Transcript

Hugh Mackay
Hugh Mackay ydw i. Rwy’n uwch ddarlithydd mewn cymdeithaseg yn y Brifysgol Agored yng Nghymru ac yn gadeirydd tîm cwrs D172. Yn y cyfweliad eang hwn â Gareth Williams, awdur Pennod 1, mae’n trafod materion mewn bywyd yng Nghymru sy’n ymwneud â gwahaniaeth a chysylltiadau. Dechreuais drwy ei holi am rygbi Cymru a’r ffordd yr amlygodd wahaniaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Gareth Williams
Rwy’n credu bod natur rygbi Cymru yn unigryw, yn sicr yn y DU ac, o bosibl, hyd yn oed yn fyd-eang. O’r cychwyn cyntaf, bron, bu presenoldeb dosbarth gweithiol cadarn yn y gêm yng Nghymru, yn sicr ers y 1870au a’r 1880au pan ledodd y gêm i Gymru o’r ysgolion bonedd a’r prifysgolion yn Lloegr, ac ar y dechrau bu’n boblogaidd yn yr ysgolion bonedd, Llanymddyfri, coleg Llanbedr Pont Steffan, Aberhonddu, ar y lefel honno yng Nghymru, ond ymhen degawd lledodd drwy’r gymdeithas a oedd ar y pryd yn mynd drwy dwf mawr yn y boblogaeth a hefyd – yn gysylltiedig â hynny – ddiwyddiannu ar raddfa enfawr. Felly fe welwn weithlu newydd sy’n awyddus i fynegi ei hun ac a fydd yn coleddu rygbi am amrywiol resymau. Ond o’r cychwyn cyntaf felly, yn sicr erbyn i Gymru ennill y Goron Driphlyg gyntaf, pan gurodd y tair gwlad arall, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon, am y tro cyntaf yn 1893, roedd tîm cenedlaethol Cymru yn cynnwys cryn nifer o ddynion dosbarth gweithiol, a olygai ei fod yn wahanol i’r timau cenedlaethol eraill, a oedd yn llawn dynion dosbarth canol a gwŷr proffesiynol – nid proffesiynol yn yr ystyr eu bod yn chwaraewyr proffesiynol ond eu bod yn annibynnol yn ariannol: meddygon, cyfrifwyr, syrfewyr ac ati oeddent - credaf, bryd hynny, fod i rygbi Cymru nodweddion unigryw, a oedd, a dweud y gwir, yn mynd dan groen yr undebau eraill. Roedden nhw’n meddwl bod Cymru yn cael anfantais annheg am fod glowyr a gweithwyr dur a gweithwyr dociau, ond yn enwedig glowyr, yn y tîm a oedd yn defnyddio eu sgiliau gwaith wrth chwarae drwy gipio’r bêl o’r sgarmesoedd drwy nerth braich. Annheg iawn. Cofiwch, roedd y bobl a chwaraeai rygbi yn y gwledydd eraill yn gwneud hynny fel gweithgarwch hamdden – rhywbeth gwahanol i’w gwaith. Dyma i chi’r Cymry yn defnyddio sgiliau a chryfderau eu gwaith ar y maes chwarae ei hun ac nid ystyrid bod hynny’n deg.
Hugh Mackay
Rwy’n credu bod yr elfen o wahaniaeth dosbarth yn bodoli o hyd, yn rhannol o ran y cefnogwyr ond hefyd ar y maes chwarae. Mae’n llai amlwg na chynt, am fod yr oes broffesiynol yn golygu mai diwedd y gân yw’r geiniog, fel petai, ond ar lefel ryngwladol yn Lloegr, cyn-ddisgyblion ysgolion gramadeg ac ysgolion annibynnol a welir gan mwyaf yn y tîm o hyd ond mae timau Cymru bron yn ddieithriad yn cynnwys cyn-ddisgyblion ysgolion cyfun lleol, y mae rhai ohonynt wedi mynd yn eu blaen i’r coleg i astudio gwyddor chwaraeon. Maen nhw’n dod o deuluoedd dosbarth gweithiol ar y cyfan ond mae’r elfen honno o wrthdaro a gelyniaeth bron oherwydd gwahaniaethau mewn dosbarth cymdeithasol a welid yn sicr dros ganrif yn ôl, yn fy marn i, yn llawer llai amlwg heddiw.
