8.2 Ehangu ymgysylltu a chyfranogi yng ngwleidyddiaeth Cymru
Magodd y term 'cynhwysol' ail ystyr yn ystod y trafodaethau yn y cyfnod cyn datganoli ac yn ystod blynyddoedd cyntaf datganoli, sef ‘a concern for fostering wider citizen participation in government and engagement with different social groupings’ (Chaney a Fevre, 2001, t. 26). Yn yr ystyr hon, mae gwleidyddiaeth gymhwysol yn golygu grymuso a chynnwys grwpiau o bobl sydd wedi cael eu hymyleiddio neu eu hallgau o'r broses wleidyddol yn y gorffennol.
Yn yr Alban, roedd datganoli yn ymateb, yn rhannol, i alwadau gan y fath grwpiau heb bŵer am fwy o ymwneud â llywodraethu. I'r gwrthgyferbyniad, ni fu fawr ddim galw o'r fath yng Nghymru. O ystyried y diffyg brwdfrydedd am ehangu ymwneud democrataidd yn y fath fodd, yr her i'r Cynulliad oedd creu cyfleoedd newydd am ymgysylltu a chyfranogi torfol yn y broses wleidyddol. Rydym yn ystyried i ba raddau y llwyddwyd i wneud hynny yng ngweddill yr adran hon. Ceir ffocws yn benodol ar y graddau y mae datganoli wedi creu cymdeithas sifil fywiog yng Nghymru lle na fu un yn bodoli gynt. Gadewch i ni ddechrau drwy ddiffinio'r term allweddol hwn.