8.3 Casgliad
Er i Gymru gael ei llwyr ymgorffori yn Lloegr yn yr unfed ganrif ar bymtheg, o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen sefydlwyd cyrff gweinyddol newydd i lunio a gweithredu polisïau penodol i Gymru.
Arweiniodd y galw am system decach o gynrychiolaeth wleidyddol i Gymru at refferendwm aflwyddiannus ar ddatganoli yn 1979, ond gwelwyd twf yn yr anfodlonrwydd gyda dilysrwydd datganoli gweinyddol drwy gydol y 1980au a dechrau'r 1990au.
Arweiniodd refferendwm llwyddiannus ar ddatganoli yn 1997 at greu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru, gydag addewidion y byddai gwleidyddiaeth gynhwysol newydd yn datblygu yng Nghymru.
Mae datganoli wedi bod yn broses yn hytrach na digwyddiad. Felly, ers 1999 bu newidiadau pwysig yn y ffordd y mae'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn gweithio a'u pwerau; mae'r dadleuon hyn yn parhau.
Mae datganoli wedi cael rhai effeithiau democrataidd cadarnhaol yng Nghymru. Mae strwythurau newydd wedi cael eu creu i gael grwpiau a gafodd eu hymyleiddio gynt i fod yn rhan o'r broses wleidyddol. Cyfrannodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 at ddatblygu ymhellach gyfleoedd o'r fath i gymdeithas sifil gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
Mae grwpiau cymdeithas sifil hefyd wedi datblygu strategaethau lobïo newydd er mwyn dylanwadu ar brosesau gwneud polisi Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, mae i ddatganoli rai goblygiadau democrataidd negyddol o bosibl hefyd. Mae gan rai grwpiau cymdeithas sifil fwy o adnoddau, tra bod eraill wedi cael perthynas freintiedig â Llywodraeth Cymru.
Mae'r patrymau hyn o ryngweithio yn golygu bod risg y caiff allgau ac ymyleiddio eu hatgyfnerthu mewn cymdeithas sifil, gan beryglu natur gynhwysol gwleidyddiaeth yng Nghymru wedi datganoli, ac y caiff swyddogaeth graffu cymdeithas sifil ei thanseilio o ran Llywodraeth Cymru.
Er bod datganoli wedi arwain at wahaniaethau mewn polisi rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, canfyddir mai gwelliannau cyfyngedig iawn sydd wedi deillio o'r polisïau hyn mewn meysydd megis iechyd, addysg a safonau byw.
Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, mae datganoli fel cyfundrefn lywodraethu, yn cael mwy o gefnogaeth ymhlith pleidleiswyr Cymru.
Dylai unrhyw gyfundrefn ddilys o gynrychiolaeth wleidyddol geisio sicrhau bod lleisiau pob dinesydd - waeth beth fo'u hoedran, lliw eu croen, eu rhyw, eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hiaith - yn cael eu clywed yn yr un ffordd, a bod cynrychiolwyr etholedig sy'n gwneud penderfyniadau gwleidyddol ar ein rhan yn gwrando arnynt. Dylai cyfundrefn ddilys o gynrychiolaeth wleidyddol hefyd fod yn un sy'n arwain at benderfyniadau da sy'n cael effeithiau dymunol ar gymuned wleidyddol.
Ond fel y gwelsom yn yr uned hon, gall sicrhau cynrychiolaeth wleidyddol dda fod yn hynod anodd. Yng Nghymru, arweiniodd pryderon ynglŷn â'r ffaith bod lleisiau penodol yn cael eu hallgau o'r broses wleidyddol at alwadau am ddatganoli yn y 1960au a'r 1970au, ac unwaith eto, erbyn canol y 1990au. Roedd galwadau o'r fath hefyd yn seiliedig ar y canfyddiad bod anghenion a buddiannau pobl Cymru yn cael eu hanwybyddu i raddau helaeth gan lywodraethau olynol yn Llundain. Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, cyfiawnhawyd cynlluniau datganoli Llafur Newydd ar y sail y byddent yn cyflwyno math gynhwysol newydd o wleidyddiaeth yn lle allgau gwleidyddol, lle y byddai unigolion a grwpiau a gafodd eu hymyleiddio yn y gorffennol yn cael cyfleoedd newydd i gymryd rhan yn y broses wleidyddol yng Nghymru a'u llywio. Drwy greu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 rhoddwyd fframwaith i greu gwleidyddiaeth gynhwysol o'r fath, ac i sefydlu cyfundrefn o lywodraethu da.
