Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.1.2 Herio cynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru

Yn hanesyddol, mae sawl grŵp gwahanol wedi herio'r gyfundrefn o gynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru. Er enghraifft, yn 1925, sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru (a elwir yn ddiweddarach yn Blaid Cymru,) er mwyn gwarchod y Gymraeg a mynnu ‘freedom’ for Wales to decide on its own political affairs. Chwaraeodd Plaid Cymru, ynghyd â'r blaid gyfatebol yn y Alban, Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP), ran bwysig yn y broses o roi datganoli ar agenda wleidyddol y DU yn y 1960au a'r 1970au. Yn rhannol mewn ymateb i fygythiad etholiadol cynyddol cenedlaetholdeb yng Nghymru a'r Alban, ymrwymodd y Blaid Lafur Brydeinig i raglen o ddatganoli i gyrff newydd a etholir yn ddemocrataidd yng Nghymru a'r Alban. Cyflwynwyd y cynlluniau hyn i bleidleiswyr yng Nghymru a'r Alban mewn refferendwm yn 1979.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffigur 16 ‘Why you should vote NO in the referendum’: taflen 1979

Gweithgaredd 23

Mae Ffigur 16 yn dangos copi o daflen sy'n crynhoi rhai o'r prif ddadleuon a gyflwynwyd gan wrthwynebwyr datganoli yn y refferendwm ar ddatganoli i Gymru yn 1979. Wrth i chi ei darllen, ystyriwch pa mor ddarbwyllol yw'r dadleuon hyn, a pha fath o ddadleuon y gallai cefnogwyr datganoli fod wedi'u cyflwyno mewn ymateb i'r haeriadau hyn.

Gadael sylw

Gallwch gytuno neu anghytuno â'r dadleuon hyn yn erbyn datganoli i Gymru. Ond yn 1979, cafodd y cynlluniau hynny eu trechu'n llwyr. Oherwydd y canlyniadau hyn, a'r llywodraeth Geidwadol newydd a etholwyd yn 1979 nad oedd ganddi fawr ddim diddordeb yn y materion hyn, tynnwyd datganoli oddi ar yr agenda wleidyddol Brydeinig am sawl blwyddyn. Ac eto, yn ystod y cyfnod o ddeunaw mlynedd pan oedd y Blaid Geidwadol mewn grym – o 1979 i 1997 – bod pryderon ynglŷn â dilysrwydd cynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru wedi cynyddu i'r fath graddau erbyn canol y 1990au nes bod galw o'r newydd am ddatganoli pŵer i Gynulliad a etholir yn ddemocrataidd.

Mae cysyniad dilysrwydd yn derm hynod bwysig ym myd gwleidyddiaeth, ond gall fod yn anodd cytuno ar un diffiniad o'r term. Un ffordd o feddwl amdano yw mewn termau ‘cyfiawnder’ (Heywood, 2000, t. 29). Felly, er enghraifft, os oeddem am asesu dilysrwydd cyfundrefn wleidyddol, byddem am wybod i ba raddau y mae pobl sy'n byw o dan y gyfundrefn honno yn credu bod y ffordd y caiff penderfyniadau gwleidyddol eu gwneud yn 'gyfiawn'. Os bydd cyfundrefn wleidyddol yn esgor ar ganlyniadau polisi teg y mae'r bobl sy'n byw o dan y gyfundrefn yn eu derbyn ac (yn achos cyfreithiau) yn ufuddhau iddynt, yna byddem yn dweud ei bod yn gyfundrefn wleidyddol ddilys. A hynny am fod aelodau'r gymuned wleidyddol yn derbyn cael eu llywodraethu mewn ffordd benodol, ac yn ufuddhau i'r penderfyniadau gwleidyddol a wneir gan y rhai sy'n llywodraethu. Cyfundrefn wleidyddol annilys fyddai un lle y teimlir nad oes gan y rhai mewn grym yr hawl i wneud penderfyniadau gwleidyddol ar ran pobl sy'n byw yn y gymuned honno.

Er mwyn helpu i feddwl am ddilysrwydd cyfundrefn o gynrychiolaeth wleidyddol, mae'n ddefnyddiol meddwl yn nhermau 'mewnbynnau' ac 'allbynnau' unrhyw broses o gynrychiolaeth wleidyddol (Judge, 1999, t. 21).

  • Mae 'mewnbynnau' yn cyfeirio at etholiadau, ac o ran hyn mae gennym ddiddordeb yng 'nghyfiawnder' y ffordd y caiff cynrychiolwyr eu hethol (e.e. a yw'r etholiadau'n deg, yn agored ac yn dryloyw?), y graddau y mae cynrychiolwyr yn adlewyrchu dymuniadau polisi'r pleidleiswyr, a phwy yw'r cynrychiolwyr.

  • Mae'r 'allbynnau' yn cyfeirio at yr hyn y mae cynrychiolwyr yn ei wneud ar ôl iddynt gael eu hethol; o ran hyn, rydym am wybod a yw ein cynrychiolwyr wedi gweithredu'n gyfrifol ac mewn ffordd sy'n cyfateb i'n dymuniadau ai peidio.

Yng Nghymru, erbyn canol y 1990au, gellir dadlau bod cynrychioliaeth wleiddydol yn wynebu problemau o ran dilysrwydd mewnbynnau ac allbynnau. O ran dilysrwydd mewnbynnau, bu dau brif bryder. Roedd y cyntaf yn ymwneud â dymuniadau gwleidyddol pleidleiswyr yng Nghymru a sut roedd y rhain yn cael eu hadlewyrchu (ai peidio) yn y llywodraeth a fu mewn grym yn San Steffan.

