Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Meddwl am 'hil' a Chymru

Mae llenyddiaeth a pholisïau ar gysylltiadau hiliol wedi tueddu i ganolbwyntio ar ardaloedd lle ceir grwpiau mawr o leiafrifoedd ethnig yn y DU. Am nifer o resymau, nid yw Cymru wedi'i chynnwys fel arfer ar fap cysylltiadau hiliol Prydain. Mae hyn yn rhyfedd gan fod Cymru yn gartref i un o'r cymunedau du neu, yn fwy priodol, amlddiwylliannol hynaf yn Ewrop (gweler Ffigur 6).

Bert Hardy/Getty Images
Ffigur 6 Delweddau o Butetown yn y 1950au o Down the Bay, ffotograffau gan Bert Hardy

Yn y 1940au, astudiodd Kenneth Little ‘the coloured people of Cardiff’ fel y'u galwodd, gan roi cipolwg ar wyddor cymdeithasol cysylltiadau hiliol yng Nghymru (Little, 1948). Roedd y rhan o Gaerdydd a elwid ar ddechrau'r 20fed ganrif yn Tiger Bay, sef ffocws astudiaeth Little, wedi hen ennill enw iddi ei hun am fod yn 'ecsotig' cyn troad y ganrif hyd yn oed. Roedd hanesion gan nofelwyr, colofnwyr papurau newydd, gweithwyr cymdeithasol, gweision sifil, diwygwyr cymdeithasol ac eraill wedi cyfrannu at greu portread digon amwys o'r ardal fel lle brwnt, afiach, treisgar ac anfoesol ond, ar yr un pryd, lle diddorol ac un o'r enghreifftiau gorau yn y byd o gysylltiadau hiliol cytûn.

Yn wyneb y cefndir hwn, aeth Little ati i gynnal arolwg cymdeithasol manwl a oedd yn cofnodi amgylchiadau economaidd-gymdeithasol rhai o fewnfudwyr 'croendywyll' (term a ddefnyddiwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd) cyntaf Cymru:

We can proceed to consider the coloured community itself. The main elements consist of Arab, West African and West Indian seamen, but it has been estimated that altogether in this Loudoun Square quarter [in Butetown] some fifty different nationalities are to be found. ... The square itself serves as a convenient centre. Here the density of the coloured population is greatest – with perhaps eight out of every ten persons.

(Little, 1948, t. 68)

Gan grynhoi'r sefyllfa o ran cyflogaeth yn yr ardal ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, dywed Little ‘the community may be expected to undergo further vagaries of economic hardship’ (1948, t. 75), ac wrth adolygu cyflwr cysylltiadau hiliol rhwng y gymuned groendywyll a'r boblogaeth fwyafrifol o bobl wyn ar y pryd, dywed ‘the community is segregated with some considerable degree of rigidity from the rest of the city in the geographical, social and psychological senses; in the last respect the existence of strong patterns of colour prejudice among residents of the town is the main causal factor’ (1948, t. 183).

Mae angen ystyried patrymau mewnfudo a'r amrywiaeth ethnig a ddeilliodd o hynny yn eu cyd-destun hanesyddol. Yng nghanol y 19eg ganrif, denodd ffyniant y diwydiant glo a'r diwydiant llongau masnachol forwyr du o Affrica, America ac India'r Gorllewin. Erbyn yr Ail Ryfel Byd, roedd y gymuned hon wedi hen ymsefydlu; roedd llawer o ryngbriodasau a gwelwyd ail genhedlaeth neu drydedd genhedlaeth o bobl 'gymysg eu hil'. Ni chafodd Cymru fewnfudwyr o India'r Gorllewin yng nghyfnod y Windrush a oedd mor nodweddiadol o nifer o ddinasoedd yn Lloegr (Evans, 2002). Mae astudiaeth Little yn nodi pedwar mater pwysig yn ymwneud â 'hil' yng Nghymru. Mae'r anheddiad hwn yn cynrychioli rhywbeth gwahanol iawn i rannau eraill o'r DU, lle cafodd yr aneddiadau cyn y rhyfel mewn trefi mawr fel Llundain, Bryste a Lerpwl eu sefydlu'n bennaf o ganlyniad i economeg y diwydiant llongau a'r busnes o gludo caethweision. Yr ail bwynt, sy'n bwysig er mwyn deall rhaniadau hiliol cyfoes, yw bod astudiaeth Little yn dangos bod y mater o 'hil' yng Nghymru wedi'i gyfyngu i ardal ychydig llai nag un filltir sgwâr yn ardal y dociau yng Nghaerdydd. Yn drydydd, mae'r gwaith yn cofnodi'r mathau o wahaniaethu, hiliaeth [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ac eithrio a wynebwyd gan yr unigolion hyn a'u disgynyddion sy'n parhau i gael effaith heddiw. Y pedwerydd pwynt, sy'n hynod o ddiddorol, yw bod yr astudiaeth yn gofyn a oes rhywbeth gwahanol neu unigryw am Gymru o ran deall 'hil' a hiliaeth

