Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.1.3 Llafur Newydd a setliad datganoli Cymru

Hyrwyddodd Llafur Newydd, o dan arweinyddiaeth Tony Blair, ddatganoli ar y sail ‘it will bring government closer to the people, make our politics more inclusive and put power in the hands of the people where it belongs’ (dyfyniad yn Chaney a Fevre, 2001, t. 22–3; pwyslais wedi'i ychwanegu). Cyflwynwyd y cynlluniau uchelgeisiol hyn i greu math newydd cynhwysol o wleidyddiaeth gerbron etholwyr Cymru mewn refferendwm ar 18 Medi 1997.

Ffigur 17 Sut y rhannwyd Cymru gan y bleidlais

Yr wythnos cynt, roedd pleidleiswyr yr Alban wedi pleidleisio i sefydlu senedd i'r Alban, gyda 74.3 y cant o blaid y cynnig o gymharu â 25.7 yn ei wrthwynebu. Yng Nghymru, dim ond hanner etholwyr Cymru – 50.1 y cant a bod yn fanwl gywir – a bleidleisiodd yn y refferendwm. Ni allai'r canlyniad fod wedi bod yn agosach: O gael eu gofyn a oeddent yn cytuno y dylai fod Cynulliad i Gymru, dywedodd 50.3 y cant o bleidleiswyr ‘Ie', gyda 49.7 y cant yn dweud Na. Dengys Ffigur 17 sut roedd cefnogaeth a gwrthwynebiad i ddatganoli wedi'u dosbarthu'n ddaearyddol ledled Cymru; pleidleisiodd ardaloedd gwledig Cymraeg eu hiaith yn bennaf yn y gogledd-orllewin a'r de-orllewin o blaid datganoli, ond pleidleisiodd y cymunedau diwydiannol mwy Seisnigaidd yn y gogledd-ddwyrain a'r de-ddwyrain i wrthod y cynigion hyn.

Felly, dywedodd etholwyr Cymru 'Ie' i ddatganoli o 6,721 o bleidleisiau'n unig. Nid oedd hyn yn dangos cefnogaeth frwd dros y prosiect datganoli. Gellid ystyried bod natur agos y canlyniad yn arwydd nad oedd i'r Cynulliad Cenedlaethol newydd ddilysrwydd, o gofio na phleidleisiodd llai na hanner pleidleiswyr Cymru o gwbl, a bod hanner y rhai a bleidleisiodd yn gwrthwynebu sefydlu corff o'r fath. Mae hyn yn eironig, o gofio mai diben datganoli oedd datrys problem diffyg dilysrwydd canfyddedig yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Gweithgaredd 24

Er gwaethaf natur agos canlyniad y refferendwm yn 1997, eto i gyd, roedd yn ganlyniad a ddangosodd fod agweddau tuag at ddatganoli wedi newid mewn ffyrdd pwysig ers refferendwm 1979. Wrth i chi ddarllen y canlynol, nodwch bum ffactor pwysig sy'n helpu i esbonio pam bod newid o'r fath ym marn y cyhoedd.

Darn 15 Why was 1997 different?

The timing of the Welsh referendum of 1997 could not have been better in terms of securing a ‘yes’ vote. The new Labour government was still enjoying its honeymoon period, little opportunity had existed for left-wing discontent to grow, and the Scots had already a week earlier voted resoundingly for the establishment of a parliament in Edinburgh. Furthermore, the speedy pre-legislative referendum ensured that there was little time for the deficiencies of the government’s devolution proposals to be examined. The ‘no’ campaign was a damp squib. In contrast, the political context of the referendum in 1979 was hostile indeed for the then Labour government. It had lost its majority during 1976 and was reliant on the Liberals and other smaller parties to ensure success for its legislative programme. The referendum took place shortly after the ‘winter of discontent’ and amidst the resurgence of the Conservative Party under Margaret Thatcher ... These different political contexts in 1979 and 1997 can be seen to have influenced electors’ behaviour; to have changed the pattern of support and opposition to devolution; and in the final instance, to have undermined the turnout among ‘no’ voters sufficiently for a ‘yes’ result to have crept in under the wire ...