Rydym wedi ystyried y graddau y mae datganoli wedi llwyddo i gyflawni'r nod hwn. Ar yr un llaw, mae camau cadarnhaol gan bleidiau gwleidyddol Cymru yn golygu bod Cymru yn arwain y byd o ran cynrychiolaeth menywod. Mae'r Cynulliad hefyd wedi cymryd ei ymrwymiad i 'gyfle cyfartal' o ddifrif ac wedi creu strwythurau newydd i'w gwneud yn haws i sefydliadau cymdeithas sifil gyfrannu at drafodaethau ynglŷn â pholisïau a deddfwriaeth. Mae sefydliadau cymdeithas sifil wedi ymateb i'r cyfleoedd newydd hyn drwy ddatblygu strategaethau newydd i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru ac Aelodau'r Cynulliad.
Ar y llaw arall, mae llai wedi cael ei wneud i sicrhau bod grwpiau lleiafrifoedd eraill yn cael eu cynrychioli yn y Cynulliad ac nid yw system etholiadol rannol gyfrannol wedi arwain at sbectrwm ehangach o grwpiau gwleidyddol yn cael eu hethol. Yn hyn o beth, mae datganoli wedi methu â chreu system o gynrychiolaeth ddisgrifiadol o bell ffordd. Mae ymwneud cymdeithas sifil mewn prosesau gwneud polisi wedi datganoli hefyd wedi bod yn anghyfartal; mae grwpiau â llai o adnoddau wedi ei chael hi'n anodd bod yn lobïwyr effeithiol dros bolisïau, tra bod y rhai sy'n llunio polisïau yng Nghymru hefyd wedi bod yn barotach i wrando ar rai grwpiau nag eraill. Mae'r broses o lunio polisïau yng Nghymru yn dal i fod yn hynod gymhleth hefyd.
Rydym hefyd wedi ystyried dilysrwydd y setliad datganoli o safbwynt dilysrwydd allbynnau. Unwaith eto, cymysg yw'r darlun. Er bod polisïau yng Nghymru wedi bod yn wahanol i rannau eraill o'r DU mewn ffyrdd arwyddocaol o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan y Cynulliad, ceir canfyddiad cyffredino nad yw'r polisïau hyn wedi cael effaith fawr ar economi na chymdeithas Cymru. Er nad yw'r hyn y mae'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn gwneud argraff fawr ar bleidleiswyr yng Nghymru, eto i gyd maent yn cefnogi datganoli fel trefn lywodraethu well i Gymru.
Gallai'r arsylwadau hyn beri i rai ddod i'r casgliad nad yw datganoli wedi arwain at system well o gynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru. Gallent ddadlau, er mwyn ategu'r safbwynt hwn, fod y Cynulliad wedi methu â chreu gwleidyddiaeth wirioneddol gynhwysol ac wedi methu â gwella lles economaidd a chymdeithasol pleidleiswyr yng Nghymru. Byddai fy nghasgliadau fy hun yn llai negyddol. Fel datganoli, mae'r dasg o sicrhau cyfundrefn well a mwy dilys o gynrychioliaeth wleidyddol ehangach yn broses yn hytrach na digwyddiad. Mae camau pwysig eisoes wedi cael eu cymryd i ehangu a dwysau cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru, er bod datganoli hefyd wedi cael ei dderbyn bellach fel y mynegiad gwleidyddol priodol o'r ffordd y mae pobl yng Nghymru yn dymuno cael eu llywodraethu. Mae gwaith i'w wneud o hyd er mwyn ychwanegu at gynwysoldeb ac effaith polisïau 'a wnaed yng Nghymru' Llywodraeth Cymru. Ond mae datganoli wedi rhoi Cymru ar ben ffordd tuag at sicrhau cyfundrefn fwy dilys o gynrychiolaeth wleidyddol.