8.2.1 Diffinio cymdeithas sifil
Caiff y cysyniad o gymdeithas sifil ei grybwyll a'i drafod cryn dipyn ym myd gwleidyddiaeth ac yn aml caiff ei ddefnyddio gan academyddion a gwleidyddion i olygu pethau gwahanol iawn. Rwy'n defnyddio cymdeithas i olygu'r canlynol:
Mae cymdeithas sifil yn cynrychioli maes penodol sydd ar wahân i'r 'wladwriaeth' (sefydliadau gwleidyddol, pleidiau gwleidyddol a sefydliadau gwleidyddol eraill) a'r 'farchnad' (sefydliadau cynhyrchu a dosbarthu, megis cwmnïau a busnesau).
Mae cymdeithas sifil yn cynnig lle i unigolion a sefydliadau drafod, cyfnewid barn, a llunio barn ar faterion sy'n bwysig i gymdeithas gyfan. Mae cymdeithas sifil yn cynnwys sefydliadau megis elusennau, sefydliadau anllywodraethol, grwpiau cymunedol ac amgylcheddol, sefydliadau i fenywod, sefydliadau crefyddol a sefydliadau defnyddwyr, cymdeithasau galwedigaethol, undebau llafur, grwpiau hunangymorth, cymdeithasau busnes a grwpiau eiriolaeth.
Yn bwysicach na dim, mae'r lleisiau a'r safbwyntiau hyn sy'n dod o gymdeithas sifil yn craffu ar weithredoedd y gymdeithas wleidyddol (y wladwriaeth) a'r gymdeithas economaidd (y farchnad), eu beirniadu a gwrthbwyso eu dylanwad a fyddai fel arall yn ormodol. Felly mae cymdeithas sifil yn cydbwyso grym y wladwriaeth- yn cynnig rheolaeth arni. Am y rheswm hwn, mae cymdeithas sifil fywiog yn aml yn cael ei hystyried yn elfen hanfodol i gymdeithas ddemocrataidd.