This is not to deny that, although the increase in the proportion of the population of Wales affirming a Welsh identity between 1979 and 1997 was small, Welsh national identity increased in political salience ... [T] wo notable developments have occurred. People with a Welsh national identity have become more pro-devolution. And Plaid Cymru, the nationalist party, has become markedly more acceptable to the mass of the population in Wales ... As there was no marked social change that might account for why a Welsh identity became more politically salient, it is likely to be a political creation. Perhaps the Labour government should thank Plaid Cymru for its work in this area, for without the politicisation of Welsh identity, the swing from 1979 to 1997 would not have been enough.

Evans and Trystan, 1999, t. 113–14

Gadael sylw

Rhai o'r ffactorau yr ydych wedi'u nodi o bosibl fel ffactorau a gyfrannodd at bleidlais 'Ie' yn y refferendwm yw:

  • poblogrwydd y llywodraeth Lafur newydd ei hethol

  • y bleidlais 'ie' yn yr Alban yr wythnos cynt

  • cyflymder pasio'r ddeddfwriaeth ar gyfer cynnal refferendwm yn Nhŷ'r Cyffredin

  • ymgyrch 'na' wedi'i threfnu'n wael

  • perthnasedd cynyddol hunaniaeth Gymreig.

Arweiniodd canlyniad y refferendwm at greu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru. Yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 1998, byddai gan y corff newydd hwn y nodweddion canlynol:

  • Trigain Aelod Cynulliad (AC), a etholir drwy system aelod amgen (gweler Blwch 1).

  • Byddai'r pwerau a oedd yn cael eu harfer gynt gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Swyddfa Gymreig yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad. Mae'r meysydd o gyfrifoldeb yn cynnwys amaethyddiaeth; diwylliant; datblygu economaidd; addysg a hyfforddiant; yr amgylchedd; iechyd; chwaraeon; datblygu economaidd; addysg a benthyciadau i fyfyrwyr; yr amgylchedd; iechyd; llywodraeth leol a thai; chwaraeon; gwasanaethau cymdeithasol; trafnidiaeth a'r iaith Gymraeg.

  • Yn y meysydd polisi hyn, byddai'r Cynulliad yn cael pwerau is-ddeddfu. Golygai hyn y byddai pob deddf (deddfwriaeth sylfaenol) yn cael ei gwneud yn San Steffan o hyd; fodd bynnag, byddai'r Cynulliad yn gallu pennu rheolau a rheoliadau sy'n addasu'r ddeddfwriaeth i gyd-destun penodol Cymru.

  • Cafodd y Cynulliad ei gynllunio i fod yn gorff 'corfforaethol'; golygai hyn y byddai'r Cynulliad yn ei gyfanrwydd yn gyfrifol am gynnig, derbyn a chraffu ar benderfyniadau polisi, yn wahanol i'r rhaniad a welir yn y rhan fwyaf o gyfundrefnau gwleidyddol rhwng y weithrediaeth (y llywodraeth) a'r ddeddfwrfa (y senedd). Roedd y modwl hwn o lywodraethu wedi'i gynllunio i hyrwyddo consensws a chydweithredu rhwng pleidiau gwleidyddol.

Cynhaliwyd etholiad cyntaf y Cynulliad ar 6 Mai 1999. Mae Tabl 3 yn rhoi canlyniadau’r etholiad hwn ac etholiadau dilynol yn 2003 a 2007. Esbonnir y gwahaniaeth rhwng y bleidlais gyntaf a'r ail bleidlais yn yr etholiadau hyn ym Mlwch 1.

Blwch 1 Yr hanfodion: system y cyntaf i'r felin o'i chymharu â systemau etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol

Yn y Deyrnas Unedig, caiff cynrychiolwyr i Dŷ'r Cyffredin eu hethol drwy ddefnyddio system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Ym mhob etholaeth, rhoddir rhestr o ymgeiswyr yn cynrychioli gwahanol bleidiau gwleidyddol i'r pleidleiswyr. Mae'r pleidleisiwr yn pleidleisio i'w ddewis ymgeisydd, a bydd yr ymgeisydd sy'n ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau yn yr etholaeth yn ennill y sedd. Mae'r 'enillydd sy'n cael y cyfan' yn etholiadau’r cyntaf i'r felin; nid oes gwobr i ymgeiswyr sy'n dod yn ail neu'n drydydd. Felly, er enghraifft, os bydd Ymgeisydd A yn ennill 40 y cant o'r bleidlais, a bod Ymgeisydd B yn ennill 39 y cant o'r bleidlais, Ymgeisydd A a gaiff ei ethol am ei fod/bod wedi ennill y nifer mwyaf o bleidleisiau. Defnyddir systemau etholiadol y cyntaf i'r felin yng Nghanada, UDA ac India hefyd.