Hugh Mackay
Sut mae’r gwahaniaeth rhwng dosbarth cymdeithasol chwaraewyr rygbi Cymru a Lloegr yn amlygu ei hun heddiw, yn eich barn chi?
Gareth Williams
Rwy’n credu bod yr elfen o ddosbarth yn bodoli o hyd yn y berthynas rhwng Cymru a Lloegr yn yr ystyr bod rhai clybiau o hyd yn Lloegr fel petaent yn cynrychioli rhyw elfen elitaidd, ychydig yn snobyddlyd ym myd rygbi. Mae’r cyhuddiad o fod yn grachaidd yn annheg, yn fy marn i, am eu bod yn gymeriadau caled iawn. Ond ar yr un pryd ceir timau fel Caerlŷr a Chaerloyw sy’n cael eu hystyried yn eithaf digyfaddawd, yn gorfforol, ac sy’n chwarae’r math o rygbi y mae clybiau a chwaraewyr o Gymru yn uniaethu ag ef ar unwaith ac sy’n eu curo’n aml. Ac rwy’n credu bod yr elfen o ddosbarth wedi cael ei dileu i ryw raddau ac yn lle hynny efallai fod gelyniaet h genedlaetholaidd rhwng y Cymry a’r Saeson wedi dod yn elfen amlycach.
Hugh Mackay
Gadewch i ni symud ymlaen i drafod lle ac mae gennyf ddiddordeb mewn clywed am y ffordd y mae rygbi wedi uno Cymru er gwaethaf ei gwahaniaethau a’r ffordd y mae llawer o gefnogwyr yn y gogledd yn uniaethu â bod yn rhan o’r gamp genedlaethol, y tîm cenedlaethol, er bod y gêm yn llai poblogaidd yn y gogledd. Felly allech ddweud wrthyf sut mae rygbi wedi goresgyn gwahaniaethau daearyddol yng Nghymru?
Gareth Williams
Rwy’n credu bod rygbi yn chwarae rhan unigryw bron yng nghymdeithas y Gymru gyfoes yn yr ystyr ei fod yn gallu uno rhannau o gymdeithas ac ardaloedd daearyddol nad oes ganddynt lawer yn gyffredin fel arall. Ac rwy’n credu bod Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud ei orau i bortreadu ei hun yn sefydliad cenedlaethol. Rwy’n credu ei fod wedi chwarae rhan i uno Cymru’n ddaearyddol - dwyrain, gorllewin, gogledd a de, gan gynnwys y canolbarth. Mae’n arwyddocaol am nad oes iddo elfen ieithyddol. Hynny yw, y gêm a chwaraewch sy’n bwysig, yn hytrach na’r iaith a siaradwch. Rwy’n credu ei fod yn chwarae rhan i uno’r ddau ryw, i gael ymwybyddiaeth fwy soffistigedig o gydberthnasau rhwng y rhywiau. Ac rwy’n credu bod Undeb Rygbi Cymru wedi llwyddo i gael y Cynulliad i wrando arno, gan bortreadu ei hun yn un o’r ychydig sefydliadau cenedlaethol, neu drawsgenedlaethol bron. Felly, er, yn amlwg, mai yn y de y mae cadarnleoedd y gêm, yn y de diwydiannol, byddwn i’n dweud bod gan rygbi gryn bresenoldeb yn y rhannau eraill o Gymru, hyd yn oed yr ardaloedd prin eu poblogaeth ac yn sicr ar ddiwrnod gêm fawr, bydd criwiau o bobl yn gwneud yr ymdrech i ddod lawr i Gaerdydd am y penwythnos neu’r diwrnod neu beth bynnag.
