8.2.2 Gwleidyddiaeth gynhwysol drwy gymdeithas sifil fywiog
Ceir cytundeb cyffredinol rhwng ysgolheigion ym myd gwleidyddiaeth Cymru fod datganoli wedi creu cyfleoedd newydd i'r rhai mewn cymdeithas sifil ryngweithio â strwythurau'r llywodraeth yng Nghymru, a dylanwadu ar benderfyniadau polisi a wneir gan y Cynulliad. Mae fframwaith cyfreithiol y weinyddiaeth newydd ei datganoli yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad sicrhau bod egwyddor cyfle cyfartal i holl ddinasyddion Cymru wrth wraidd ei agenda wleidyddol. Ymatebodd y Llywodraeth i'r ddyletswydd hon drwy gyflwyno nifer o fentrau er mwyn meithrin cydberthnasau newydd â grwpiau wedi'u hymyleiddio a grwpiau lleiafrifoedd yng Nghymru. Mae'r rhwydweithiau' cydraddoldeb' a sefydlwyd, er enghraifft, yn cynnwys sefydliadau gwirfoddoli sy'n cynrychioli buddiannau grwpiau sydd wedi'u hymyleiddio. Mae'r rhain yn cynnwys Anabledd Cymru a Stonewall Cymru. Mae'r sefydliadau hyn wedi cael arian gan y Llywodraeth i dalu am aelodau newydd o staff i gefnogi ac ehangu eu gweithgareddau, ehangu eu haelodaeth a chyfrannu at drafodaethau ar wahanol bolisïau y mae'r Llywodraeth yn eu datblygu. Mae'r Isadran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn gyfrifol am roi cyngor a chymorth i'r Llywodraeth wrth iddi ddatblygu polisïau, cynnal deialog â chymunedau lleiafrifoedd a lledaenu arfer gorau.
Mae creu maes newydd o wneud penderfyniadau gwleidyddol yng Nghymru hefyd wedi sbarduno rhai grwpiau mewn cymdeithas sifil i ddatblygu strwythurau sefydliadol a strategaethau newydd er mwyn cael y dylanwad gwleidyddol mwyaf. Mae Oxfam, er enghraifft, wedi ail-frandio ei hun yn 'Oxfam Cymru' ac wedi neilltuo staff ac adnoddau ariannol newydd er mwyn lobïo 'r Llywodraeth (Royles, 2007, t. 109–10). At hynny, mae grwpiau ac unigolion cymdeithas sifil wedi ceisio manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i ryngweithio ag ACau a gweision sifil. Un grŵp sydd wedi bod yn hynod effeithiol o ran dylanwadu ar bolisïau yng Nghymru yw Cyfeillion y Ddaear Cymru; ceir crynodeb o'r amrywiol ffyrdd a ddefnyddiodd i gyflawni hyn yn Astudiaeth Achos 8.2. Mae grwpiau eraill wedi bod yr un mor weithgar o ran ceisio dylanwadu ar bolisïau yng Nghymru wedi datganoli.
Women’s and disabled people’s groups have submitted written responses to key policy initiatives covering the breadth of the Welsh Government’s work. They have presented papers to Assembly committees that have formed the basis of discussions between the group’s representatives, AMs, committee advisors and officials [and] have been invited to join task groups to develop policies and implement strategies.
Mae'r dystiolaeth a ystyriwyd hyd yma yn awgrymu bod datganoli wedi llwyddo mewn gwirionedd i greu math newydd o wleidyddiaeth gynhwysol yng Nghymru. Mae materion cydraddoldeb yn fwy canolog i brosesau gwneud polisi yng Nghymru ac mae mwy o ymwneud â'r broses wleidyddol ymhlith grwpiau lleiafrifoedd ac eraill mewn cymdeithas sifil.
Fodd bynnag, mae astudiaethau o gymdeithas sifil yng Nghymru wedi datganoli hefyd yn datgelu datblygiadau llai cadarnhaol. Mae gan rai sefydliadau cymdeithas sifil gydberthnasau agosach a mwy allgynhwysol â Llywodraeth Cymru nag eraill, a hynny, yn rhannol, oherwydd y gwahaniaethau rhwng sefydliadau cymdeithas sifil eu hunain. Er bod gan rai grwpiau, megis Oxfam Cymru a Chyfeillion y Ddaear Cymru, adnoddau da, nid yw hynny'n wir am eraill ac felly mae'n llawer mwy anodd iddynt gael perthynas â Llywodraeth Cymru. O ran y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a grwpiau sy'n cynrychioli grwpiau menywod a lleiafrifoedd ethnig, mae'r rhai wedi cael eu dominyddu gan elit bach o weithwyr proffesiynol dosbarth canol. Mae'r rhan fwyaf o aelodau'r sefydliadau hyn yn anwybodus o weithgareddau a materion sy'n bwysig i'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru gan mwyaf (Betts a Chaney, 2004; Williams, 2004). Mae grwpiau ffydd y tu allan i brif ffrwd Cristnogaeth hefyd wedi ei chael hi'n anodd cael gwrandawiad teg gan y rhai yn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru (Day, 2006, t. 650). Mae'r holl enghreifftiau hyn yn awgrymu anghydraddoldebau mawr o ran grym a dylanwad rhwng sefydliadau cymdeithas sifil. Caiff grwpiau llai o faint, llai profiadol a mwy ymylol eu hallgau o'r rhyngweithio rhwng cymdeithas sifil a'r Cynulliad a'r Llywodraeth.
