3.2 Gwaith, pobl heb waith a thlodi
Mae'r adran hon yn amlinellu'r gydberthynas rhwng economi Cymru a phatrymau gwaith a phrofiadau gwaith yng Nghymru. Yn anffodus, un o ganlyniadau mwy negyddol yr economi Gymreig yw lefelau uchel o dlodi. Dros y blynyddoedd diwethaf, mesurwyd tlodi yn bennaf yn nhermau tlodi plant [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] :
‘The child poverty rate in Wales is 32 per cent, currently the highest in the UK where the average is 31 per cent. In comparison, Scotland and Northern Ireland have child poverty rates of 25 per cent’.
Mae ymchwil ddilynol yn nodi ffigur o 29% ac mae wedi aros yn weddol gyson dros y degawd diwethaf (Sefydliad Joseph Rowntree, 2013).
Mae'r patrwm gweithgarwch economaidd yn dylanwadu ar lefelau tlodi yng Nghymru mewn dwy ffordd. Y cyntaf yw'r ffordd y mae cyflogau isel yn lleihau incwm teuluoedd. Yng Nghymru, nid yw'r ffaith bod gennych swydd yn golygu o reidrwydd na fyddwch yn profi tlodi. Yn 2010, roedd 23 y cant o ddynion a 19 y cant o ferched mewn gwaith amser llawn yng Nghymru yn ennill llai na £7 yr awr, gan arwain at y casgliad ‘Wales remains a low-pay economy’ (Kenway et al., 2007, t. 4). Mae patrymau gofodol yn gysylltiedig â dosbarthiad cyflogau isel hefyd, gyda mwy o swyddi cyflog isel mewn ardaloedd gwledig. Dylanwad arall yr economi dros lefelau tlodi yw canlyniadau lefelau uchel o anweithgarwch economaidd.
Yn hyn o beth, mae Cymru yn adlewyrchu'r profiad ehangach o fod heb waith mewn ardaloedd a arferai fod yn gadarnleoedd i'r diwydiant glo, y diwydiant gweithgynhyrchu dur a diwydiant trwm. Wrth i'r sylfaen ddiwydiannol yng Nghymru ddymchwel ar ddechrau'r 1980au, tyfodd lefelau diweithdra ac anweithgarwch economaidd yn gyflym. Mae 'anweithgarwch economaidd' yn derm mwy defnyddiol i'w ddefnyddio gan ei fod yn cynnwys llawer mwy o gategorïau o bobl heb waith na dim ond pobl sy'n ddi-waith. Er enghraifft, mae'n cynnwys pawb o oedran gweithio nad ydynt mewn gwaith, gan gynnwys pobl â salwch ac anabledd hirdymor a'r rhai sydd wedi ymddeol yn gynnar yn ogystal â'r rhai sy'n chwilio am waith ar hyn o bryd. Un patrwm clir a ddaeth i'r amlwg yn y 1980au oedd bod nifer fawr o bobl yn cael Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol. Mae Ffigur 5 yn dangos cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru ers 1984 a'r gwrthgyferbyniad rhwng y cynnydd graddol ymhlith dynion a'r gostyngiad ymhlith merched. Eglurir hyn yn rhannol gan y cynnydd mewn cyfleoedd cyflogaeth i ferched wrth i swyddi ym maes manwerthu a gwasanaethau (sy'n cyflogi mwy o ferched na dynion yn draddodiadol) ddod yn fwyfwy pwysig yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r nifer sylweddol sy'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd yng Nghymru yn destun pryder mawr ac yn cael sylw cynyddol ym mholisïau'r llywodraeth.
Gweithgaredd 7
Astudiwch Ffigur 5 sy'n dod o fwletin ystadegol gan Lywodraeth Cymru am weithgarwch economaidd. Wrth ichi wneud hynny:
Cymharwch gyfraddau gweithgarwch dynion a merched.