Hugh Mackay
Gadewch i ni droi at y cysylltiadau rhwng rygbi heddiw a byd gwaith – economi Cymru. Gwnaethoch gyfeirio at y ffaith mai yn y de diwydiannol, ymhlith y dosbarth gweithiol y ceir gwreiddiau rygbi. Roedd y tîm cenedlaethol yn arfer cynnwys chwaraewyr o’r diwydiannau hyn. Gadewch i ni symud i’r presennol. Beth yw’r cysylltiad heddiw rhwng rygbi a byd gwaith yng Nghymru?
Gareth Williams
Rwy’n credu bod rygbi Cymru wedi cael ei ffurfio gan fyd gwaith yn yr ystyr, er bod chwaraewyr o Gymru yn adnabyddus am eu nerth corfforol a’u cadernid a’u gwytnwch, erbyn hyn rwy’n credu y byddai’n deg dweud bod chwaraewyr, er nad ydynt yn dod o’r sylfaen dosbarth gweithiol, diwydiannol hwnnw, eto i gyd yn fwy heini mewn ystyr gorfforol. Mae’n ddigon posibl eu bod yn gryfach. Maen nhw’n treulio mwy o amser yn y gampfa. Maen nhw’n dilyn deietau llawn protein. Felly, credaf fod ganddyn nhw wahanol fathau o asedau sy’n cael eu mynegi fwy na thebyg mewn gêm fwy ymosodol ac mewn gêm gyflymach a mwy heini. Ond nid yw’r elfen dosbarth gweithiol, glowyr, gweithwyr dur, docwyr, dynion y rheilffyrdd yn bodoli mwyach. Ond rwy’n credu bod y chwaraewyr yn meddu ar fath gwahanol o nerth. Ac os nad ydynt yn meddu ar y nerth hwnnw, maen nhw’n ceisio gwneud iawn am hynny.
Hugh Mackay
O’r gorau. Rydym wedi ystyried dosbarth o gymharu â Lloegr. Rydym wedi sôn am ddosbarth o ran gwreiddiau rygbi Cymru a dosbarth cymdeithasol chwaraewyr yn y dyddiau cynnar. Rydym wedi sôn am alwedigaeth chwaraewyr yn fwy diweddar. Beth am rôl ysgolion bonedd o ran porthi a chynnal rygbi yn ystod y blynyddoedd diwethaf?
Gareth Williams
Mae’r ysgolion bonedd a’r prifysgolion wedi chwarae rhan yn hanesyddol yn rygbi Cymru ac wedi cyfrannu at y tîm cenedlaethol. Coleg Llanymddyfri, Ysgol Trefynwy, Coleg Crist, Aberhonddu – bu llif cyson o gyn-ddisgyblion o’r sefydliadau hynny ac maent wedi chwarae ochr yn ochr â chyn-ddisgyblion ysgolion gramadeg, ysgolion cyfun a dynion dosbarth gweithiol nad ydynt wedi cael addysg y tu hwnt i’w harddegau cynnar yn aml. Rwy’n credu bod hyn wedi cael ei briodoli i rôl integreiddio rygbi Cymru, os mynnwch, a bod hynny wedi cael ei annog gan weinyddwyr y gêm er mwyn pwysleisio’r rôl y gallai rygbi ei chwarae i feithrin cydberthnasau. Ond mae’n werth nodi hefyd fod rhywfaint o elyniaeth ymhlith clybiau’r cymoedd sy’n dal i fod yn ddosbarth gweithiol i raddau helaeth, tuag at ‘Fancy Dans’ timau’r dinasoedd porthladd mawr. Gwelir elfen o hynny yn nhranc diweddar y Rhyfelwyr Celtaidd, sef rhanbarth Pontypridd a Phen-y-bont ar Ogwr y gadawodd Undeb Rygbi Cymru iddo – yn nhyb y cymoedd – fynd i ebargofiant. Ond mae gan rai o’r clybiau hyn yn y cymoedd enw am chwarae digyfaddawd, trais. Nid ydyn nhw’n meddu ar rai o foesau cymdeithasol na soffistigedigrwydd y canolfannau trefol ac rwy’n credu bod elfen o wrthdaro dosbarth mud - bod timau’r trefi yn freintiedig, bod ganddyn nhw gyfoeth a statws cymdeithasol ac nad yw timau fel Pontypridd, y mae eu chwaraewyr yn dod o’r Rhondda ac o Ferthyr a’r hen gymoedd, yn meddu ar yr un soffistigedigrwydd cymdeithasol.
