8.2.3 Cyfleoedd newydd i gymdeithas sifil gyfranogi ar ôl 2006?
Felly hyd yma yn yr adran hon, mae'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth o gynwysoldeb mewn cysylltiadau rhwng cymdeithas sifil a Llywodraeth Cymru a ystyriwyd gennym yn canolbwyntio ar flynyddoedd cynnar datganoli. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, arweiniodd anfodlonrwydd ynglŷn â'r ffordd roedd datganoli yn gweithredu at ddeddf Llywodraeth Cymru newydd yn 2006; drwyddi, cafodd dull gweithredu'r Cynulliad ei addasu a chafodd ei bwerau i ddeddfu mewn meysydd polisi nweydd eu hymestyn (yn amodol ar gytundeb y ddau Dŷ yn San Steffan).
Drwy'r Ddeddf hon crëwyd cyfleoedd newydd i sefydliadau cymdeithas sifil ryngweithio â gwleidyddiaeth yng Nghymru, a dylanwadu arni, mewn dwy ffordd bwysig. Yn gyntaf, roedd y Ddeddf yn cynnwys darpariaeth i greu gweithdrefn ddeisebu newydd. Rhydd i aelodau'r cyhoedd yr hawl i ddeisebu'r Cynulliad – naill ai'n ysgrifenedig neu drwy ddefnyddio system e-ddeisebau ar-lein – a gofyn am i gamau gael eu cymryd yn y meysydd polisi hynny y mae'r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt. Y grŵp cyntaf i gyflwyno deiseb o'r fath oedd Sefydliad Aren Cymru; gofynnwyd i'r Cynulliad ariannu ymgyrch ynglŷn â rhoi organau ac ymchwiliad i gydsyniad tybiedig i roi organau. Llwyddodd y ddeiseb hon i sicrhau arian am ymgyrch ynglŷn â rhoi organau, ac ysgogwyd Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o weithdrefnau trawsblannu organau yng Nghymru. Mae hon yn enghraifft dda o'r ffordd y gall system ddeisebu newydd alluogi grŵp cymdeithas sifil i dynnu sylw at faterion penodol, ac ysgogi camau gweithredu gwleidyddol.
Yn ail, mae'r ffaith bod y Cynulliad wedi cael cyfle i ddeddfu yn creu cyfleoedd pellach i'r rhai mewn cymdeithas sifil i lobio cynrychiolwyr etholedig er mwyn deddfu mewn meysydd polisi gwahanol. Er enghraifft, mae'r Cynulliad wedi ystyried gofyn am bwerau newydd i ddeddfu mewn meysydd megis iechyd meddwl a hawliau gofalwyr. Mae'r rhain yn amlwg yn feysydd polisi lle mae lle i grwpiau cymdeithas sifil geisio dylanwadu ar natur a chwmpas y pwerau newydd a geisiwyd. Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd newydd hyn i ddylanwadu ar benderfyniadau, sefydlwyd mentrau newydd megis prosiect Lleisiau dros Newid Cymru. Mae wedi'i ariannu gan grant gan y Loteri Genedlaethol ac wedi'i noddi gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a'i nod yw ceisio helpu sefydliadau gwirfoddol i ddeall sut mae prosesau gwneud penderfyniadau yn gweithio yng Nghymru, datblygu sgiliau a hyder i ddylanwadu ar bolisïau a deddfwriaeth, a rhannu a dysgu am arfer gorau o ran meithrin cydberthnasau â Llywodraeth Cymru.
Ac eto, erys cyfyngiadau pwysig o hyd o ran cyflawni nod cynwysoldeb. Datgelodd arolwg o sefydliadau cymdeithas sifil gan Lleisiau dros Newid Cymru yn 2009, er bod consensws bod datganoli wedi gwella mynediad at y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru, fod y mwyafrif a holwyd yn nodi nad oes ganddynt wybodaeth drylwyr o hyd ynghylch sut i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus neu'n effeithlon. Er enghraifft, roedd llai na 50 y cant o sefydliadau yn ymwybodol o'r broses ddeisebu, gyda chanran debyg yn aneglur ynglŷn â sut i gyflwyno tystiolaeth i'r Cynulliad pan fydd cynigion ar gyfer pwerau deddfu newydd yn cael eu drafftio (Bradbury a Matheron, 2009). Felly mae tipyn o ffordd i fynd o hyd cyn bod partneriaeth wirioneddol gynhwysol rhwng cymdeithas sifil a Llywodraeth Cymru.