Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1.2 Gwahaniaethau rhanbarthol yng Nghymru

Er ei bod yn wlad fach, mae ysgolheigion y Gymru gyfoes yn aml wedi pwysleisio maint ei rhaniadau a'i gwahaniaethau mewnol, sy'n golygu bod pobl sy'n byw mewn rhannau gwahanol o'r wlad yn wynebu amrywiaeth o amodau a phrofiadau gwahanol. O ganlyniad, awgrymwyd bod rhai gwahaniaethau sylfaenol o ran canfyddiadau a buddiannau sy'n tueddu i rannu pobl Cymru yn hytrach na'u cysylltu. Un ymdrech ddylanwadol i geisio cofnodi'r amrywiadau hyn yw model Denis Balsom o dri math o Gymru (1985), sy'n gwahaniaethu rhwng y Gymru Gymreig, y Gymru Brydeinig a'r Fro Gymraeg (gweler Ffigur 3).

Gan seilio ei ddadansoddiad ar atebion i gwestiynau arolwg, canolbwyntiodd Balsom ar ddau brif fesur: p'un a oedd person yn siarad Cymraeg ai peidio, a ph'un a oedd yn ateb ei fod yn 'Gymro/Cymraes', yn 'Brydeinig' neu'n rhywbeth arall. Drwy gyfuno'r dangosyddion hyn, llwyddodd i rannu Cymru yn dair ardal wahanol â nodweddion diwylliannol a gwleidyddol gwahanol yn gysylltiedig â grwpiau cymdeithasol penodol. Yn ôl Balsom:

The Welsh-speaking, Welsh identifying group is perhaps most distinctive and largely centred upon the north and west of Wales. This area is designated y Fro Gymraeg. The Welsh-identifying, non-Welsh-speaking group is most prevalent in the traditional south Wales area and labelled Welsh Wales. The British identifying non- Welsh speaking group dominates the remainder of Wales, described therefore as British Wales.

(Balsom, 1985, t. 6)
(Balsom, 1985, t. 5)
Ffigur 3 Model Balsom o'r tri math o Gymru

Prif nod Balsom wrth lunio'r categorïau hyn oedd rhagweld ac egluro amrywiadau ym mhatrymau pleidleisiau'r pleidiau gwleidyddol. Awgrymodd fod y rhanbarthau hyn eisoes yn newid cryn dipyn wrth iddo baratoi'r gwaith. Roedd patrymau gwaith a diwydiant newydd a newidiadau yn y boblogaeth yn tanseilio'r hen ddelwedd o'r 'Celtic Fringe' a oedd wedi'i seilio ar Gymru wledig ac amaethyddol, a chadarnle'r Blaid Lafur yn y diwydiant glo. Roedd Balsom yn poeni'n benodol y byddai newidiadau a oedd yn effeithio ar ardal draddodiadol De Cymru fel yr oedd yn ei galw (ei 'Gymru Gymreig'), yn codi amheuaeth ynglŷn â math o hunaniaeth Gymreig a ddatblygwyd ac a fynegwyd drwy gyfrwng y Saesneg. Dywedodd fod hyn yn ei gwneud hi'n anodd meddwl am ymdeimlad o Gymreictod yn y dyfodol nad oedd wedi'i wreiddio yn yr iaith Gymraeg. Hynny yw, roedd yn rhagweld bod y Gymru Gymreig yn debygol o ddiflannu wrth iddi gyfuno fwyfwy â'r Gymru Brydeinig. Ar y llaw arall, cydnabu fod ymdeimlad cyffredin o Gymreictod yn dal i ddal Cymru at ei gilydd ac ,yn wir, fod tystiolaeth ar gael i ddangos bod dyfodiad sefydliadau gwleidyddol Cymreig yn atgyfnerthu'r ymdeimlad hwn. O'n safbwynt ni nawr, chwarter canrif yn ddiweddarach, gallwn farnu cywirdeb y rhagfynegiadau hyn.

Gweithgaredd 4

Edrych yn ôl dros eich bywyd eich hun:

  • Yn eich barn chi, i ba raddau roedd Balsom yn gywir i ragweld y byddai unrhyw ymdeimlad o Gymreictod nad oedd yn gysylltiedig â'r Gymraeg yn gwanhau?

  • A oes mwy o bobl yn teimlo eu bod yn Gymry nawr o gymharu â thua 25 mlynedd yn ôl?

  • Heblaw am iaith, am ba resymau eraill y gallai pobl ystyried eu bod yn Gymru?