Mae systemau etholiadol 'cynrychiolaeth gyfrannol' (PR) yn wahanol am eu bod yn ceisio cyfateb cyfran pleidlais plaid mor agos â phosibl i'w chyfran o seddau seneddol. Gadewch i ni ddychmygu bod system PR yn cael ei defnyddio i ethol cynrychiolwyr i Dŷ'r Cyffredin. Mewn egwyddor, os bydd plaid A yn ennill 40 y cant o'r holl bleidleisiau a fwriwyd yn y Deyrnas Unedig, bydd yn cael 40 y cant o'r cynrychiolwyr yn Nhŷ'r Cyffredin; Bydd Plaid B, sy'n ennill 30 y cant o'r pleidleisiau a fwriwyd, yn cael 30 y cant o seddau, ac ati. Felly gallwn ddweud bod nifer cynrychiolwyr plaid yn gyfrannol â nifer y pleidleisiau a gafodd. Gellir gweld enghreifftiau o systemau PR yn yr Almaen ac Awstralia (er bod sawl math gwahanol o system PR yn bodoli).

Mae'r system etholiadol a ddefnyddir i ethol cynrychiolwyr i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn un led-gyfrannol, gan ei bod yn cyfuno elfennau o systemau Cyntaf i'r Felin a PR. Gelwir y system hon yn 'system aelodau ychwanegol', lle mae 40 o aelodau'r Cynulliad yn cael eu hethol drwy ddefnyddio'r Cyntaf i'r Felin, tra bod yr 20 arall yn cael eu hethol drwy ddefnyddio PR. Golyga hyn y bydd pob pleidleisiwr mewn etholiadau i'r Cynulliad yn cael dwy bleidlais. Caiff y bleidlais gyntaf ei bwrw i un ymgeisydd, sy'n cynrychioli etholaeth benodol, yn yr un modd ag y caiff cynrychiolwyr eu hethol i Dŷ'r Cyffredin (drwy roi X wrth ymyl enw dewis ymgeisydd yr etholwr ar y papur pleidleisio). Defnyddir yr ail bleidlais i ethol aelodau ychwanegol sy'n cynrychioli un o bum rhanbarth yng Nghymru. Yn hytrach na phleidleisio i ymgeisydd unigol, caiff y bleidlais ei bwrw i blaid wleidyddol; caiff y seddau ychwanegol hyn eu dyrannu mewn ffordd sy'n unioni unrhyw annhegwch yn y ffordd y dyrennir seddau etholaethau a enillwyd ar sail y Cyntaf i'r Felin (ceir fformiwla gymhleth iawn sy'n cyfrifo faint o seddau amgen y dylid eu dyrannu i bob plaid wleidyddol!). Mae systemau aelodau angen hefyd wedi cael eu defnyddio'n eang ledled y byd, gan gynnwys yn Seland Newydd.

Tabl 3 canlyniadau etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999-2007
1999200320072011
PlaidY Bleidlais Gyntaf (%)Yr Ail Bleidlais (%)Cyfanswm y SeddauY Bleidlais Gyntaf (%)Y Ail Bleidlais (%)Cyfanswm y SeddauY Bleidlais Gyntaf (%)Y Ail Bleidlais (%)Cyfanswm y SeddauY Bleidlais Gyntaf (%)Y Ail Bleidlais (%)Cyfanswm y Seddau
Llafur 37.6 35.5 28 40.0 36.6 30 32.2 29.6 2642.336.930
Ceidwadwyr 15.8 16.5 9 19.9 19.2 11 22.4 21.5 122522.514
Democratiaid Rhyddfrydol 13.5 12.5 6 14.1 12.7 6 14.8 11.7 610.685
Plaid Cymru28.4 30.6 17 21.2 19.7 12 22.4 21.0 1519.317.911
Eraill4.7 4.9 0 4.8 11.8 1 8.3 16.3 12.814.70
Cyfanswm100.0 100.0 60 100.0 100.0 60 100.0 100.0 6010010060

