2.1 Rhanbarthau Cymru
2.1.1 Un Gymru neu fwy?
Dywedir mai eu hymlyniad at le a'u hymdeimlad cryf o berthyn i'r ardal leol yw un o nodweddion unigryw pobl Cymru. Y rheswm am hyn yw er bod Cymru yn fach ac yn glos, mae wedi datblygu mewn ffyrdd sy'n meithrin amrywiaeth a nodweddion unigryw. Mae ganddi boblogaeth o bron 3 miliwn ac mae cyfran fawr ohoni yn parhau i fyw mewn trefi bach a phentrefi. Mae wedi'i rhannu a'i gwahanu yn ddaearyddol, gan fryniau a mynyddoedd sydd hyd yn oed heddiw yn ei gwneud hi'n anodd cyfathrebu â phob rhan o'r wlad, a chan ddatblygiadau hanesyddol a greodd raniadau dwfn rhwng y Gymru wledig a'r Gymru ddiwydiannol, a rhwng y rhannau Cymraeg o Gymru a'r rhannau mwy Seisnigaidd. Er bod globaleiddio [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ac integreiddio yn golygu bod y gwahaniaethau hyn yn lleihau, maent yn gadael syniadau a meddyliau sy'n ein helpu i ddeall bywyd cyfoes ac yn rhoi cefndir dylanwadol i gryn dipyn o benderfyniadau a pholisïau diweddar.
Mae awduron blaenllaw, sy'n amrywio cymaint yn eu hagweddau at Gymru a Chymreictod â'r nofelydd a'r adolygwr Raymond Williams a'r bardd R. S. Thomas yn cytuno y dylid rhoi pwys ar bobl sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn eu tirlun lleol a'i hanes a'r gydberthynas gymdeithasol sydd ganddynt â'r bobl eraill sy'n byw o'u cwmpas. Mae Williams wedi ysgrifennu am yr amgylchedd cymdogol y cafodd ei fagu ynddo, a roddodd iddo ei ddiddordeb gydol oes ym mhosibiliadau cynhesrwydd a chysylltiadau dynol yn y gymuned fach, lle mae pobl yn gyfarwydd â'i gilydd ac yn dod i adnabod ei gilydd yn dda. Mae Thomas wedi portreadu agosatrwydd pobl wledig Cymru at y tir a'i amgylchedd naturiol, a'r diwylliant a'r ffordd o fyw sy'n cyd-fynd ag ef. Mae gwyddonwyr cymdeithasol sy'n ysgrifennu am Gymru wedi rhannu'r diddordeb hwn ym mhwysigrwydd eithriadol yr ardal leol a'r gymuned, a'r ymdeimlad o berthyn i le penodol.