Gadael sylw

Er bod siarad Cymraeg yn agwedd hynod o bwysig ar Gymreictod, gall pobl deimlo eu bod yn Gymry am lawer o resymau eraill. Gall y rhain gynnwys teyrngarwch i'r man lle cawsant eu geni a'u magu, ymdeimlad o gysylltiadau teuluol a chymunedol â Chymru, brwdfrydedd dros gyflawniadau artistig Cymru a'i chyflawniadau ym maes y campau, neu gyfranogiad mewn prosesau gwleidyddol a gweithgareddau gwirfoddol yng Nghymru. Gall pob un o'r rhain hyrwyddo ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig. Er y gellid disgwyl y byddai datganoli [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] wedi cynyddu'r ymdeimlad o Gymreictod, nid oes llawer o dystiolaeth i gefnogi hyn. (Curtice 2013, t.17; Llywodraeth Cymru 2014)

Mae'n amheus p'un a oedd yr ardaloedd a ddiffiniwyd gan Balsom erioed mor daclus o hunangynhwysol a phenodol ag y mae Ffigur 3 yn awgrymu; mewn realiti, roedd y ffiniau rhyngddynt yn llawer mwy amwys yn ôl pob tebyg. Er enghraifft, roedd llawer o'r bobl yn y 'Gymru Gymreig' yn dod yn wreiddiol o ardaloedd mwy gwledig o'r Fro Gymraeg ac am gryn amser ar ôl hynny, roeddent yn dal i gynnal cysylltiadau gwirioneddol, neu sentimental, â'r ardaloedd hynny. Serch hynny, nid yw'n anarferol i Gymru gael ei rhannu fel hyn yn ardaloedd penodol fel y Gymru wledig; y Fro Gymraeg, a gaiff ei galw weithiau'n 'gadarnle' y Gymraeg; y Cymoedd; y dinasoedd, neu'r Gymru drefol (Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Wrecsam) ac ati. Dywedir yn aml fod gan yr ardaloedd hyn nodweddion gwahanol, gydag ystyron cysylltiedig, neu ddiwylliannau rhanbarthol, sydd nid yn unig yn adlewyrchu maint a dosbarthiad eu poblogaeth, ond sydd hefyd yn adlewyrchu gwahaniaethau o ran dosbarth, swyddi a ffordd o fyw, sy'n cyflwyno problemau a chyfleoedd gwahanol i'w trigolion.

Mae gan yr ardaloedd hyn eu heiriolwyr a'u cynrychiolwyr gwleidyddol a chânt eu cynrychioli mewn mathau penodol o ymatebion polisi a chyfeiriad polisi. Er enghraifft, lluniwyd llawer o bolisïau a strategaethau ar gyfer y Gymru wledig a lluniwyd rhai eraill er mwyn ceisio adfywio ardaloedd trefol. Am sawl blwyddyn arweiniodd y llywodraeth Raglen ar gyfer y Cymoedd, a luniwyd i wella cyfleoedd economaidd a chymdeithasol mewn rhan amddifad o'r de. Ers 2000, mae gorllewin Cymru i gyd wedi cael arian Ewropeaidd (Amcan 1, Arian Cydgyfeirio ac wedyn, ar gyfer 2014-2020, arian Strwythurol), am fod ei CDG y pen yn werth llai na 75% o gyfartaledd yr UE. Er mwyn pledio'r achos dros gael cymorth Ewropeaidd, bu'n rhaid ail-lunio map Cymru er mwyn tynnu sylw at y rhaniadau rhwng y dwyrain a'r gorllewin gan bwysleisio'r problemau cyffredin a oedd yn wynebu'r Gymru wledig a Chymoedd y de a oedd yn dad-ddiwydiannu yn hytrach na'r gwahaniaethau rhwng y gogledd (gwledig) a'r de (diwydiannol) fel sy'n digwydd mor aml mewn dadleuon gwleidyddol yng Nghymru.

Ymdrech fwy diweddar i rannu Cymru yn ardaloedd amrywiol yw People, Places, Futures: the Wales Spatial Plan (2004; diweddarwyd yn 2008), a gafodd ei baratoi ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun hwn yn rhannu Cymru yn nifer o 'ranbarthau' neu ardaloedd penodol â nodweddion gwahanol a'r bwriad yw ei ddefnyddio er mwyn helpu i wneud penderfyniadau datblygu priodol dros yr 20 mlynedd nesaf. Yn ôl y dadansoddiad hwn, mae gan Gymru chwe phrif 'isranbarth': gogledd-ddwyrain Cymru; gogledd-orllewin Cymru; canolbarth Cymru; de-ddwyrain Cymru; Bae Abertawe a'r Cymoedd Gorllewinol; a Sir Benfro a dyfrffordd Aberdaugleddau.

