1.1.3 Rhywedd a 'hil'
Delweddau gwrywaidd fu'r delweddau poblogaidd o Gymru a Chymreictod yn bennaf (heblaw am y 'Fam' Gymreig, sy'n cynrychioli mamolaeth a magu plant) (gweler Beddoe, 2000) - gan adlewyrchu tadolaeth yn gyffredinol ond, yn fwy penodol i Gymru, natur cyflogaeth, (dynion yn y diwydiannau glo a dur), gwleidyddiaeth a rygbi. Ers iddi ddatblygu ar ddiwedd oes Fictoria, mae hunaniaeth genedlaethol Cymru wedi bod yn wrywaidd iawn ac mewn sawl ffordd, mae chwaraeon yn gyffredinol yn parhau i fod yn rhyw fath o 'last bastion' ar gyfer gwerthoedd gwrywaidd traddodiadol (Messner, 1987). Yng Nghymru, mae rygbi yn cynrychioli rhyw fath o fersiwn eithafol o'r gwerthoedd hyn, o gofio'r math o wrywdod sydd wrth wraidd rygbi (y cryfder a'r ffyrnigrwydd sydd eu hangen) a phwysigrwydd y gamp i'r genedl.
Ar ôl cael eu heithrio o'r gamp genedlaethol nes yn gymharol ddiweddar, ni welwyd llawer o ferched mewn portreadau chwaraeon o'r wlad - sydd mor bwysig er mwyn diffinio natur y genedl (Andrews, 1996). Mae rygbi yn enghraifft eithaf eithafol o hyn, gan ei fod wedi'i wreiddio mewn math unigryw iawn o wrywdod, lle mae cadernid yn hollbwysig ac yn werthfawr iawn. Law yn llaw â'r gwrywdod hwn, ceir diwylliant yfed gwrywaidd dwfn. Mae hunangofiannau chwaraewyr cenedlaethol Cymru, hyd yn oed yn yr oes broffesiynol, yn portreadu diwylliant o gemau yfed, yfed drwy'r nos, chwydu ar fysys, cael eu cario gartref a meddwi'n dwll (Henson, 2005 a; Williams a Parfitt, 2008).
I ryw raddau, mae gwrywdod rygbi (fel gwrywdod yn fwy cyffredinol) wedi newid ac yn parhau i newid. Mor hwyr â chanol y 1990au, dim ond dynion allai fynd i far y chwaraewyr ym Mharc yr Arfau, yr hen stadiwm genedlaethol, a'r unig ferch yn y bar oedd y weinyddes; roedd bar ar wahân i'r gwragedd a'r cariadon (gohebiaeth bersonol, Eric Bowers, 22 Hydref 2009). Yn y 1970 au, roedd merched yn cefnogi rygbi drwy ddarparu'r te ar ôl y gêm, ond nid oeddent yn mynd i wylio gemau rhyw lawer. Mae newidiadau cymdeithasol ehangach - fel mwy o ferched yn gweithio ac yn fwy annibynnol - wedi golygu bod mwy o ferched yn mynd i gemau rygbi. Mae hyn yn cyd-daro â thwf y diwylliant sy'n rhoi pwyslais ar bobl enwog.
Yn ogystal â dod yn fwy amlwg fel cefnogwyr, mae merched bellach yn cymryd mwy o ran fel chwaraewyr. Mae merched wedi chwarae rygbi yng Nghymru ers y 1970 au, er mai dim ond yn 1994 y cafodd Undeb Rygbi Merched Cymru ei dderbyn i URC, dechreuodd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i ferched yn 2003 a dim ond yn 2007 y cafodd rygbi i ferched ei integreiddio'n llawn yn URC. Erbyn hyn, rygbi merched yw un o'r elfennau o'r gêm sy'n tyfu gyflymaf, ond mae gor-wrywdod rygbi yn golygu ei bod yn anodd iawn bod yn 'fenywaidd'; felly, mae proffil y gêm yn isel iawn ac nid yw'r cyfryngau yn rhoi fawr ddim sylw i rygbi merched. Mae merched, felly, yn parhau i fod ar yr ymylon yma fel ag y maent mewn agweddau eraill ar fywyd yng Nghymru.
Ar yr un pryd, mae mathau newydd o wrywdod a benyweidd-dra yn datblygu. Un agwedd ar hyn yw diwylliant y 'laddette' (smygu, yfed, rhegi ac ymladd). Ac mae Henson yn cynrychioli elfen arall o'r newidiadau hyn. Dywed, ‘It takes two hours to get ready – hot bath, shave my legs and face, moisturise, put fake tan on and do my hair – which takes a bit of time’ (Henson, 2005b). Er ei fod yn eithriad, mae Henson yn herio'r delweddau gor-wrywaidd o chwaraewyr. Datgelodd Gareth Thomas, y chwaraewr â'r nifer fwyaf o gapiau dros Gymru (100 o gapiau) a chyn-gapten Cymru a'r Llewod, ei fod yn hoyw ym mis Rhagfyr 2009. Ef yw'r unig chwaraewr rygbi enwog i ddatgelu ei fod yn hoyw o hyd, sy'n eithaf rhyfeddol o gofio gwrywdod y diwylliant rygbi. Fel y dywedodd Thomas:
‘It is the toughest, most macho of male sports ... In many ways, it’s barbaric ... It’s pretty tough for me being the only international rugby player prepared to break the taboo ... I’m not aware of any other gay player in the game’.