Cofiwch rai o'r prosesau rydych wedi darllen amdanynt yn yr adran hon a nodwch pam bod y gyfradd anweithgarwch economaidd yn parhau i ostwng ymhlith merched.
Gadael sylw
Mae'r graff hwn yn dangos y mesur rhifol syml o anweithgarwch economaidd. Byddwch wedi sylwi bod cyfradd anweithgarwch dynion yn parhau i gynyddu, tra bod gostyngiad graddol yng nghyfraddau anweithgarwch merched. Y rheswm am hyn yw bod mwy o le i ferched ym myd gwaith bellach. Er ei bod yn bwysig deall yr ystadegau ynglŷn ag anweithgarwch economaidd, mae hefyd yn bwysig deall yr effaith gymdeithasol a gaiff lefelau uchel o bobl sydd heb waith am gyfnodau hir. Mewn llawer o gymunedau yng Nghymru, mae rhai teuluoedd yn cynnwys tair cenhedlaeth o unigolion economaidd anweithgar.
Un ffactor ddifrifol yw y gall pobl heb waith a chyflogau isel gael eu canoli mewn cymunedau a theuluoedd penodol. Gall y canlyniadau i'r unigolyn, y teulu a'r gymuned fod yn sylweddol. Yn ogystal, mewn ardaloedd lle mai cyflogau isel ac anweithgarwch economaidd yw'r prif brofiadau, gall newid diwylliannol mawr ddigwydd sy'n datgysylltu'r gymuned oddi wrth y gwerthoedd diwylliannol ehangach sy'n ategu ymrwymiad i waith Gall lefelau isel o gyfleoedd economaidd greu agwedd ffatalaidd sy'n derbyn mai dyfodol heb waith yw'r norm. At hynny, gall anweithgarwch economaidd fod yn ddewis rhesymegol mewn amgylchiadau lle ceir cyflogau isel ynghyd â phatrymau cyflogaeth ansefydlog a nifer uchel o swyddi rhan-amser ac achlysurol. Mewn ardaloedd fel hyn mae pobl ifanc yn y system addysg yn aml yn colli cymhelliant a gall diwylliant ddatblygu sy'n gwrthod gwerthoedd academaidd yr ysgol ac yn tanseilio perfformiad addysgol. Gall pwysau gan gyfoedion i beidio â gweithio ddatblygu a gall diffyg dyhead a hyder cyffredinol orchfygu'r profiad cymdeithasol lleol.
Mae'r addasiadau cymdeithasol a seicolegol hyn i ddiweithdra a chyflogau isel yn cuddio achosion strwythurol tangyflogaeth yn yr ardaloedd hyn. Mae'r rhwystrau ystyfnig i gyflogaeth yn cynnwys unigedd a phellter daearyddol o fannau gwaith, cysylltiadau trafnidiaeth gwael ac, yn y bôn, sylfaen sgiliau isel y boblogaeth. At y rhestr hon gallwn ychwanegu gwerthoedd unigol a chyffredinol sy'n golygu bod pobl yn gwrthod teithio i fannau gwaith ac yn dechrau derbyn bod byw mewn tlodi yn normal a hyd yn oed yn foddhaol.
Fel y mae byd gwaith wedi dylanwadu ar ddiwylliant Cymreig yn y gorffennol, mae bod heb waith yn dylanwadu'n wael ar ymgysylltiad a chyfranogiad yn y gymuned ehangach. Gall cymunedau a nodweddir gan bobl heb waith gael eu hynysu a'u gwthio i'r ymylon yn ddiwylliannol, proses a elwir fel arfer yn allgau cymdeithasol. Gall gorwelion cymdeithasol y bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn gael eu cyfyngu i'r ardal honno a ffiniau'r ystâd neu'r gymuned fydd gorwel cymdeithasol pellaf y trigolion. Gall profiadau diwylliannol lleol gael eu cywasgu a gall cymunedau cyfan golli eu cysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol â'r economi a byd gwaith.