Hugh Mackay
Gadewch i mi droi at rywedd, y sonioch ychydig amdano o ran cefnogaeth i’r gêm ar lawr gwlad. Beth am y ffyrdd eraill y mae merched yn ymwneud â rygbi neu fel arall?
Gareth Williams
Mae merched ers bron ganrif o fodolaeth y gêm wedi chwarae mwy o rôl ar lefel cefnogwyr. Wrth, gwrs, ceir timau o ferched. Nid dyna beth sydd gennyf mewn golwg. Ond mae merched yn gweinyddu’r gêm. Mae merched yn dal nifer o rolau gweinyddol allweddol yn Undeb Rygbi Cymru. Mae merched yn weithgar mewn llawer o glybiau rygbi ac fe gewch ferched hynod wybodus sy’n cefnogi o’r teras neu’r eisteddle. Ceir elfen, yr hyn a elwir yn griw’r cotiau ffwr, yn yr eisteddle ar ddiwrnod gemau mawr, a’r merched sy’n llai gwybodus o bosibl, ond lle mae calon y gêm yn curo’n gryf yn rygbi Cymru bydd merched yno - merched gwybodus nad oes neb yn tynnu eu coes gan ddweud ‘Beth wyt ti’n wneud fan hyn, bach?’ Rwy’n credu bod elfen o integreiddio ym myd rygbi Cymru sy’n helpu i chwalu’r myth mai gêm rywiaethol yw hi.
Hugh Mackay
A gawn ni sôn ychydig am hil? Nawr i ryw raddau mae lle i bobl o hil wahanol ym myd rygbi. Mewn ffordd arall, bu achosion o hiliaeth. Nawr, mae hil yng Nghymru o natur benodol iawn. Rwy’n credu bod iddi ffurf benodol, ond hefyd mae arwyddocâd lleiafrifoedd hiliol yng Nghymru ychydig yn wahanol i’r hyn a welir yn y DU gyfan. Felly tybed a allech ddweud rhywbeth am oblygiadau hil ym myd rygbi Cymru heddiw?