Yn hanesyddol, pan ddaeth y boblogaeth fwyafrifol Gymreig a'r mewnfudwyr duon ac ethnig lleiafrifol i gysylltiad â'i gilydd, ceir tystiolaeth o gysylltiadau hiliol cyfeillgar a gwrthdaro ethnig dwfn ac eto i gyd, un o brif fythau hunaniaeth genedlaethol Cymru yw ei bod yn portreadu Cymru fel cenedl oddefgar, yn enwedig o gymharu â'i chymdoges, Lloegr. Wrth ddarllen unrhyw hanes am gysylltiadau hiliol yng Nghymru, bydd yn amlwg bod ffawd y Cymry eu hunain fel lleiafrif ethnig yng nghyd-destun ehangach Prydain yn ffactor bwysig er mwyn ceisio deall y myth poblogaidd hwn ynglŷn â goddefgarwch y Cymry.

Cymru, yr Alban ac Iwerddon oedd trefedigaethau (mewnol) cyntaf prosiect imperialaidd mawr Prydain. Mae hyn wedi arwain at ymdeimlad parhaol o orthrwm cenedlaethol. Er enghraifft, mae profiad Cymru o oruchafiaeth ddiwylliannol Lloegr pan gollodd ei hymreolaeth, pan gafodd ei hiaith a'i diwylliant eu darostwng ac y bu'n rhaid i'r Cymry eu hunain wynebu hiliaeth, wedi arwain at ymdeimlad treiddiol a pharhaol o orthrwm cenedlaethol. Mae gwleidyddiaeth ymreolaeth ac ymdrechion i adfer lle'r Gymraeg a diwylliant Cymru ym mywyd cyhoeddus wedi bod yn ffocws allweddol i wleidyddiaeth gwrthdaro ethnig yng Nghymru. Y math hwn o wrthdaro ethnig, rhwng y Cymry a'r Saeson, sydd wedi cael y sylw'n bennaf gan ddisodli unrhyw ffocws ar raniadau hiliol eraill.

Cred gyffredin, ond anghywir o bosibl, yw bod y profiad hanesyddol hwn wedi creu empathi cryf a goddefgarwch tuag at leiafrifoedd hiliol eraill. Y ddadl yw bod y Cymry, am iddynt gael eu gorthrymu eu hunain, yn deall gorthrwm pobl eraill yn well, gan gynnwys gorthrwm pobl ddu. Yn yr ystyr hwn, caiff cymeriad cenedlaethol y Cymry ei bortreadu fel un gwrthimperialaidd, goddefgar a rhyngwladol, yn wahanol i'r Saeson, sy'n cael eu hystyried yn bobl wladychol a hiliol. Wrth gwrs, rhan o'r myth cenedlaethol a ddatblygwyd yw hyn ac nid oes tystiolaeth hanesyddol na chyfoes i'w gefnogi. Fodd bynnag, mae'n gred ddofn a grymus. Defnyddiwyd y syniadau hyn i raddau amrywiol yn y Gymru gyfoes i bortreadu'r Cymry fel cenedl anhiliol. Un o ganlyniadau'r myth hwn yw'r farn nad yw materion yn ymwneud â 'hil' a hiliaeth yn broblem yng Nghymru. Mae'r syniad nad yw 'hil' yn broblem yma wedi bod yn ddadl rymus er gwaethaf tystiolaeth sylweddol i'r gwrthwyneb.