Cyfeillion y Ddaear Cymru
Sefydliad rhyngwladol mawr yw Cyfeillion y Ddaear, a'i nod yw sbarduno pobl i wrthsefyll prosiectau a pholisïau sy'n niweidiol yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Mae'n cynnwys rhwydwaith o sefydliadau sy'n weithgar mewn gwahanol gyd-destunau cenedlaethol a rhanbarthol. Yn y DU, mae Cyfeillion y Ddaear yn grŵp ymgyrchu amgylcheddol gweladwy a dylanwadol iawn.
Sefydlwyd Cyfeillion y Ddaear yn 1984 i ymgyrchu dros faterion amgylcheddol yng Nghymru. Yn sgil sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 crëwyd ffocws newydd i weithgareddau'r sefydliad, yn enwedig gan y byddai'r corff newydd hwn yn gyfrifol am ddatblygu polisïau penodol i Gymru mewn meysydd allweddol o ddiddordeb i Gyfeillion y Ddaear (megis yr amgylchedd, datblygu economaidd, amaethyddiaeth a thrafnidiaeth). Ers 1999, mae'r sefydliad wedi bod yn effeithlon iawn o ran bwydo i mewn i brosesau llunio polisi datganoledig a dylanwadu arnynt yng Nghymru mewn sawl ffordd:
paratoi papurau polisi ar amrywiol faterion (megis ynni adnewyddadwy a newid yn yr hinsawdd)
cyflwyno adroddiadau a thystiolaeth i'r gwahanol bwyllgorau polisi yn y Cynulliad (er enghraifft, ar leihau carbon mewn trafnidiaeth)
cyflwyno polisïau drafft i'r Cynulliad i'w trafod (er enghraifft, roedd polisi a oedd yn cyfyngu ar blannu cnydau a addaswyd yn enetig yng Nghymru a dderbyniwyd yn 2000 yn seiliedig ar gynnig gwreiddiol a gyflwynwyd gan Gyfeillion y Ddaear)
ysgrifennu'n uniongyrchol at weinidogion perthnasol yn y llywodraeth, a chyfarfod â hwy, er mwyn cyflwyno eu dadl.
ysgogi cynghreiriau eang i ennyn cefnogaeth y cyhoedd i wahanol ymgyrchoedd (megis llythyr agored a lofnodwyd gan nifer fawr o unigolion blaenllaw ac ACau o bob plaid yn cefnogi polisi dim GM i Gymru)
comisiynu ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd hynod i ennyn cefnogaeth i faterion penodol (gweler Ffigur 20).
Gellid hefyd ddadlau bod y Cynulliad a Llywodraeth Cymru wedi gwneud anghydraddoldebau sy'n bodoli eisoes yn waeth drwy ddatblygu cysylltiadau allgynhwysol â rhai sefydliadau ac nid eraill. Er enghraifft, roedd rhai pobl yn tybio bod Cymdeithas yr Iaith - carfan bwyso dros y Gymraeg - yn rhy ddadleuol, ac felly'n annerbyniol fel partner mewn trafodaethau polisi;_ o ganlyniad, dim ond mynediad cyfyngedig iawn a gafodd y grŵp at y rhai allweddol a oedd yn gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru (Royles, 2007, t. 95, t. 149).
Ceir tystiolaeth hefyd o gysylltiadau cryfach rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau cymdeithas sifil sy'n cael arian gan y Llywodraeth; dangoswyd bod gan y sefydliadau hyn gysylltiadau cryfach â gweinidogion y Llywodraeth a gweision sifil (Royles, 2007). Mae cydberthnasau o'r fath wedi cael eu disgrifio'n neo-gorfforaethol gan Royles. Nid yw neo-gorfforaetholdeb yn dda i ddemocratiaeth, am sawl rheswm. Yn gyntaf, efallai na fydd grŵp sydd â chysylltiadau breintiedig â gwleidyddion yn gynrychioliadol o gymdeithas sifil ehangach. Yn ail, gall natur allgynhwysol y berthynas neo-gorfforaethol arwain at ragor o ymyleiddio ac allgau i grwpiau eraill mewn cymdeithas sifil. Mae grwpiau lleiafrifoedd ethnig wedi profi hyn, fel y dengys y datganiad gan AWEMA yn Narn 16 isod. Yn drydydd, mae'r ffaith nad yw sefydliadau breintiedig am beryglu eu perthynas â'r rhai mewn grym yn golygu y byddant yn ymatal rhag craffu ar weithredoedd y llywodraeth a chynrychiolwyr etholedig a'u beirniadu. Gall hyn fod yn arbennig o wir am sefydliadau neu rwydweithiau a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac nad ydynt am beryglu eu cyllid. Mae'r swyddogaeth graffu hon yn un o ofynion craidd democratiaeth sy'n gweithredu'n iawn.