8.1 Hanes cynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru
Yn yr adran hon, byddwch yn dechrau drwy edrych ar y ffordd y mae Cymru wedi cael ei chynrychioli'n hanesyddol o fewn gwleidyddiaeth Prydain a pham bod cyfundrefn o gynrychiolaeth wleidyddol o'r fath yn cael ei hystyried yn annerbyniol gan rai grwpiau yng Nghymru. Bydd hyn yn arwain at ystyried y twf cynyddol am ddatganoli i Gymru yn ystod y 1960au a'r 1970au, ac yna unwaith eto yng nghanol y 1990au. Daw'r adran i ben drwy ystyried y cynlluniau datganoli a gyflwynwyd gan Lafur Newydd yn 1997, a strwythur a phwerau'r Cynulliad a grëwyd yn fuan wedi hynny.