Gareth Williams
Mae hil yn fater cyfoes o bwys mawr yn y byd sydd ohoni ac mae’n cyffwrdd â rygbi Cymru hefyd ond, yn fy marn ni, am ddegawdau lawer nid ciliodd rygbi Cymru i’w gragen ei hun bron lle nad oedd yn poeni ryw lawer am yr hyn a oedd yn digwydd yn y byd mawr. Mae hyn yn wir am y lefel ryngwladol yn ogystal â’r lefel leol genedlaethol. Ar lefel ryngwladol, rwy’n credu y dylai Undeb Rygbi Cymru gywilyddio dros ei gysylltiadau â De Affrica yn ystod y cyfnod o apartheid gwyn o’r 1960au pan gafwyd gwrthdystiadau rhyngwladol a phan oedd rygbi Cymru yn un o’r rhai olaf i fynnu cadw cysylltiadau chwaraeon â De Affrica. Yng Nghymru ei hun, roedd chwaraewyr o gymunedau ethnig ar ôl 1945 yn ei chael hi’n anodd i gael eu cyfle. Mae Billy Boston yn un o gewri mawr rygbi proffesiynol y gynghrair. Roedd yn hanu o Gaerdydd. Un o Butetown oedd Billy a chafodd yrfa lwyddiannus iawn yng ngogledd Lloegr gan na allai lwyddo o fewn natur sylfaenol geidwadol ond hefyd, yn fy marn i, gwleidyddol Geidwadol clwb rygbi Caerdydd ar y pryd. Mark Brown o Bont-y-pŵl yn y 1980au oedd chwaraewr rygbi rhyngwladol ethnig cyntaf Cymru ac ar ôl hynny daeth nifer o chwaraewyr fel Glen Webb ac eraill gan gynnwys Colin Charvis ac nid ydynt byth wedi manteisio ar eu gwhaniaeth ethnig mewn unrhyw ffordd ac maen nhw wedi cael eu derbyn yn y gymuned ac maen nhw wedi chwarae dros y clybiau mawr. Ond nid yw’r syniad bod rygbi Cymru wedi bod yn arbennig o oddefgar yn dal dŵr o reidrwydd, yn fy marn i, ond rwy’n credu bod yr elfen o wahaniaethu a welwyd yn rygbi Cymru wedi diflannu erbyn hyn. A byddwn i’n dweud, yn enwedig yn sgil rhywun fel Colin Charvis a fu’n gapten ar Gymru, fod rygbi Cymru yn adlewyrchu agwedd fwy cynhwysol tuag at hil erbyn hyn. Byddwn i’n tueddu i ddweud nad yw hil yn broblem yn rygbi Cymru heddiw.
Hugh Mackay
O’r gorau, gadewch i ni symud ymlaen i ail ran y llyfr a dechrau gyda chenedlaetholdeb. Mae gennyf ddiddordeb yn y berthynas rhwng rygbi Cymru a’r mudiad cenedlaetholgar yng Nghymru.
Gareth Williams
I rywun o’r tu allan, hynny yw, i rywun nad yw’n dod o Gymru, byddwn yn meddwl mai rygbi Cymru yw un o’r symbolau mwyaf grymus o arwahanrwydd Cymru, hunaniaeth Cymru, cenedlaetholdeb Cymru. O edrych yn fanylach, dwi ddim yn siŵr a yw hynny’n dal dŵr. Yn sicr, cafwyd nodweddion gwahanol sydd, yn hanesyddol, wedi gwneud rygbi Cymru yn wahanol i rygbi mewn gwledydd eraill, ac mae hyn yn aml wedi cael ei ystyried yn rhyw fath o genedlaetholdeb meddal, Cymreig. Ond ar lefel arall mae rygbi Cymru bob amser wedi bod ynghlwm wrth y gêm ymerodrol Brydeinig ac mae hynny’n dal yn wir ac nid yw erioed wedi ceisio bod yn wahanol. Yn sicr, mae’n ffocws ac yn fodd i sianelu hunaniaeth genedlaethol Cymru, ond os caf ddefnyddio ymadrodd a ddefnyddiwyd yng nghyd-destun pêl-droed yr Alban, cenedlaetholwyr wyth deg munud yw llawer o gefnogwyr Cymru. Maen nhw’n genedlaetholwyr ar ddiwrnod y gêm a gallent gael eu beirniadu am ddangos ymdeimlad arwynebol o hunaniaeth Gymreig a’u bod yn ddigon bodlon mynegi hynny drwy gefnogi Cymru’n frwd yn ystod y cyfnod hwnnw o wyth deg munud, yn enwedig yn erbyn Lloegr, ond