Yn sgil y syniadau hyn, ar ôl datganoli, nid ystyriwyd bod 'hil' yn fater ar gyfer ymyriadau polisi cyhoeddus. Wrth gwrs, roedd llawer o bolisïau cyhoeddus y DU ar hil (e.e. Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976) yn gymwys i Gymru. Y dybiaeth oedd nad oedd angen polisïau o'r fath yng Nghymru gan mai dim ond nifer gymharol fach o bobl a oedd yn dod o leiafrifoedd ethnig. Yn wyneb y dybiaeth hon, ni chafodd hiliaeth ei chydnabod gan y llywodraeth ac roedd agwedd o laesu dwylo ymhlith gweision sifil a llunwyr polisi yn golygu na roddwyd fawr ddim sylw i faterion yn ymwneud â 'hil'. Prin roedd Cymru'n cael ei chydnabod fel cymdeithas amlddiwylliannol mewn bywyd cyhoeddus.

Ar yr un pryd, am nad oedd ganddynt ddylanwad gwleidyddol, ni allai lleiafrifoedd sicrhau bod eu pryderon yn cael sylw ar yr agenda wleidyddol. Mae'r boblogaeth o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn amrywiol iawn, yn wasgaredig ac wedi'i hynysu ac mae hyn wedi'i gwneud hi'n anodd iddi ddatblygu unrhyw fath o hunaniaeth wleidyddol gyfun, gref er mwyn ysgogi newid. Roedd unrhyw weithgarwch ar lawr gwlad wedi'i gydgysylltu'n wael ac wedi'i drefnu mwy ar sail cymorth cymdeithasol na lobïo gwleidyddol. I bob pwrpas, roedd lleiafrifoedd ledled Cymru yn parhau i fod yn ddifreiniedig, yn ddi-rym ac yn gudd. Dim ond ag ardal fach iawn yng Nghaerdydd y cysylltwyd y syniad o Gymru amlddiwylliannol ac roedd y ffaith na welwyd gwrthdaro rhyngethnig yn yr ardal fach hon o Gymru wedi helpu i greu'r myth o gysylltiadau hiliol cytûn.

Mae'r gallu i uniaethu â'r gymuned genedlaethol a bod yn aelod ohoni yn bwysig er mwyn arfer hawliau dinasyddiaeth a sicrhau cydraddoldeb. Os byddwch yn teimlo eich bod yn perthyn, mae'n bosibl hefyd y byddwch yn teimlo bod hawl gennych i fanteisio ar rai o gyfleoedd y gymdeithas honno. Mae'r rhan fwyaf o bobl o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru wedi profi rhwystredigaeth yn hyn o beth. Caiff yr ymdeimlad o berthyn i'r gymuned genedlaethol ei arddangos mewn nifer o ffyrdd a'i gyfleu drwy syniadau ynglŷn â 'Chymreictod': pwy sy'n cael eu hystyried yn Gymry a phwy nad ydynt yn cael eu hystyried yn Gymry. Mae sefyllfa ymylol lleiafrifoedd ethnig wedi'i dwysáu gan y prif ddehongliadau o hunaniaeth genedlaethol Gymreig sydd i'w gweld mewn delweddau poblogaidd a thrafodaethau gwleidyddol. Gall y ffordd y mae cenedl yn adrodd ei stori drwy ei phortreadau diwylliannol a'r ffordd y mae'n portreadu pwy sy'n Gymry a phwy nad ydynt yn Gymry, eithrio rhai grwpiau. Mae'n anochel bod rhywfaint o dyndra rhwng dyheadau gwlad sy'n awyddus i ddatblygu ei hun fel cenedl ar wahân ac un sy'n dymuno portreadu delwedd o wlad sy'n croesawu ac yn derbyn pob grŵp ethnig.

Mae Gweithgaredd 10 yn edrych ar y tyndra hwn: sut i ddatblygu ymdeimlad o gymundod cenedlaethol a hunaniaeth genedlaethol unigryw gan fynd ati ar yr un pryd i ymgorffori poblogaeth ethnig sy'n gynyddol amrywiol. Mae'r materion hyn wedi cael cryn sylw gan wleidyddion ac ysgolheigion yng Nghymru, yn enwedig ar ôl datganoli.

