Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Yr economi a gwaith yn y Gymru gyfoes

Mae'r adran hon yn adolygu'r economi a byd gwaith yng Nghymru ar hyn o bryd.

Gweithgaredd 6

Cymerwch amser i feddwl am ba ddelweddau sydd gennych eisoes o waith yng Nghymru.

  • Pa bortreadau o fywydau gwaith yng Nghymru rydych wedi'u gweld mewn ffilmiau a llenyddiaeth?

  • Sut mae'r cyfryngau torfol yn cyfleu economi Cymru?

  • Nodwch y tair prif ddelwedd rydych yn eu cysylltu â gwaith a chyflogaeth yng Nghymru.

Gadael sylw

Gallaf ddweud yn gwbl sicr bron y bydd un o'ch delweddau yn cynnwys glöwr yn gwisgo helmed ac yn cario lamp Davy, neu efallai löwr â'i wyneb yn ddu a chap fflat ar ei ben. Efallai y bydd delwedd arall yn cynnwys gweithiwr dur â'r ffwrnes yn llosgi y tu ôl iddo a gwreichion o ddur tawdd yn neidio. Efallai bod eich trydedd ddelwedd yn cynnwys ffermwr defaid unig, yn crafu byw ym mryniau uchel gogledd Cymru. A wnaethoch chi hefyd feddwl am 'Fam' Gymreig, gan ei dychmygu mewn llun sepia bron efallai, yn pwyso yn erbyn drws ei 'phalas', y mae ei gwaith yn y cartref yn ategu gwaith mwy gweledol y dynion o'i chwmpas?

Mewn llawer o ffyrdd, mae'r rhain wedi dod yn ddelweddau ystrydebol o Gymru, sy'n ymddangos dro ar ôl tro mewn llenyddiaeth, celf, ffilmiau, ffotograffau ac ar y teledu. Fodd bynnag, mae economi fodern Cymru yn gymysgedd amrywiol a chymhleth o weithgareddau sy'n amrywio o gynhyrchu diwydiannol trwm i ddiwydiannau sy'n gwneud defnydd arloesol o uwch-dechnoleg. Cymru yw un o ranbarthau'r DU sy'n dibynnu fwyaf ar y diwydiant gweithgynhyrchu o hyd ac er bod pwysigrwydd gweithgynhyrchu dur a gwneuthuro trwm wedi lleihau, mae mathau eraill o weithgynhyrchu diwydiannol wedi cymryd eu lle. Mae rhai o'r gweithgareddau modern, uchel eu proffil yn cynnwys gweithgynhyrchu adenydd awyrennau Airbus ym Mrychdyn yn y gogledd a chynhyrchu injans ceir ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y de. Mae'r polisi o ddenu mewnfuddsoddiad i Gymru wedi sicrhau presenoldeb diwydiannau gweithgynhyrchu tecstilau, electroneg, rhannau ceir a nwyddau traul. O ganlyniad, y ffatri yw canolbwynt profiad gwaith llawer o bobl yng Nghymru ac yn 2012 roedd 10 y cant o'r gweithlu yn cael ei gyflogi mewn prosesau gweithgynhyrchu.

Er bod nifer a chyfran y gweithwyr ym maes gweithgynhyrchu wedi bod yn gostwng, gwelwyd twf yn y sector gwasanaethau - sy'n cynnwys y gwasanaethau cyhoeddus (e.e. iechyd ac addysg), cyfanwerthu, manwerthu, dosbarthu a chludiant, bancio a chyllid a hamdden. Yn 2012, roedd tua 86% o swyddi Cymru yn y sector gwasanaethau. Mae Tabl 1 yn dangos dosbarthiad swyddi (yn 2012) yn y sectorau diwydiannol gwahanol yng Nghymru.

Tabl 1 Swyddi'r gweithlu yng Nghymru yn ôl diwydiant, 2012
Sector diwydiannol Nifercanran
Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota 35,6002.7
Cloddio a chwareli 2,2000.2
Gweithgynhyrchu130,3009.9
Cyflenwi trydan, nwy, stêm a systemau aerdymheru6,6000.5
Cyflenwi dŵr; carthffosiaeth, gweithgareddau rheoli ac adfer gwastraff12,5000.9
Adeiladu89,7006.8
Cyfanwerthu, manwerthu, cludiant, gwestai a bwyd342,00025.9
Gwybodaeth a chyfathrebu25,9002.0
Gweithgareddau cyllid ac yswiriant30,9002.3
Gweithgareddau eiddo tiriog18,5001.4
Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol; gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cymorth136,40010.3
Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn, diogelwch cymdeithasol gorfodol87,6006.6
Addysg129,1009.8
Gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol200,60015.2
Gweithgareddau gwasanaeth eraill - celfyddydau, adloniant a hamdden39,4003.0
Gweithgareddau gwasanaeth eraill - diwydiannau eraill32,2002.4
1,319,500100

Troednodyn  

Llywodraeth Cymru (2013)

