smolović Jones, 2022) yn datgan, er mwyn bod yn effeithiol, bod angen i arweinyddiaeth oddi isod ymddangos yn naturiol o fewn cymunedau. Ni ellir ei gorfodi na'i gosod o'r tu allan, ond rhaid iddi dyfu tuag allan yn sgil pryderon dilys grŵp.
Yn ein rhaglen, mae Dani Robertson, o dref hardd Rhosneigr, yn rhoi esiampl wych o arweinyddiaeth organig. Tynnodd sylw at y ffaith bod ail gartrefi a chartrefi gwyliau yn dinistrio ei chymuned drwy ffilmio'r dref gyda'r nos, gan ddangos cyn lleied o oleuadau oedd i'w gweld mewn tai, a'u bod yn wag. Llwyddodd y diffyg bywyd iasol a oedd i'w weld yn y fideo i sbarduno ymdeimlad fod rhywbeth mawr o'i le ar y ffordd yr oedd tai yng Nghymru yn cael eu perchnogi, eu dosbarthu a'u rheoleiddio.
Tea time on a Feb eve. These houses should be alive with the activity of families after school. Instead they sit here lifeless. I tried to count all the soulless houses in my village, stopped when I hit 100. We don’t need to build more houses. We need to use these. pic.twitter.com/XQRtOSnDlr
— Dani Robertson (@DaniDarkSkies) February 8, 2022
Mae arweinyddiaeth Dani yn organig gan ei bod yn unigolyn ifanc wedi'i hymddieithrio o dref ei mebyd gan dai na all eu fforddio. Mae pobl yn uniaethu â Dani gan eu bod yn gweld eu profiadau eu hunain yn ei phrofiadau hi. Mae'r rheini o ardaloedd gwledig Cymru sy'n ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn bennaf, yn cydnabod y ffyrdd y mae eu cymunedau dan fygythiad o ganlyniad i berchnogaeth ail gartrefi a thai gwyliau. Mae pobl mewn dinasoedd – yn enwedig o leiafrifoedd hiliol a'r dosbarth gweithiol – yn uniaethu â'r ffordd y mae trin tai fel nwydd yn symud preswylwyr allan o gymdogaethau yr oeddent ers amser wedi'u hystyried yn gartref iddynt.
Fodd bynnag, er mwyn i arweinyddiaeth oddi isod ymwreiddio mewn ffordd organig, mae angen pobl mewn swyddi gwneud penderfyniadau a fydd yn gwrando ac yn gweithredu. Er mwyn bod yn organig, mae angen i'r arweinyddiaeth oddi uchod allu ymdreiddio i'r cymunedau y mae'n eu cynrychioli ac ymateb i'r cymunedau hynny, gan ddarparu seilwaith a diwylliant arloesol a heriol o fewn ffiniau ei gwerthoedd arweiniol. Yn ddelfrydol, mae arweinyddiaeth oddi uchod – gan lywodraethau cenedlaethol neu sefydliadau eraill eang eu cyrhaeddiad – yn cysylltu materion ac ymgyrchoedd unigol, ac yn eu huno â ffrâm foesol ac ideolegol. Yn sicr, ers datganoli, mae diwylliant trawsbleidiol o bartneriaeth wedi datblygu rhwng y Senedd, cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus. Nid yw hyn yn awgrymu nad oes diffygion, anghytundebau a dadlau chwyrn yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw'r amheuon a'r awgrymiadau hyn yn golygu nad oes rhywbeth rhyfeddol ar y gweill yng Nghymru.
Pan fydd arweinyddiaeth a dinasyddiaeth weithgar oddi isod yn cyfuno ag arweinyddiaeth agored a gofalgar oddi uchod, mae modd tanio gobaith a thrawsnewid bywydau. Felly, y tro nesaf y byddwch yn teimlo bod creu newid allan o'ch gafael, beth am edrych i gyfeiriad Cymru am syniadau ymarferol, modelau rôl a gobaith.
Cefndir y gyfres

Cyd-gynhyrchwyd gan BBC Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru, mae Wales: Who Do We Think We Are? yn dilyn Huw Edwards wrth iddo deithio o amgylch Cymru i ddarganfod sut mae hunaniaethau pobl wedi cael eu siapio gan ddigwyddiadau cythryblus y ddegawd ddiwethaf a gan yr heriau sy'n wynebu'r wlad ar hyn o bryd.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon