Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Raymond Williams a Leonardo Sciascia: Cofio bywydau a gwaddolion

Diweddarwyd Dydd Llun, 7 Mehefin 2021
Roedd Raymond Williams a Leonardo Sciascia, y ganwyd y ddau yn 1921, yn ysgolheigion, yn nofelwyr ac yn feirniaid nodedig. Mae Geoff Andrews yn ystyried eu bywydau a'u gwaddolion yn yr erthygl hon.

Raymond Williams and Leonardo Sciascia Raymond Williams a Leonardo Sciascia

Eleni rydym yn dathlu can mlynedd ers geni Raymond Williams a Leonardo Sciascia, dau ysgolhaig, beirniad a nofelydd eithriadol. Fel ysgolheigion adain chwith, roeddent yn canolbwyntio'n bennaf ar siâp cymdeithasau yn y cyfnod modern: sef diwylliannau, democratiaethau a chanolfannau pŵer. Bu'r ddau ddyn yn enwog yn fyd-eang o ganlyniad i'w gwaith, ond man cychwyn eu meddylfryd, a'r pwynt y byddent yn dychwelyd ato bob amser, oedd profiad bywydau sy'n deillio o'r ymylon, ac sy'n rhychwantu ffiniau gwahanol fydoedd.

Bu'r ddau ddyn yn enwog yn fyd-eang o ganlyniad i'w gwaith, ond man cychwyn eu meddylfryd, a'r pwynt y byddent yn dychwelyd ato bob amser, oedd profiad bywydau sy'n deillio o'r ymylon, ac sy'n rhychwantu ffiniau gwahanol fydoedd.Roedd profiadau cynnar Raymond Williams o gael ei fagu mewn pentref yn agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn codi'n aml yn ei waith ffuglennol a ffeithiol. Ei dad, a fu'n gweithio fel signalwr rheilffordd, oedd un o brif ffynonellau ei nofelau cynnar, yn benodol Border Country, a'i ddatblygiad deallusol fel myfyriwr o Gymru a drodd yn academydd yn awyrgylch neilltuedig Prifysgol Caergrawnt oedd yn llywio ei waith arloesol ar ddiwylliant.

Un o Racalmuto roedd Leonardo Sciascia, pentref dosbarth gweithiol bach ym mherfeddion bryniau talaith Agrigento yn Sisili, lle roedd ei dad yn gweithio yn y mwyngloddiau sylffwr. Roedd yr amgylchedd hwnnw, y bobl, y tir a'r diriogaeth yn themâu a fyddai'n parhau yn ei waith drwy gydol ei oes. Ni adawodd y lle byth mewn gwirionedd, heblaw am y cyfnodau byr a dreuliodd yn Rhufain, Palermo ac yn nes ymlaen fel aelod o Senedd Ewrop. Roedd ei lyfr, La Parrocchie de Regalpetra (a gyhoeddwyd yn Saesneg dan yr enw Salt in the Wound) yn seiliedig ar ei brofiad o weithio fel athro ysgol yn ei dref enedigol. Roedd ei ddisgrifiadau o dlodi, ffasgiaeth a llygredigaeth yn yr Eglwys a neuadd y dref yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, a byddent yn ffurfio themâu pwysig yn ei weithiau diweddarach. 

Addysg oedd yn llywio ymdrechion y ddau ddyn i ymchwilio i ddiwylliannau ehangach. Roedd dylanwad y myfyrwyr allanol y bu Williams yn eu haddysgu yn Sussex ar ei weithiau ar ddiwylliant yr un mor bwysig â dylanwad ei fyfyrwyr israddedig ieuangach, cyfoethocach y bu'n eu haddysgu yng Nghaergrawnt.  Mae rhai o weithiau gorau'r ddau ddyn yn deillio o ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au, pan roedd cymdeithasau Ewrop ar ôl y rhyfel yn cael eu nodweddu gan dwf diwylliant dosbarth gweithiol poblogaidd, rôl gynyddol y wladwriaeth a chyfyngiadau'r Rhyfel Oer. Cafodd Culture and Society, gwaith arloesol Williams sy'n ystyried hanes llenyddol y DU, ei gyhoeddi yn 1958, a chyhoeddwyd ei draethawd ‘Culture is Ordinary’ yn yr un flwyddyn. Aeth Williams ymlaen i ddatblygu ei ddadl yn y gweithiau hyn, sef bod diwylliant yn ymwneud â phethau pob dydd, ei fod yn rhywbeth a gaiff ei fyw, a'i fod yn fwyfwy pwysig ym meysydd datblygol ffilm, teledu a hysbysebu, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn ei lyfr The Long Revolution. Yn y gwaith hwn roedd yn dadlau y byddai'r chwyldroadau diwylliannol hyn yr un mor bwysig â'r chwyldroadau democrataidd a diwydiannol a welwyd yn flaenorol. Rhwng y ddau lyfr hyn cyhoeddwyd Border Country, ei nofel sydd â'i gwreiddiau yn y Mynyddoedd Duon sy'n trafod y newidiadau a brofodd fel dyn ifanc a adawodd y gymuned y'i magwyd ynddi er mwyn symud i Lundain, ac a ddychwelodd adref i ardal oedd yn dal i adfer ar ôl y Streic Gyffredinol a Dirwasgiad y 1930au.