Gallwn nodi'r tair prif broblem sy'n wynebu economi Cymru ar hyn o bryd (Bryan a Roche, 2009). Y cyntaf yw'r ffaith bod Cymru yn tanberfformio’n gyson o gymharu â'r rhan fwyaf o ranbarthau eraill y DU. Fel arfer, mae allbwn economaidd rhanbarth yn cael ei fesur yn ôl ei werth ychwanegol gros (GVA) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Mae'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru ond yn cyfateb i 72 y cant o GVA y DU (yn 2013), gyda'r lefelau isaf yn Ynys Môn, 49 y cant, a Chymoedd Gwent, 57 y cant. Mae'r bwlch hwn yn dechrau tyfu'n raddol hefyd er bod yr Undeb Ewropeaidd (UE) wedi buddsoddi llawer o arian strwythurol. Er mwyn bod yn gymwys i gael yr arian hwn, rhaid i gynnyrch domestig gros (GDP) Cymru fod yn llai na 75 y cant o gyfartaledd y DU. Disgrifiwyd hyn fel ‘a badge of failure’ (Hill, 2000, t. 1); gan ei fod yn dangos mai Cymru oedd un o'r rhanbarthau tlotaf yn Ewrop cyn i wladwriaethau'r olyniaeth yn Nwyrain Ewrop gael eu hychwanegu'n ddiweddar. Yn anffodus, ni lwyddodd y cylch cyntaf hwn o arian Ewropeaidd i newid GDP yng Nghymru yn sylweddol a dyrannwyd cylch newydd o arian yn 2008. Mae'r arian hwn, a gaiff ei alw'n 'arian cydgyfeirio' erbyn hyn, yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd fwy strategol na rhaglen Amcan 1. Gyda'r arian cydgyfeirio, mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan ganolog o ran sut y caiff yr arian ei ddefnyddio, yn wahanol i'r model mwy datganoledig a oedd yn rhoi mwy o rôl i lywodraeth leol a sefydliadau yn y trydydd sector.

Fodd bynnag, er gwaethaf yr ymyriadau hyn, siomedig yw perfformiad economaidd Cymru o hyd. Un o'r rhesymau mwyaf dros hyn yw ail brif broblem economi gyfoes Cymru: y gyfradd gyflogaeth isel. Mae'r ffigur hwn yn wahanol i'r gyfradd ddiweithdra, sydd ond yn mesur faint o bobl sy'n chwilio am waith. Yn lle hynny, mae'r gyfradd gyflogaeth yn mesur y rhai sy'n gweithio fel cyfran o'r holl boblogaeth oedran gweithio. Mae'r gyfradd gyflogaeth yn rhoi gwybodaeth inni am bob math o anweithgarwch economaidd, gan gynnwys diweithdra, ymddeoliadau cynnar a'r rhai nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd salwch neu analluogrwydd. Cymru sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU bob tro, ar wahân i ogledd-ddwyrain Lloegr. Mae hyn yn golygu bod mwy o bobl o oedran gweithio yng Nghymru yn economaidd anweithgar ac nad ydynt yn chwilio am swyddi ar hyn o bryd. Dyma un o brif wendidau economi Cymru ac mae'n rhwystro unrhyw welliannau mewn allbwn. Edrychwn ar ganlyniadau cymdeithasol cyfraddau uchel o anweithgarwch economaidd yn ddiweddarach yn yr adran hon.

Y broblem fawr arall yn economi Cymru yw bod cyflogau'n tueddu i fod yn is na mannau eraill yn y DU (gweler Ffigur 4). Er bod amrywiadau rhwng sectorau gwahanol o'r economi, mae'r patrwm cyffredinol yn dangos bod enillion cyfartalog yng Nghymru ond yn cyfateb i 87 y cant o lefel y DU. Yn y DU ym mis Ebrill 2013, £620 oedd yr enillion wythnosol gros cyfartalog o gymharu â chyfartaledd Cymru o £539 ac mae hyn yn dangos bod y bwlch wedi tyfu rhywfaint dros y blynyddoedd diwethaf. Cyflogau isel yw un o brif achosion tlodi yng Nghymru erbyn hyn, yn hytrach na diweithdra a oedd yn gyfrifol am dlodi'r rhan fwyaf o bobl yn y 1990au. Fodd bynnag, mae effeithiau'r dirwasgiad a ddechreuodd yn 2007 ac effaith mesurau cynilo Llywodraeth Glymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn golygu bod diweithdra yn adfer ei statws fel un o brif achosion tlodi unwaith eto.

Jason Bye/Rex Features
Ffigur 4 Gwaith cyflog isel yn y diwydiant gwasanaethau yng Nghymru

Gan ddychwelyd at ein delweddau o Gymru a'r patrwm gwaith, gallwn weld bod economi Cymru yn llawer mwy cymhleth nawr nag y byddem wedi dychmygu a bod problemau strwythurol craidd yn economi Cymru sy'n peri heriau mawr i'r llywodraeth yng Nghymru ond, yn bwysicaf oll, i'r bobl sydd heb waith neu sydd ar gyflogau isel. Nid yw'r delweddau o lowyr, gweithwyr dur a ffermwyr yn disgrifio'r byd gwaith a chyflogaeth cyfoes yng Nghymru mwyach. Mae'r ddelwedd o'r 'Fam' Gymreig yn perthyn i'r gorffennol hefyd, gan fod cyfraddau gweithgarwch economaidd ymhlith merched yn parhau i dyfu. Er mwyn deall y trawsnewidiadau sydd wedi digwydd yn llawn, mae'n rhaid olrhain y prif newidiadau mewn gweithgarwch economaidd yng Nghymru ers yr Ail Ryfel Byd. Mae'r economi sydd gennym heddiw a'r patrymau gwaith a welwn yn deillio o newidiadau economaidd a chymdeithasol mawr a gaiff eu hystyried yn adran nesaf y cwrs.