2.1.3 Safbwyntiau ar wahaniaethau rhanbarthol y 'cymeriad Cymreig'
Mae'r mathau o wahaniaethau mawr neu 'facro' â diffiniadau swyddogol yr ydym wedi'u hystyried hyd yma ond yn rhoi darlun cyffredinol o amrywiadau yng Nghymru, ac nid ydynt yn debygol o gyd-fynd yn union ag argraffiadau pobl gyffredin, sy'n aml yn gweld pethau o safbwynt lleol neu 'ficro' manylach a ddatblygwyd 'ar lawr gwlad'. Mae eu safbwyntiau nhw yn fwy tebygol o ddibynnu ar wybodaeth 'bob dydd' synhwyrol, y math o wybodaeth 'sydd gan bawb', yn hytrach nag ymchwil wyddonol systematig a gwrthrychol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ystadegol. Yn yr un modd, nid yw pobl bob amser yn defnyddio iaith gymdeithasegol neu academaidd wrth drafod y pynciau hyn ond eto i gyd, yn eu ffyrdd eu hunain, maent yn dangos diddordeb mawr ynddynt a thipyn o ymwybyddiaeth ohonynt. Er enghraifft, yn narn Brian Roberts ar ei ymchwil i agweddau at Gymreictod yn un o gymoedd y de, mae'n dweud wrthym i un cyfrannwr gyfeirio at wahaniaethau yng 'nghymeriad' pobl sy'n byw mewn lleoedd gwahanol. Wrth gymharu trigolion rhanbarth amaethyddol cyfagos â thrigolion y cwm dan astudiaeth, dywedodd, ‘In my opinion there’s a difference in the people there and in the Valleys. A different character you know’ (dyfynnwyd yn Roberts, 1999, t. 121). Ymhelaethodd ymatebydd arall ar yr awgrym hwn, gan ddefnyddio geiriau tebyg:
There’s a Valleys’ character. If you went to West Wales, you’d find the Welshman is different, it’s a land-working Welshman. Here you have the industrial, south Welshman who is totally different to the north. There is a division between north and south and mid Wales.
Mae 'cymeriad', fel y caiff ei ddefnyddio yma, yn debyg iawn i'r term 'hunaniaeth' a gaiff ei ddefnyddio'n eang mewn gwaith ymchwil diweddar ym maes y gwyddorau cymdeithasol. Fel y dangosir yn y dyfyniadau hyn, gall unigolion a grwpiau ddatblygu ymdeimlad o'u hunaniaeth eu hunain drwy gymharu eu hunain ag eraill, gweld pwy sy'n debyg iddynt a phwy sy'n wahanol. Wrth lunio'r cymariaethau hyn, byddant yn meddwl am eu profiadau bob dydd, yn y lleoedd lle maent yn byw, yn gweithio ac yn mwynhau eu hunain. Mae cyfoeth o wybodaeth a dealltwriaeth yn gudd y tu ôl i sylwadau fel y rhai a ddyfynnwyd uchod, ac mae'n drawiadol pa mor bwysig yw gwahaniaethau daearyddol wrth drefnu'r safbwyntiau hyn ynglŷn â gwahaniaethau cymdeithasol. Maent yn awgrymu bod gan yr unigolion dan sylw fap o amrywiadau cymdeithasol, wedi'i drefnu yn ôl pwyntiau'r cwmpawd, y gellir eu crynhoi drwy'r cymariaethau a wnânt rhwng ardaloedd gwahanol fel y 'gorllewin' a'r 'Cymoedd'.
Gweithgaredd 5
Cymerwch amser i bwyso a mesur yr hyn rydych wedi'i ddarllen hyd yma.
I ba raddau y byddech chi'n cytuno bod 'cymeriadau' Cymreig gwahanol i'w gweld mewn rhannau gwahanol o Gymru?
Pam felly?
Pe gallech chi drafod y cwestiwn â'r rhai a gafodd eu cyfweld gan Brian Roberts, ym mha ffordd y byddai eu barn nhw yn wahanol i'ch barn chi?
Gadael sylw
Fel mae'n digwydd, roedd y ddau ymatebydd a ddyfynnwyd uchod yn ddynion 60 oed neu drosodd. Maent yn pwysleisio'r math o waith (diwydiannol neu amaethyddol) sydd, yn eu barn nhw, yn helpu i ffurfio cymeriad dynion Cymreig yn benodol. A fyddai'r un peth yn berthnasol i fenywod Cymreig? Neu i bobl iau? Pan fyddwch yn ystyried y peth, mae'n annhebygol y bydd pobl yn y de yn 'hollol wahanol' i bobl sy'n byw yn y gogledd (fel yr awgrymwyd). Yn wir, mae'n sicr y bydd ganddynt lawer yn gyffredin. Mae p'un a fyddwch yn pwysleisio'r gwahaniaethau neu'r tebygrwydd yn dibynnu ar eich pwynt cyfeirio: efallai na fyddai pobl o'r tu allan i Gymru yn sylwi ar y gwahaniaethau a nodwyd yn y sylwadau hyn. Eto i gyd, mae rhai gwahaniaethau gwirioneddol ddiddorol ac arwyddocaol rhwng lleoedd yn y de a'r gogledd, sy'n deillio o'r hyn a ddigwyddodd yno yn y gorffennol a nodweddion y sefyllfa ar hyn o bryd, ac mae'n ddigon posibl bod hyn yn effeithio ar sut mae'r bobl sy'n byw yn y lleoedd hynny yn meddwl ac yn ymddwyn.
Mae'r amrywiadau lleol hyn, sy'n gysylltiedig â lleoedd, wedi creu traddodiad cyfoethog o astudiaethau lleol gan wyddonwyr cymdeithasol yng Nghymru (er enghraifft, Alwyn Rees (1950) ar Lanfihangel-yng-Ngwynfa; Ronald Frankenberg (1957) ar Lynceiriog; ac Isabel Emmett (1964) ar Lanfrothen). Mae'r astudiaethau hyn yn ystyried hunaniaeth a'r ymdeimlad o berthyn, a natur Cymreictod, mewn amrywiaeth o gyd-destunau gwahanol. Yn sgil y traddodiad hwn o waith ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol, mae gwyddonwyr cymdeithasol yng Nghymru, a lleoedd yng Nghymru, wedi dylanwadu ar yr ystyriaeth a roddir i'r materion hyn yn fwy cyffredinol. Hefyd, mae gweithiau ysgrifenedig llenyddol pwysig am leoedd a chymunedau Cymreig sy'n cyfateb i'r gwaith academaidd sy'n ceisio cyplysu'r hyn sydd mor arbennig ac unigryw am leoedd gwahanol.