Roedd Williams a Sciascia yn perthyn i genhedlaeth adain chwith, wrth-ffasgaidd y 1930au, ac roedd y ddau yn aelodau o bleidiau comiwnyddol eu priod wledydd.Yn yr un cyfnod, yn dilyn Le Parrocchie di Regalpetra (1956), cyhoeddodd Sciascia Sicilian Uncles (1958), sef casgliad o nofelau byr sy'n portreadu'r ffordd y caiff pŵer ei arfer ar adegau tyngedfennol, gan gynnwys ymosodiad y Cynghreiriaid ar Sisili, a'r rhagolygon ar gyfer dyfodol yr ynys o safbwyntiau gwahanol (a dychmygol) Sisiliaid Americanaidd a Sisiliaid comiwnyddol. Fodd bynnag, y gwaith a fu'n fwyaf cyfrifol am ennill cydnabyddiaeth i Sciascia oedd The Day of the Owl (1961), drwy ddod â'r Maffia – yr oedd gwleidyddwyr a throseddwyr ar y pryd yn dal i fynnu nad oedd yn bodoli – at sylw'r cyhoedd ehangach. Drwy gymeriad Capten Bellodi, un o swyddogion ymchwilio'r heddlu yng ngogledd yr Eidal, archwiliodd y diwylliant, y meddylfryd a'r cyd-destunau gwleidyddol a oedd yn galluogi'r Maffia i ffynnu, gan nodi'r senarios cyfarwydd a oedd yn nodweddiadol o'u ffordd o weithio. Yn y gwaith hwn, yn ogystal â'i nofelau ditectif byr eraill (oedd yn aml yn gorffen mewn modd amhendant, heb ddiweddglo hapus), awgrymodd fod angen gwybod am hanes a diwylliant Sisili er mwyn deall y Maffia. 

Roedd Williams a Sciascia yn perthyn i genhedlaeth adain chwith, wrth-ffasgaidd y 1930au, ac roedd y ddau yn aelodau o bleidiau comiwnyddol eu priod wledydd. Ni wnaeth Williams, a fu'n gymrawd i Eric Hobsbawm yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr israddedig, aros yn hir yn y blaid fach Brydeinig. Ond daeth yn ffigur pwysig yn y Chwith Newydd a gododd yn sgil anghydfodau yn y byd comiwnyddol yn 1956, ac a fu'n gyfrifol am gynhyrchu nifer o ddadansoddiadau dylanwadol o gyfalafiaeth ddatblygedig yn y Gorllewin. Ef oedd un o brif awduron May Day Manifesto (ar y cyd â Stuart Hall ac E.P. Thompson), a gyhoeddwyd ar drothwy'r afreolaeth gan fyfyrwyr a gweithwyr a welwyd yn 1968, ac a gyflwynodd feirniadaeth radicalaidd am gyfalafiaeth gyfoes yng nghyfnod llywodraethau Llafur Harold Wilson.