Nid oes ffiniau pendant i'r ardaloedd hyn; maent yn annelwig oherwydd ceir llawer o gysylltiadau trawsffiniol rhwng gweithgareddau dyddiol. Fodd bynnag, ar sail gwybodaeth ystadegol allweddol a data am amodau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, mae'r cynllun yn rhoi argraff o'r gwahanol fathau o 'ddaearyddiaeth gymdeithasol' sy'n bodoli yn y Gymru gyfoes. Dysgwn, er enghraifft fod gan y gogledd-orllewin hunaniaeth gref sy'n gysylltiedig â'r iaith Gymraeg a'r tirlun a'r arfordir godidog (Llywodraeth Cymru, 2004, t. 38) tra bod y gogledd ddwyrain yn cael ei ddisgrifio fel un o'r prif ardaloedd sy'n sbarduno economi Cymru (t. 41). Dywedir bod 'rhwydwaith y brifddinas' yn y de-ddwyrain, sydd â'i ganolbwynt yng Nghaerdydd, yn rhwydwaith trefol sydd heb ei gynllunio ond sy'n rhyngddibynnol (t. 49) sy'n cynnwys rhai enghreifftiau o anghyfartaledd economaidd a chymdeithasol mawr. Mae'r canolbarth yn cynnwys clytwaith o aneddiadau cymharol fach (t. 45) sy'n ddeniadol iawn am eu hansawdd byw a'u hamgylchedd.

Mae'r Cynllun Gofodol yn darparu fframwaith sy'n dwyn awdurdodau cynllunio lleol ynghyd drwy ddyheadau a strategaethau cenedlaethol. Y rhagdybiaeth yw y bydd pobl sy'n byw mewn ardal benodol, fel arfer, yn profi manteision gwahanol, neu'n wynebu problemau gwahanol, o gymharu â phobl sy'n byw mewn mannau eraill ac felly rhaid llunio polisïau gwahanol ar eu cyfer a'u trin mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, mae pellter a mynediad at wasanaethau iechyd ac addysg yn peri mwy o broblemau i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig lle mae'r boblogaeth wedi'i gwasgaru ac lle nad oes cymaint o drafnidiaeth, na phobl sy'n byw yn y dinasoedd. Mae'n peri mwy o broblem byth i'r rhai nad oes ganddynt ddigon o arian nac adnoddau eraill i oresgyn y pellter - fel bod yn berchen ar gar neu fynediad at gar. Ond mae'n bwysig peidio â gorsymleiddio pethau, gan fod grwpiau ac unigolion yn byw mewn ardaloedd mwy trefol sy'n wynebu'r un fath o amddifadedd ac sy'n cael eu hymyleiddio i'r un graddau.

Mae'r gwahaniaethau hyn yn ymwneud â mwy nag adnoddau materol ac anghydraddoldebau - neu 'siawns bywyd' pobl - maent hefyd yn ymestyn i'r ffordd y mae pobl yn meddwl am ble y maent yn byw a'i nodweddion cadarnhaol a negyddol. Gall hyn gael ei fynegi ar ffurf gwahaniaethau mewn agweddau a diddordebau cymdeithasol a gwleidyddol.

Felly, mae Cymru yn wlad ddwyieithog yn swyddogol ac mae'n rhaid i bob corff cyhoeddus (a chyn bo hir, cyrff preifat fel cyfleustodau) roi statws cyfartal i'r ddwy iaith. Ond oherwydd nad yw'r iaith wedi'i dosbarthu'n gyfartal drwy Gymru, mae gwleidyddiaeth yr iaith a'r ffordd y caiff polisïau iaith eu gweithredu yn amrywio o ardal i ardal. Mae'r iaith yn fwy amlwg mewn dadleuon a thrafodaethau yng Ngwynedd a Cheredigion nag y mae yn Sir Benfro am fod llawer llai o bobl yn Sir Benfro yn siarad Cymraeg neu'n teimlo ei bod yn bwysig. Yn yr un modd, mae dadleuon ynglŷn â mynediad agored i gefn gwlad, neu gyfreithlondeb hela, yn ennyn ymateb gwahanol mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig gan grwpiau sy'n ymwneud â ffermio ac amaethyddiaeth, o gymharu â rhai sy'n byw yn y dinasoedd sydd â diddordebau mwy 'trefol', yn naturiol. Mae ardaloedd gwahanol yn cynnwys poblogaethau gwahanol sydd, i ryw raddau, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol ac felly yn datblygu diddordebau gwahanol.