1.1.2 Gwaith
Gellir ystyried bod llanw a thrai rygbi Cymru yn adlewyrchu cyflwr economi Cymru. Cyrhaeddodd rygbi ar yr un pryd â'r diwydiannu cyflym a'r mewnfudo a ddigwyddodd yn y de yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd rheolau a natur gystadleuol ond reoledig rygbi yn gyson ag anghenion a diddordebau'r gymdeithas ddiwydiannol: ystyriwyd bod rygbi yn weithgaredd llesol ac yn ddewis arall i'r neuadd gwrw a'r palas jin ac yn ffordd o amddiffyn aelodau'r dosbarth gweithiol rhag gormodedd eu diwylliant eu hunain (Smith a Williams, 1980). Mwynhaodd rygbi Cymru ei oes aur cyntaf yn ystod degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif, pan roedd economi'r de ar ei anterth. Gwelwyd dirywiad mawr rhwng y rhyfeloedd pan gollodd Cymru tua hanner miliwn o'i phoblogaeth. Chwalodd llawer o dimau rygbi yn ystod dirwasgiad economaidd y 1930au ac aeth llawer o chwarewyr, gan gynnwys pac Pont-y-pŵl bron i gyd, i weithio i glybiau rygbi'r gynghrair yng ngogledd Lloegr (Morgan, 1980, t. 230). Digwyddodd ail oes aur rygbi Cymru, sef y 1970au, pan roedd economi Cymru'n cael ei moderneiddio a phan roedd diwydiannau newydd yn ymsefydlu. Roedd y chwaraewyr tua'r adeg hon yn athrawon (yn enwedig yn nhîm Cymry Llundain), dynion busnes, cynghorwyr ariannol, ymgynghorwyr diwydiannol, perchenogion siopau chwarae a gwerthwyr (Smith a Williams, 1980). Er nad oeddent yn lowyr nac yn weithwyr dur eu hunain mwyach, roedd llawer ohonynt, gan gynnwys Barry John a Gareth Edwards, yn feibion i lowyr. Y gred gyffredin yw i rygbi yng Nghymru ddirywio yn y 1980 am iddo golli ei wreiddiau, gan fod y rhain wedi'u plannu mewn economi a oedd yn rhoi pwyslais ar waith trwm. Wrth i ddiwydiant trwm ddirywio, nid oedd y syniadau mwy traddodiadol am wrywdod mor bwysig.
Yn ogystal ag adlewyrchu newidiadau yn yr economi a dod o dan ddylanwad y newidiadau hynny, mae rygbi ei hun yn faes gwaith. Er ei bod yn gêm amatur yn ôl pob golwg nes 1995, roedd mathau o ffug amaturiaeth [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i'w gweld cyn dechrau'r ugeinfed ganrif, gan ddyddio'n ôl cyn 1897 pan brynodd y chwaraewr enwog Arthur J. Gould dŷ ar ei ben ei hun yng Nghasnewydd - rhywbeth dadleuol iawn ar y pryd. Ar ôl hynny, cefnogwyd y gêm gan 'boot money' a mathau eraill o ffug amaturiaeth er mwyn cadw diddordeb chwaraewyr a'u hannog i beidio ag ymuno â chlybiau rygbi'r gynghrair yn Lloegr, oherwydd ar ôl gwneud hynny ni fyddai hawl gan y chwaraewyr chwarae rygbi amatur yng Nghymru nac i Gymru. Am 100 mlynedd, defnyddiwyd arian o'r 'maes parcio' a swyddi segur (swyddi â thâl lle nad oes yn rhaid gwneud llawer o waith) yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i dalu'r chwaraewyr a hynny o dan drwyn Cyllid y Wlad a oedd yn ymddangos fel pe bai'n anwybyddu'r peth.
Ochr yn ochr â hyn, cafodd y gêm ei masnacheiddio fwyfwy, gan ddenu mwy o arian. Gwnaed hyn drwy farchnata (cylchgronau, memorobilia, darlledu) a nawdd (wrth i frandiau geisio llunio cysylltiadau â'r gêm a'r enwogion), a arweiniodd at droi'r gêm yn broffesiynol yn 1995. Disgrifiodd Shane Williams ei syndod (er ei fod yn ddigon cyffredin) ar ôl cael cynnig car chwaraeon heb do gan Toyota, a fyddai'n cael ei uwchraddio bob chwe mis (Williams a Parfitt, 2008). Mae proffesiynoldeb a masnacheiddio yn newid ystyr y gêm mewn rhaid ffyrdd a hefyd ffordd o fyw'r chwaraewyr.
Fel rhan o'r trawsnewidiad hwn, gwaith yw rygbi i'r sêr nawr, nid dim ond rhywbeth i'w wneud er mwyn balchder lleol neu genedlaethol. Yn amlwg, mae'r balchder o gynrychioli Cymru yn parhau i fod yn hollbwysig, ond mae'r gwobrau a'r ffordd o fyw sy'n gysylltiedig â'r gêm ar y lefel hon wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth. Er enghraifft, mae Shane Williams yn dweud ei fod yn berchen ar blotiau o dir a deg eiddo (Williams a Parfitt, 2008). Mae'r gwaith, wrth gwrs, yn wahanol iawn i'r hyn a arferai fod: mae'n waith anodd a llafurus am chwe diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor, gyda mwy o ffocws yn cael ei roi ar ffitrwydd a maeth, a chaiff cytundebau eu negodi ynglŷn â faint o gemau y dylai chwaraewr eu chwarae pob tymor a'r cyfnod o seibiant a gânt dros yr haf. Mae disgyblaeth yn llym ac mae'r cyflogwyr yn disgwyl i'r chwaraewyr gyflwyno eu hunain mewn ffyrdd penodol a siarad yn gyhoeddus ac i'r wasg. Felly, mae proffesiynoldeb nid yn unig wedi newid trefniadaeth y gêm a thâl y chwaraewyr, ond mae hefyd wedi newid gwaith y chwaraewr, sy'n llawer mwy disgybledig ac yn golygu mwy na'r ffordd y mae'n ymddwyn ar y cae.