Statue of Sciascia in Racalmuto Cerflun Sciascia yn Racalmuto

Roedd Sciascia, fel nifer o ysgolheigion Eidalaidd ar ôl y rhyfel (gan gynnwys ei ffrindiau Italo Calvino a Pier Paolo Pasolini) yn aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Eidal, ac ar un adeg ef oedd cynghorydd dinas Palermo ar ôl cael ei ethol fel ymgeisydd y blaid honno. Yn aml, caiff yr ymdeimlad o obaith i Sisili a welir yn ei waith, sydd â'i wreiddiau yn yr ymdrech i ganfod gwirionedd sy'n nodweddiadol o'r Oes Oleuedig, yn ogystal â'r awydd i gael ymdeimlad o beth yw gwladwriaeth, ei gyferbynnu â'r hyn a welir yn nofel ragorol Guiseppe Tomasi di Lampedusa, The Leopard, sy'n dangos hanes hir yr ynys o fod o dan reolaeth pwerau tramor, gan arwain at ymdeimlad o dynghediaeth ddidostur ar gyfer dyfodol yr ynys. 

Fel ysgolheigion, nid oedd yr ymochredd a'r ymlyniadau sydd eu hangen yn y byd gwleidyddol yn gweddu iddynt (treuliodd Williams flwyddyn fel aelod o Blaid Cymru ar ddiwedd y 1960au), ond yn hwyrach yn eu bywydau, bu'r ddau yn cyfrannu mwy at drafodaethau cyhoeddus. Bu Williams yn brysur yn adolygu llyfrau, ysgrifennu traethodau a chynhyrchu darllediadau yn y cyfnod hwn. Mae rhai o'i syniadau mwyaf gwreiddiol i'w gweld yn Politics and Letters, sef cyfres o gyfweliadau a wnaed â'r New Left Review, lle bu'n ymhelaethu ar ei ddiddordebau ym meysydd drama, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth. Ei fyfyrdodau ar yr helyntion, y bradychiadau a'r teyrngarwch croes a wynebodd rai o genhedlaeth y 1930au oedd yn sail i un o'i nofelau olaf, sef Loyalties: gwaith arall a oedd yn ymestyn ar draws ffiniau ei wahanol fydoedd. 

Fel ei ffrind Pasolini, gadawodd Sciascia Blaid Gomiwnyddol yr Eidal, ac ymunodd â phlaid fach, wrthwynebol, sef y Blaid Radicalaidd. Daeth yn fwy amlwg yn y 1970au a'r 1980au drwy ei waith a oedd yn beirniadu pŵer a llygredigaeth y blynyddoedd plwm, pan oedd terfysgwyr adain chwith ac adain dde yn dal yr Eidal yn wystl, a thrais y Maffia yn peryglu'r wlad ymhellach. Roedd Sciascia yn ddidostur yn ei lyfr The Moro Affair, ei ymchwiliad ei hun i herwgipiad y cyn prif weinidog Aldo Moro gan y Frigâd Goch, lle cyflwynodd feirniadaeth lem o Giulio Andreotti ac aelodau pwysig eraill o'r Democratiaid Cristnogol, ddegawd cyn i'r blaid honno fynd i ebargofiant. Atgoffodd bobl yr Eidal nad oedd Moro na'r blaid yr oedd yn ei harwain erioed wedi magu ymdeimlad o beth yw gwladwriaeth. Dywedodd mai'r hyn sy'n denu o leiaf draean o bleidleiswyr yr Eidal at Blaid y Democratiaid Cristnogol yw'r ffaith gysurlon a chryfhaol, nad oes gan y blaid unrhyw syniad o beth yw'r wladwriaeth.

Fel ysgolheigion o'r ymylon, mae Williams a Sciascia yn parhau i ysbrydoli pobl. Roedd Williams yn hoff o ystyried ei hun yn Ewropead Cymreig, ac mae'r disgrifiad hwn wedi bod ar dwf yn sgil Brexit a'r trafodaethau dros ddyfodol y DU. Disgrifiodd Sciascia Sisili, sef ynys ar y ffiniau rhwng Ewrop ac Affrica, fel trosiad ar gyfer y byd modern. Mae'r disgrifiad hwnnw'n fwy perthnasol nawr nag erioed efallai, gan fod y cwestiynau am gyfiawnder, rheswm a diogelwch gwladwriaethol a godwyd ganddo yn gyntaf yng nghyd-destun Sisili bellach wrth wraidd nifer o broblemau byd-eang mewn oes sy'n cael ei nodweddu gan fudo torfol, troseddoldeb rhyngwladol a phandemig COVID-19. 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?