y tu hwnt i hynny maen nhw’n cydnabod strwythur gwleidyddol Prydain a’i drefniadau ac nid ydynt yn dymuno newid hynny. O ran yr iaith bu elfen ieithyddol gref erioed yn yr ystyr ei bod yn fyth i raddau bod yr iaith yn perthyn i’r Gymru wledig ac nad yw wedi cyffwrdd â’r Gymru ddiwydiannol. Nid yw’n ddilys bellach ystyried bod yr iaith yn perthyn bron yn gyfan gwbl i orllewin Cymru, fel petai, ac i’r gorllewin pellaf, oherwydd nid yw’r gogledd yn ardal Gymraeg drwyddi draw, ac yn yr un modd mae cymunedau Cymraeg iawn yn y de ac yn y dwyrain ac yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg. Erbyn hyn ceir niferoedd eithaf mawr o chwaraewyr Cymraeg o deuluoedd o Gaerdydd sydd wedi cael eu magu a’u haddysgu yn yr hyn a ystyrid, neu’r hyn sydd, sbo, yn rhannau Seisnigaidd o Gymru. Nid yw’r iaith yn perthyn i unrhyw ardal ddaearyddol benodol mwyach. Rwy’n credu ei bod wedi’i dosbarthu’n eithaf cyfartal ledled Cymru. Felly, yn sicr, mae’r iaith yn ffactor. Mae agwedd Undeb Rygbi Cymru tuag at yr iaith ychydig yn amwys, yn fy marn i. Dwi erioed wedi ystyried bod yr iaith yn rhywbeth y mae Undeb Rygbi Cymru yn rhoi pwys mawr arno. Mae wedi cael ei orfodi i ymateb mewn amrywiol ffyrdd a’i chydnabod – bwrdd ysgolion dwyieithog, cyhoeddiadau dwyieithog – ond yn gyffredinol nid yw wedi gweithredu o’i wirfodd, mae wedi cael ei orfodi. Ddywedwn i ddim nad yw’n poeni dim am yr iaith, ond dwi ddim yn credu ei bod o bwys ac nid yw erioed wedi ystyried ei hun yn awyddus i hyrwyddo twf y Gymraeg, ond wedi dweud hynny pam ddylai fod? Nid dyna’i rôl.
Hugh Mackay
O’r gorau, y traddodiad gwleidyddol mawr arall yng Nghymru yw’r traddodiad Llafur. A allech ddweud rhywbeth am y cysylltiadau rhwng y traddodiad Llafur heddiw a rygbi Cymru?
Gareth Williams
Rwy’n credu ei bod yn anodd nodi cysylltiadau penodol rhwng yr hyn y gellid ei alw’n draddodiad Llafur yn rygbi Cymru, a hynny am fod y rhan fwyaf o chwaraewyr, gwaetha’r modd, yn anwleidyddol. Hyd yn oed ar adeg y gwrthdystiadau yn erbyn apartheid yn y 1970au, byddai chwaraewyr o Gymru yn ddigon bodlon mynd i Dde Affrica – "Wel, jest gêm fach arall yw hi. Dyna beth rwy’n ei wybod. Dwi ddim yn gwybod dim am wleidyddiaeth." A bu elfen o gadw’n ddistaw, fe gredaf, o ran agwedd chwaraewyr hynod ddawnus, uchel eu parch a wnaeth esgus na wyddent beth oedd yn digwydd. Nawr roedd y traddodiad Llafur yn yr ystyr honno yn gweithio mewn dwy ffordd. Roedden nhw’n cefnogi Llafur bron yn ddifeddwl. Roedden nhw’n dod o gefndir Llafur cadarn, yn gymdeithasol, yn wleidyddol, oherwydd eu cefndir a’u hamgylchedd diwydiannol. Ond ar yr un pryd roedd elfennau ystyriol o fewn y mudiad Llafur a oedd yn flaengar, er enghraifft, yn eu hagwedd tuag at gysylltiadau hiliol, ond, yn y bôn, anwleidyddol yw’r chwaraewyr a dwi ddim yn credu bod rygbi Cymru yn cynrychioli unrhyw blaid benodol na hyd yn oed yn mynegi unrhyw dueddiadau dros sbectrwm gwleidyddol Cymru. Ond pe baech yn ceisio barn y pymtheg chwaraewr yn y tîm cenedlaethol ar hyn o bryd a’u holi ynglŷn â’u safbwyntiau gwleidyddol, rwy’n credu y byddech yn synnu o bosibl o glywed yr ystod eang o safbwyntiau.
