Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

9.2.1 Adfywiad dramâu S4C

Mae Sianel Pedwar Cymru (S4C), y sianel deledu a sefydlwyd yng Nghymru yn 1982 i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg wedi comsiynu sawl cyfres ddrama yn ystod y degawd diwethaf, sydd, o leiaf, wedi ehangu'r ffordd y mae drama yn portreadu bywyd lle mai'r Gymraeg yw'r brif iaith.

Ymhlith y cynyrchiadau drama amlycaf ar S4C sydd wedi trawsnewid canfyddiad pobl o ddelwedd y sianel mae: Fondue, Sex a Dinosaurs (2002–3), Caerdydd (2004), Con Passionate (2005–8) ac Y Pris (2008–9). Er eu bod yn wahanol iawn i'w gilydd, y thema gyffredinol a welir yn y rhain a nifer o gyfresi eraill yw'r ymdeimlad o Gymru sydd newydd fagu hyder a Chymru ifanc yn bennaf.

I'r gwrthwyneb, roedd un o ddramâu mwyaf llwyddiannus S4C yn ystod y cyfnod hwn – Con Passionate– yn defnyddio syniad canolog sydd wedi bod yn gysylltiedig â Chymru yn aml yn y gorffennol ac sydd wedi newid o ran arwyddocâd wrth bortreadu'r Gymru sydd ohoni, Mae cyfweliad ag awdur y rhaglen yn awgrymu hyn pan ddywed ‘I was eager to take an iconic image of Wales, such as a male voice choir and use it as a backdrop to say something about contemporary Wales’ (Con Passionate, 2009).

Er eu bod yn llai dyfeisgar yn ffurfiol na Con Passionate, mae'r bedair cyfres o Caerdydd wedi dangos y ffordd y mae prifddinas Cymru wedi newid ac wedi dod yn gartref i ddosbarth o bobl ifanc sy'n byw mewn fflatiau ac sydd â ffordd o fyw sy'n gysylltiedig â diwylliant dinesig cynyddol Ewrop. Er nad yw'r rhaglen wedi bod at ddant pawb, o ran portreadu Cymry Cymraeg, mae'n newid sylfaenol gweld drama hirhoedlog wedi'i lleoli ymhlith fflatiau, bariau a chlybiau nos Caerdydd yn hytrach nag yng nghefn gwlad.

Mae Y Pris, a elwid ‘The Sopranos by the seaside’ i ryw raddau yn stori gyfarwydd am deulu o droseddwyr, ond y peth annisgwyl yw ei bod wedi'i lleoli yn sir Gâr. Fel y gyfres arall a drafodir yma, mae ei defnydd o'r Gymraeg o fewn strwythur ffuglennol hynod gyfoes yn cyfrannu at ehangu'r ffordd y mae'r dimenswm hwn ar fywyd cyfoes yng Nghymru yn cael ei ailddychmyngu.

Mae'r hyn sydd gan y dramâu hyn gan y S4C i'w ddweud yn unigol yn llai arwyddocaol o bosibl na'r ffaith eu bod yn arwydd o allu i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau drama hynod gyfoes. Maent, yn eu tro, yn portreadu Cymru fel gwlad ddwyieithog gyda llawer o hunaniaethau gwahanol yn hytrach na'r syniad hen ffasiwn mai i ardaloedd gwledig y gogledd a'r gorllewin y perthyn y Gymraeg.

Os mai Pobol y Cwm yw cyfres ddrama fwyaf hirhoedlog S4C o hyd (a ddechreuodd yn 1974), sef drama BBC Cymru i S4C am fywyd pentref gwledig, gall y sianel honni'n eithaf sicr erbyn hyn ei bod wedi comisynu amrywiaeth o waith sy'n awgrymu nad yw'r Gymraeg yn cael ei chyfyngu i'w hen gadarnleoedd mwyach.