Mae Tabl 2 yn rhoi canlyniadau etholiadau cyffredinol i Gymru rhwng 1979 a 1997. Os edrychwch yn benodol at y rhes i'r 'Ceidwadwyr', byddwch yn sylwi ar yr hyn sy'n digwydd i ganlyniadau etholiadol y blaid rhwng 1979 a 1997. Wedyn cymharwch hyn â'r rhes i'r 'Blaid Lafur' a byddwch yn sylwi mai'r gwahaniaeth mwyaf ym mherfformiad etholiadol y ddwy blaid hyn yw nad yw'r Blaid Geidwadol erioed wedi cael mwyafrif etholiadol yng Nghymru.

Tabl 2 Canlyniadau etholiadau cyffredinol yng Nghymru, 1979–1997
19791983198719921997
Plaid %Seddau%Seddau%Seddau%Seddau%Seddau
Llafur47.022 37.520 45.1 24 49.527 54.734
Ceidwadwyr 32.211 31.014 29.5 8 28.66 19.60
Democrataid Rhyddfrydol10.61 23.22 17.9 3 17.91 12.42
Plaid Cymru 8.12 7.8 2 7.3 3 8.84 9.94
Eraill 2.20 0.4 0 0.2 0 0.70 3.40
Cyfanswm10036 10038 100 38 10038 10040

Troednodyn  

Thrasher a Rallings, 2007, t. 223

Dirywio a wnaeth cefnogaeth etholiadol y Blaid Geidwadol o ganol y 1980au ymlaen. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad â'r Blaid Lafur, a welodd ei sefyllfa gref yng ngwleidyddiaeth Cymru yn mynd yn gryfach eto dros yr un cyfnod. Felly, roedd Cymru yn cael ei llywodraethu gan blaid wleidyddol nad oedd yn cael cefnogaeth pleidleiswyr Cymru. Cafodd y rhwystredigaeth gynyddol a barodd y sefyllfa hon ei mynegi'n glir gan Ron Davies, yr AS Llafur dros Gaerffili ac un o brif benseiri datganoli i Gymru:

In 1987 and again in 1992 I clearly remember the sense of despair not only at the return of a Conservative government but the consequences of Wales having so clearly turned its face against the Tories yet still facing the prospect of a Tory government, a Tory Secretary of State and Tory policies imposed on us in Wales. I vividly recall the anguish expressed by an eloquent graffiti artist who painted on a prominent bridge in my constituency, overnight after the 1987 defeat, the slogan ‘we voted Labour and we got Thatcher’.

(Davies, 1999, t. 4–5)

Cafodd y teimlad hwn o fyw o dan lywodraeth plaid wleidyddol 'heb ei hethol' ei ddwysau gan y ffaith bod llawer o'r ysgrifenyddion gwladol a benodwyd i'r Swyddfa Gymreig - ac felly'n effeithio ar swmp a sylwedd polisïau a effeithiai ar Gymru - yn ASau o etholaethau yn Lloegr. Dim ond un o'r chwe Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol rhwng 1979 a 1997 oedd â sedd yng Nghymru.

O ran dilysrwydd allbynnau, teimlid yn aml fod penderfyniadau polisi'r Blaid Geidwadol yn cael eu gorfodi ar Gymru yn groes i ewyllys pleidleiswyr Cymru. Cafodd hyn ei ddwysau gan y ffaith bod y Swyddfa Gymreig ar adegau o dan arweinyddiaeth unigolion - John Redwood yn benodol - a oedd yn arddel safbwyntiau Thatcheraidd iawn a oedd yn amlwg yn mynd i groes i werthoedd gwleidyddol Cymru. Roedd penderfyniadau polisi eraill a wnaed gan y llywodraeth ganolog – gan gynnwys treth y pen a phreifateiddio'r diwydiannau trwm megis glo – hefyd yn hynod amhoblogaidd. O dan lywodraeth y Blaid Geidwadol gwelwyd twf hefyd mewn 'cwangos', fel y'u gelwid, yng Nghymru (sefydliadau anllywodraethol lled-ymreolaethol). Mae'r rhain yn gyrff annibynnol o dan arweinyddiaeth unigolion a benodwyd gan y llywodraeth ac roeddent yn gyfrifol am reoleiddio'r diwydiannau newydd eu preifateiddio, goruchwylio gweithgareddau diwylliannol a gwyddonol a chynghori'r llywodraeth ar bolisi. Yng Nghymru, roedd hyn yn cynnwys cyrff megis Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Bwrdd Croeso Cymru, ac amrywiol Awdurdodau Iechyd rhanbarthol. Roedd twf y cwangos wedi dwysau'r teimlad bod Cymru yn cael ei llywodraethu'n gynyddol gan 'wladwriaeth heb ei hethol' (Morgan a Mungham, 2000 t. 45–67).

Ar ben y pryderon hyn ynglŷn â dilysrwydd mewnbynnau ac allbynnau ceid y ffaith bod y Blaid Lafur wedi bod yn wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin ers bron ddau ddegawd, ac nid yw'n anodd deall pam yr ymrwymodd y blaid hon i raglen o ddatganoli pe bai'n ennill grym. Digwyddodd hyn yn 1997. Ar ôl ffurfio llywodraeth, dechreuodd Llafur Newydd Tony Blair ar raglen sylweddol ac eang ei chwmpas o newid cyfansoddiadol, gan gynnwys creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Mae'r adran nesaf yn amlinellu sut y digwyddodd y newidiadau hyn, ac mae'n rhoi trosolwg o brif bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.