Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

9.1.1 Cymru a'r Oscars

O ran sinema yn Gymraeg, efallai nad yw mor hysbys ag y dylai fod bod dwy ffilm yn Gymraeg wedi cael ei henwebu am Wobrau'r Academi yn y categori Ffilm Iaith Dramor Orau yn ystod y 1990au, sef: Hedd Wyn (cyf. Paul Turner, 1992) a Solomon a Gaenor (cyf. Paul Morrison, 1998). I ryw raddau mae'r ffaith i'r ddwy ffilm gael y sylw byd-eang sy'n gysylltiedig ag enwebiad 'Oscar' yn eiliad arwyddocaol o ran portreadu Cymru yn rhyngwladol. Fe wnaeth nid yn unig dynnu sylw at fodolaeth diwylliant ffilm pwysig ac unigryw yng Nghymru, ond at y Gymraeg nid yn unig fel iaith fyw, ond un a oedd yn ffynnu ac yn cael ei defnyddio mewn ffurfiau celfyddydol cyfoes.

Gwnaeth y ddwy ffilm ddefnyddio iaith a'i potensial i rannu fel rhan o'u testun hefyd. Yn Hedd Wyn, caiff y prif gymeriad, y bardd Elis Evans (Huw Garmon) ei orfodi i ymuno â'r fyddin Brydeinig er mwyn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod ei hyfforddiant sylfaenol, mae defnydd Evans o'r Gymraeg yn destun dirmyg a gwawd gan swyddogion a rhyngellod o Saeson, rhywbeth y mae'r ffilm yn ei ddefnyddio'n eironig iawn wrth i'r bardd ifanc farw tra'n gwasanaethu'r Ymerodraeth Brydeinig ar grib Pilken yng Ngwlad Belg yn 1918. Mae defnydd o iaith yn Solomon a Gaenor hyd yn oed yn fwy cymhleth, yn enwedig gan i ddau fersiwn 'cefn wrth gefn' gael eu gwneud - un yn Saesneg yn bennaf, un yn Gymraeg yn bennaf, a cheir mwy o gymhlethdod eto oherwydd y defnydd o Iddeweg yn y ddau fersiwn gan fod y ffilm wedi'i lleoli ar adeg o gythrwfl sifil yng nghymoedd y de a oedd yn gysylltiedig â gwrth-Iddewiaeth. Mae'r ffilm wedi taro tant nid yn unig i Gymru ddwyieithog, ond i DU sy'n ymgodymu â'r nifer fawr o hunaniaethau ethnig ac ieithoedd yn ei phoblogaeth.

Gellir dadlau bryd hynny bod y ddwy ffilm hyn wedi cyfrannu at y ffordd roedd Cymru a'r Gymraeg yn cael eu gweld yn rhyngwladol, ond roedd eu dosbarthiad cymharol gyfyngedig yn y DU wedi cyfyngu ar yr effaith hon.