9.2.2 Dr Who a Torchwood – BBC Cymru a llwyddiant ar y rhwydwaith
Yn 2004, cafodd un o raglenni blaenllaw'r BBC, Dr Who, ei hadfywio. Yn bwysicach na hynny, at ein dibenion ni, penderfynwyd mai BBC Cymru yng Nghaerdydd fyddai'n gyfrifol am gynhyrchu'r gyfres. Roedd yn rhan o benderfyniad cyffredinol y BBC i wario mwy o'i gyllideb gomisynu yng 'ngwledydd a rhanbarthau' y DU. Yn yr adran hon byddwn yn ystyried arwyddocâd y ffordd y mae Cymru yn cael ei phortreadu mewn dwy gyfres ffugwyddonol, Dr Who a Torchwood, sy'n defnyddio lleoliadau yng Nghymru yn bennaf.
Mae'r dyfyniad canlynol gan gyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Mark Thompson mewn cyfweliad yn y Western Mail yn fan cychwyn defnyddiol: ‘We wondered whether Wales could be portrayed as modern and forward looking and Torchwood is the answer. It’s obviously Welsh and it’s sexy, modern and fantastic’ (Price, 2007).
Er bod Thompson ond yn sôn am un rhaglen, mae ei sylwadau yn amlwg yn arwyddcaol o ran holl gwestiwn y ffordd y caiff Cymru ei phortreadu, yn enweid yn yr ystyr fyd-eang. Ymddengys mai safbwynt Thompson ar y dechrau oedd nad yw Cymru yn wlad sy'n gysylltiedig â natur fodern, yn enwedig o natur sy'n gwerthu rhaglenni teledu 'sexy'. Iddo ef, o leiaf, mae'r ffaith bod Dr Who a Torchwood yn benodol wedi bod yn llwyddiannus wedi newid hynny.
Ond os caiff sylwadau didaro o'r fath eu hystyried yn dystiolaeth wan, mae'n werth nodi yma, ar adeg ysgrifennu, mai Caerdydd yw safle arfaethedig 'pentref drama' y BBC fel canolfan ar gyfer cryn dipyn o gynyrchiadau drama rhwydwaith y BBC. Mae'r BBC eisoes wedi symud un arall o'i brif gyfresi, y gyfres feddygol hirhoedlog Casualty, i Gaerdydd yn ogystal â chomisiynu rhagor o Dr Who, Torchwood a nifer o brosiectau drama newydd sy'n cael eu datblygu.
Wrth gwrs, nid yw pawb yng Nghymru yn argyhoeddedig. Er mor broffil uchel yw Dr Who a Torchwood wrth reswm, mae'n anochel mai dim ond rhai agweddau ar fywyd Cymru y maent yn eu portreadu, sy'n golygu bod eraill yn cael eu hanwybyddu. Gellid hefyd ddadlau, er bod y rhaglenni'n cael eu gwneud yng Nghymru, nad ydynt yn portreadu bywyd Cymru na lledaenu ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig i gynulleidfa ehangach.
Ar y llaw arall, fel yr aeth astudiaeth ddiweddar (Mills, 2008) ati i ymchwilio, drwy wneud rhaglen broffil uchel mewn lleoliad penodol gellir cyfrannu at ymdemlad o hunaniaeth sy'n datblygu mewn ffyrdd eraill. Ystyrir y pleser a deimlwn o weld y man lle rydym yn byw yn cael ei ddangos ar y teledu yn erthygl Brett Mills ‘My house was on Torchwood: media, place and identity’. Mae ymdeimlad, er mor fach, fod arwyddocad a gwerth yn cael ei roi i'r bywyd lle rydych yn byw mewn byd sy'n cael ei ddominydu gan ddelweddau ar gyfryngau. Yna, gyda pheth amheuaeth, gallwn weld bod llwyddiant proffil uchel diweddar mewn cyfresi drama teledu wedi cynyddu proffil Cymru, yn enwedig Caerdydd. Wrth wneud hynny, mae wedi newid yr amrywiaeth o ffyrdd y gellir ystyried Cymru o fewn ffiniau'r wlad a thu hwnt i'r wlad.