Hugh Mackay
Gwych. Yna, yn olaf, symudon ni ymlaen at bortreadau diwylliannol - sut mae rygbi yn cysylltu pobl â’i gilydd yng Nghymru drwy ddelweddau, sain, teledu. Felly pa fath o bortreadau a welwn o rygbi Cymru heddiw?
Gareth Williams
Mae rygbi Cymru yn un o’r ffyrdd mwyaf ystrydebol o bortreadu Cymru i gynulleidfa ehangach. Ond mae rygbi Cymru yn un o’r symbolau eiconig o Gymreictod. Ond nid dim ond ar y maes chwarae mae hynny’n wir. Mae amrywiol awduron, beirdd, dramodwyr, nofelwyr, prif awduron Cymru yn y ddwy iaith wedi ymgorffori rygbi yn eu hysgrifennu yn yr un ffordd ag y mae awduron Americanaidd wedi ymgorffori paffio a phêl fas yn eu hysgrifennu hwythau. A does dim byd tebyg yn unman ym Mhrydain, yn fy marn i, ar wahân i ychydig o ysgrifennu ynglŷn â phaffwyr gan nofelwyr o’r Alban fel William McIlvanney.
Hugh Mackay
Pa mor bwysig yw rygbi i deledu yng Nghymru?
Gareth Williams
Rwy’n credu bod y berthynas rhwng rygbi a theledu yn y Gymru sydd ohoni yn un ddadleuol. Rwy’n dwli ar rygbi. Rwyf erioed wedi dwli arno. Ond, yn fy marn i, ac nid yw hyn yn rhywbeth personol nac yn unigryw i mi, caiff llawer gormod o rygbi ei ddangos ar y teledu. Mae Undeb Rygbi Cymru wrth ei fodd gan y bydd cwmnïau darlledu yn talu arian mawr am yr hawl i ddarlledu rhaglenni. Ond does dim byd mwy diflas – ac ymddengys bod Undeb Rygbi Cymru yn amharod i wynebu hyn – na meysydd sy’n llai na hanner llawn gyda lleisiau’n atseinio’n dawel o amgylch eisteddleoedd a therasau gwag. Caiff gemau eu dangos bob wythnos, ac rwyf wedi bod yn y sefyllfa hon fy hun ac rwy’n gwybod fy mod yn siarad dros ddegau os nad cannoedd o filoedd o bobl eraill - pam y dylwn i deithio ddeng milltir, hanner can milltir, ar noson wlyb, fel y byddwn i wedi’i wneud ddeng, pymtheg mlynedd yn ôl, gan fod rygbi ar y teledu bellach a byddaf yn aros yn y tŷ i’w wylio. Rwy’n credu bod teledu wedi chwarae rhan i amlygu ychydig o’r bryntni a welir yn y gêm o bryd i’w gilydd ac mae ailddangos chwarae unwaith eto mewn rhyw ffordd yn chwalu mythau ynglŷn â’r gêm. Erbyn hyn mae llai o le am ddadleuon di-ben-draw sydd, mewn ffordd, fe wyddoch, yn porthi llenyddiaeth, mytholeg y gêm. Mae llawer o ddyfalu diangen, cyn y gêm ac ar ôl y gêm, ynghyd â dadansoddi arwynebol yn aml, yn fy marn i. Dwi ddim yn meddwl bod y sylwebwyr yn gwasanaethu’r gêm yn y ffordd orau bosibl ac, fel y dywedais, rwy’n credu bod llawer gormod o sylwebu. Rwy’n credu bod angen i’r driniaeth fod yn fwy soffistigedig. Rwy’n credu bod angen mwy o graffter a bod angen trin y gynulleidfa fel oedolion weithiau yn hytrach na chefnogwyr twp.