Troednodyn  

Wyn Jones a Scully (2004), t. 194; Scully ac Elias (2008), t. 105; wedi'i ddiweddaru drwy nodi canlyniadau 2011
Jeff Morgan/Alamy
Ffigur 18 Y tu mewn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Roedd gwleidyddion blaenllaw yn y blaid Lafur erioed wedi disgwyl mai ‘process not an event’ (Davies, 1999) fyddai datganoli i Gymru, a bod lle i newid ac addasu dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, cododd yr angen am newid ac addasu lawer yn gynt na'r disgwyl. Mewn byr amser daeth anfanteision y setliad cyfansoddiadol hwn i'r amlwg: o fewn blwyddyn ar ôl ei sefydlu, bu galw am ailystyried trefniadau sefydliadol a phwerau'r Cynulliad. Dechreuodd Comisiwn Richard, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Llafur yr Arglwydd Ivor Richard, ar ei drafodion yn 2002 a chasglodd dystiolaeth helaeth ynglŷn â sut roedd y Cynulliad yn gweithio ym marn gwahanol grwpiau a grwpiau â buddiant. Cynigiodd adroddiad terfynol y Comisiwn, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2004, y dylai'r setliad datganoli gwreiddiol gael ei diwygio'n sylweddol. Cafodd rhai o'r argymhellion hyn eu cynnwys mewn deddf newydd, Deddf Llywodraeth Cymru 2006, a oedd yn cynnwys y darpariaethau allweddol canlynol:

  • rhoi'r gorau i'r syniad o 'gorff corfforaethol', ac yn lle hynny, cael rhaniad cliriach rhwng rôl y weithrediaeth (h.y. y Llywodraeth, yn gyfrifol am gynnig a gweithredu polisi) a'r ddeddfwrfa (y Cynulliad, yn gyfrifol am graffu ar weithgareddau'r Llywodraeth)

  • pwerau newydd i'r Cynulliad ofyn am yr hawl i ddeddfwriaeth sylfaenol gael ei dirprwyo oddi wrth San Steffan.

Cafwyd trafodaeth bellach ynglŷn â dyfodol datganoli yng Nghymru pan grëwyd Confensiwn i Gymru Gyfan yn 2008 er mwyn ystyried ehangu pwerau'r Cynulliad ymhellach. Roedd sefydlu confensiwn o'r fath yn un o'r ymrwymiadau a wnaed gan Lafur a Phlaid Cymru ym mis Mehefin 2007 pan gytunwyd i ffurfio llywodraeth gyda'i gilydd. Un o brif amcanion Confensiwn Cymru Gyfan oedd asesu i ba raddau roedd cefnogaeth y cyhoedd yn symud tuag at bwerau deddfu llawn i'r Cynulliad. Byddai hyn yn rhoi pwerau deddfu sylfaenol i'r sefydliad ym mhob un o'r meysydd polisi a oedd wedi'u datganoli, er y byddai angen refferendwm newydd er mwyn i hyn ddigwydd. Fel rhan o'i waith, cynhaliodd Confensiwn Cymru Gyfan gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru er mwyn casglu safbwyntiau'r cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â phwerau pellach i'r Cynulliad. Cyflwynwyd argymhellion y Confensiwn i'r Cynulliad ym mis Tachwedd 2009. Awgrymodd y dystiolaeth a gasglwyd, pe bai refferendwm ar bwerau ychwanegol yn cael ei gynnal, y tybid y byddai pleidlais 'Ie' yn bosibl ond nid yn sicr (Confensiwn Cymru Gyfan, 2009).

Confensiwn Cymru Gyfan
Ffigur 19 Digwyddiad ar ffurf Question Time a drefnwyd gan Gonfensiwn Cymru Gyfan, Caerdydd 2009