1.1.4 Dosbarth
Yng Nghymru, mae rygbi'n cael ei drafod, ei hyrwyddo a'i ddeall yn aml fel gêm ddi-ddosbarth, yn wahanol i Loegr lle mae'n gysylltiedig ag ysgolion bonedd. Efallai nad yw'r realiti mor glir: yng Nghymru, tyfodd rygbi o gynghrair rhwng y dosbarthiadau gweithiol a'r elite.
Mae rygbi yng Nghymru yn tarddu o ysgolion bonedd Lloegr oherwydd cafodd ei drosglwyddo o'r ysgolion hynny yn y 1850au i Goleg Llanymddyfri, Coleg Crist, Aberhonddu ac Ysgol Trefynwy (Smith a Williams, 1980). Cafodd clybiau rygbi'r de eu sefydlu'n bennaf gan gyn-ddisgyblion o'r ysgolion hyn, a oedd yn perthyn i'r dosbarth cynyddol o gyfreithwyr, meddygon, clerciaid a pheirianwyr. Cafodd y gamp ei harwain, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar, gan bobl o ysgolion bonedd yn bennaf.
Ac mae llawer o chwaraewyr enwog wedi dod o ysgolion bonedd. Yn 1935, roedd holl gefnwyr Cymru yn erbyn Crysau Duon Seland Newydd wedi mynd i'r brifysgol, llawer ohonynt ar ôl mynd i ysgolion bonedd Llanymddyfri neu Rydal (Morgan, 1980).
Er bod gan y gamp gefndir Seisnig ac elitaidd, mae rygbi yng Nghymru wedi bod yn ffordd o ddwyn y dosbarthiadau cymdeithasol ynghyd. Mae David Smith a Gareth Williams yn cyfeirio at sut y cafodd yr anwiredd bonheddig bod unrhyw dor-rheol yn anfwriadol, a'i bod yn anghwrtais tybio fel arall, ei ddisodli gan ddyfarnwyr; sut y bu'n rhaid cyflwyno cosbau a chiciau rhydd am gamchwarae, rhwystro a chamsefyll; a sut y cafodd geirfa'r ysgolion bonedd fel collaring, sneaking, rouges a squashes ei disodli gan y termau tackling, offside, touch-downs a scrums (Smith a Williams, 1980). Ac yn hanesyddol, mae Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw i wrthwynebu statws amatur y gêm, gan ddadlau bod yn rhaid iddi fod yn agored i bawb, nid dim ond y rhai nad oedd angen iddynt boeni am ennill bywoliaeth.
Felly mae'r gêm wedi'i thrawsnewid a'i hailwampio gan ei bod wedi dod yn gêm Gymreig ac yn symbol o Gymru a'i chymdeithas ddi-ddosbarth. Y myth (ac mae llawer o wirionedd iddi) yw bod rygbi yng Nghymru yn rhyw fath o ddemocratiaeth, lle mae'r meddyg yn sgrymio ochr yn ochr â'r glöwr. Ac yn wir, mae hyn wedi digwydd ar sawl achlysur, er enghraifft gyda'r meddygon Teddy Morgan yn y tîm a gurodd y Crysau Duon yn 1905 a J. P. R. Williams, un o sêr y 1970au.
Fodd bynnag, mae pwy sy'n mynd i wylio gemau rhyngwladol wedi newid rhywfaint. Mae Caerdydd ar ddiwrnodau gemau rhyngwladol yn fwy ar gyfer pobl gefnog, y crachach [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , y Taffia, neu'r sefydliad, nag yr oedd. Mae llai o bobl gyffredin, dosbarth gweithiol i'w gweld. Mae hyn yn cyd-fynd â'r ffordd y mae Caerdydd a'r ddelwedd ohoni yn cael eu datblygu a'u hyrwyddo ar hyd trywydd mwy dosbarth canol. Mae'r prisiau uwch am docynnau ar gyfer gemau rhyngwladol yn golygu nad yw rhannau tlotach y gymuned mor amlwg; ac mae twf lletygarwch corfforaethol wedi arwain at leihad yn nifer y cefnogwyr cyffredin. Fel tocynnau debentur, mae nawdd a lletygarwch corfforaethol wedi cymryd lle llawer o'r tocynnau sy'n cael eu dosbarthu drwy'r clybiau. Am eu bod yn ddrutach, mae llai o docynnau yn mynd i werin y gêm. Caiff y rhan fwyaf o docynnau'r clybiau rygbi eu gwerthu ar y farchnad agored neu'u defnyddio i ddenu nawdd, sy'n golygu mai nifer gymharol fach sy'n cael eu gwerthu i aelodau'r clybiau am bris cost. Mae URC yn dyrannu 120 o docynnau i glwb nodweddiadol yn y gogledd. Mae'r clwb yn rhoi ugain tocyn i aelodau sy'n cael eu dewis ar hap, ac mae'n gwerthu'r gweddill fel nawdd (gohebiaeth bersonol, URC, 16 Hydref 2009). Felly, mae natur y dorf wedi newid, gyda'r dosbarthiadau gweithiol yn cael eu gwthio i'r ymylon braidd.
Fodd bynnag, mae ystyr y term 'dosbarth gweithiol' wedi newid yn sylweddol, gyda'r dirywiad yn y diwylliant a'r economi glo a dur a thwf y gymdeithas defnyddwyr. Mae car chwaraeon a statws seren Gavin Henson yn wahanol iawn i'r gêm yn yr oes amatur, pan roedd dosbarth yng Nghymru yn rhywbeth llawer mwy syml rywffordd.