Gweithgaredd 8

Daw'r darn isod, ‘Can we live together? Wales and the multicultural question’, o ddarlith gyhoeddus i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, yn Llundain, gan Charlotte Williams, un o awduron yr adran hon.

Wrth ichi ddarllen, ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  • Beth a olygir gan y 'paradocs' o geisio cysoni amrywiaeth ag uniondeb cenedlaethol?

  • Pam bod hwn yn gyfyng-gyngor cyfoes?

Darn 1 Can we live together? Wales and the multicultural question

Addressing a multicultural audience at the Global Britons Conference in Cardiff, the First Minister, Rhodri Morgan, spoke of the ‘ultimate paradox of a country’. On the one hand, there is the recognition of huge diversity and long standing diversity as a product of Wales’ industrialised and globalised past. On the other hand, he referred to the ‘Celtic nature of Wales’ – the Celtic essence, Wales’ cultural integrity ‘as maintained through its language’ (Morgan, 2003). This is the paradox: how to square diversity and national integrity.

The First Minister is, of course, correct in his acknowledgement of long standing diversity. Cultural diversity is not a new phenomenon to Wales. Wales has always been in one sense multi-cultural. ... However, it is the era of modern globalisation coinciding with the emergence of the nation state that brings a more complex encounter with difference to Wales. It is no longer reasonable to think of nation states as ethnically homogenous entities. Economic expansion, technological and information advance and increased migrations mean that modern nations are increasingly and consciously diverse. However, as the world is opened up to us, so we feel insecure and try to shrink it back to size. Thus, the potential for ethnic conflict increases as the assertion of who we are becomes all the more important ...

The idea of multiculturalism is nevertheless popular. Most people would argue that multiculturalism is a good thing. But what if it isn’t?

When the First Minister spoke about the paradox of nation he raised the core elements of the multicultural question – how to reconcile increasing diversity with national identity. National identity is of course a construction and his construction of nation was by reference to something called ‘The Celtic Essence’. What is clear is that these indices of identity as presently constituted are proving rather too inaccessible or meaningless for the majority of ethnic minorities. I would argue that instead of formulating the paradox in this way, that is, how to fit together two potentially incompatible forces, we need to consider how we are constructing these notions. Is not, for example, diversity/migration, movement and change, a fundamental element of the Celtic essence and integral to it? Some commentators would argue that we need to dispense with the idea of nation altogether because in an era of globalisation the idea of nation becomes more and more anachronistic. The discourse of nationality itself creates barriers, antagonisms and renders marginal those who do not fit the predominant constructions of national identity.

(Williams, 2005, tt. 216–30)

Mae Cymru yn newid yn fewnol ac oherwydd pwysau y tu allan iddi. Mae'n gynyddol amrywiol o ganlyniad i lanw a thrai patrymau mewnfudo ac allfudo. Mae syniadau ynglŷn â chenedl a hunaniaeth genedlaethol sy'n glynu wrth ddiffiniadau cul, traddodiadol a phenodol o bwy sy'n Gymry ac fel arall, yn cael eu herio fwyfwy. Bydd cysylltu'r syniad o berthyn i genedl â grŵp ethnig penodol bob amser yn eithrio pobl ac yn cyfyngu'r prosiect o ddatblygu cenedl. Y paradocs yw sut i osgoi colli'r hyn sy'n unigryw am Gymru fel cenedl, ei hanes, ei diwylliant a'i thraddodiadau, gan gydnabod a choleddu ei hamrywiaeth ethnig ar yr un pryd.

Er mwyn bod yn wirioneddol gynhwysol, rhaid seilio 'uniondeb' y genedl ar ffactorau sy'n croestorri ffiniau ethnig. Ar ôl datganoli yng Nghymru, mae gwleidyddion, diwylliant poblogaidd a lleiafrifoedd eu hunain yn helpu i ailddiffinio ein hunaniaeth genedlaethol, gan fynnu cydnabyddiaeth i amrywiaeth o hunaniaethau cenedlaethol a sicrhau ymdeimlad o berthyn ar sail dinasyddiaeth fwy cynhwysol sy'n seiliedig ar hawliau.