Nid oes llawer o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i'w gweld ledled Cymru, heblaw am ardaloedd fel Caerdydd a Butetown yn enwedig, sydd hefyd yn cael ei alw'n ardal y dociau, y bae neu Borth Teigr. O'r ardal hon y daeth un o chwaraewyr rygbi du enwocaf Cymru. Dechreuodd Billy Boston ei yrfa yn chwarae i Glwb Athletau Rhyngwladol Caerdydd (CIACs), cyn mynd ymlaen i chwarae rygbi'r gynghrair yn Wigan yn y 1950au a'r 1960au. Yn fwy diweddar, gwelwyd rhai chwaraewyr du enwog eraill o Gymru, yn arbennig Glen Webbe, Nigel Walker a Colin Charvis.
Mae CIACs wedi bod yn dîm amlddiwylliannol yng ngwir ystyr y gair. Ffurfiwyd y clwb yn 1946 gan filwyr du a oedd yn dychwelyd o'r rhyfel, ar y sail eu bod yn credu'n gryf mewn cymdeithas amlhiliol a goddefgarwch crefyddol, sy'n cynnwys pob 'hil' a chrefydd ac sy'n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth leol. Mae bathodyn CIAC yn dangos dwylo gwyn a du yn plethu i'w gilydd ac arwyddair y clwb yw Unus et idem, 'Yr un bobl yn union'. ‘The name Cardiff Internationals came up because there were so many different nationalities. But sometimes the opposition thought we were actually international players from the Cardiff City team’ (CIACs, 2009). Roedd aelodau CIAC ymhlith trigolion Butetown a oedd yn weithgar yn y mudiad gwrth-apartheid yng Nghaerdydd o ddiwedd y 1960au. Gwnaethant ymuno ag un o'r protestiadau gwrth-apartheid cyntaf, gan gario baner yn dangos llaw ddu ar bêl rygbi ar y llinell gais gyda'r slogan 'Don't deny their right to try'.
Aelodau CIACs oedd yr unig chwaraewyr rygbi bron i wrthwynebu apartheid yn gyhoeddus nes yr ychydig flynyddoedd cyn diwedd apartheid, pan roedd bron pawb yn ei wrthwynebu. (Roedd John Taylor, chwaraewr i Gymry Llundain, ymhlith yr ychydig chwaraewyr eraill i wrthwynebu apartheid.) Drwy gydol y 1970au a'r 1980au, roedd URC yn eithaf bodlon i chwarae timau o Dde Affrica yn rheolaidd, er gwaethaf protestiadau myfyrwyr, eglwysi ac undebau llafur, ac er i Dde Affrica gael ei wahardd o'r mudiad Olympaidd a dod o dan waharddiad ledled y Gymanwlad ar gysylltiadau diwylliannol a chysylltiadau chwaraeon. Gan arddel ei gred nad oes lle i wleidyddiaeth mewn chwaraeon, roedd URC a'i chwaraewyr ymhlith y cyrff mwyaf dylanwadol i ychwanegu hygrededd at y drefn apartheid a oedd yn cael ei hynysu fwyfwy, yn gwbl groes i wleidyddiaeth CIACs.
Yn fwy diweddar, bu rhai honiadau o hiliaeth yn y byd rygbi yng Nghymru, er enghraifft, gan y dorf yn erbyn Colin Charvis ac Aled Brew mewn gêm oddi cartref yn erbyn Ulster yn 2007, a honnwyd bod un o chwaraewyr Munster yng Nghwpan Rygbi Ewrop yn 2005 wedi galw canolwr y Gweilch, Elvis Seveali o Samoa, yn ‘f*cking black c*nt’. Er na chafodd yr honiad ei gadarnhau, dywedodd Henson:
‘Racist remarks do fly around, it does go on. You hear it in some games. You even get it during training sessions’
Mae hyn yn chwalu'r myth nad yw hiliaeth yn broblem yng Nghymru. Wedi dweud hynny, mae URC yn cydnabod y broblem.
Yn 2013, ymunodd Show Racism the Red Card (SRtRC) ag Undeb Rygbi Cymru i lunio poster tîm gwrth-hiliaeth, a lansiwyd yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae'n debyg i Jason Webber, Gweithiwr Ymgyrchu SRtRC, ddweud:
“The regional rugby clubs already back the campaign and we believed that through the power of rugby we can really tackle racism in society.”