Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.2 Meddwl am rywedd a Chymru

Os yw syniadau ynglŷn â 'hil' yng Nghymru wedi'u nodweddu gan yr ymdeimlad 'nad oes problem yma', prif ddylanwad a nodwedd y syniadau ynglŷn â rhywedd yw bod merched wedi dechrau dod 'allan o'r cysgodion' yn raddol a bod rolau dynion a merched wedi newid.

Mae syniadau am rywedd, a merched yn enwedig, wedi newid ers dechrau'r 20fed ganrif. Am ran helaeth o'r ganrif honno, athrawiaeth ac ymarfer y 'sfferau gwahanol' oedd prif ffocws y syniadau:

Separate spheres meant separate worlds for men and women. Man’s sphere was the public domain of work and politics; woman’s sphere was the private world of home and family. Man’s duty was to provide financially for his wife and family through money earned in the outside world. Woman’s duty was to be a wife and mother and to create a home which was a refuge from the forces of darkness outside its walls: under her care home would be a centre of Christian virtue, moral purity and sobriety.

(Beddoe, 2000, t. 12)

Roedd yr athrawiaeth hon yn amlwg iawn yn ystod blynyddoedd cyntaf y ganrif, mewn cyfnod ‘[when] women wore long skirts and large hats, travelled in horse drawn vehicles, worked as live-in domestic servants (or employed them) and were denied the basic rights of citizenship’ (Beddoe, 2000, t. 13), a chadwodd gryn dipyn o'i phŵer a'i harwyddocâd drwy gydol y ddau ryfel byd. Ni welwyd fawr ddim newid yn rolau dynion a merched rhwng 1914 a 1939. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwelwyd rhai rhwystrau cyflogaeth i ferched yn cael eu dymchwel ond, yn y bôn, gartref oedd lle merched o hyd. Mewn cân a gyfansoddwyd yn ystod y rhyfel gan Ivor Novello, a aned yng Nghaerdydd, anogwyd merched i ‘Keep the Home Fires Burning’ ac ar ôl y rhyfel, disgwyliwyd i ferched ddychwelyd i'w rolau fel gwragedd, mamau a merched ffyddlon.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd, gadawodd merched y cartref er mwyn gweithio - gan wneud 'gwaith rhyfel' a swyddi eraill yr oedd y dynion wedi gorfod eu gadael - ond ‘[this war too] did little more than superficially dent the notion of separate spheres’ (Beddoe, 2000, t. 133). Yng Nghymru ar ôl y rhyfeloedd, merched oedd ceidwaid y cartref a'r teulu o hyd a'r dynion oedd yn ennill y cyflog.

Gellid dadlau y gallai'r darlun hwn o rolau dynion a merched ar ddechrau'r 20fed ganrif fod yn gymwys i lawer o gymdeithasau gorllewinol ac, yn sicr, i rannau eraill o Brydain. Ond a oes dimensiwn Cymreig i'r hanes?

Fox Photos/Getty Images
Ffigur 7 Merched ifanc mewn dosbarth coginio yn y Ganolfan i Bobl Ifanc Ddi-waith yng Nghaerdydd, mis Medi 1937

Gweithgaredd 9

  • A allwch chi feddwl am unrhyw beth am Gymru a diwylliant Cymru a allai egluro pam bod sfferau, syniadau ac arferion gwahanol wedi ymwreiddio mor ddwfn yng nghymdeithas Cymru am y rhan fwyaf o'r 20fed ganrif? Nodwch eich syniadau.

  • Yna darllenwch Darn 2 gan Deirdre Beddoe isod, a chymharwch eich syniadau â'r hyn y mae'n ei ddweud.

Darn 2

Clearly the lives of women in Wales have been shaped by a distinctive Welsh culture, which has largely been defined by Nonconformity ... ministers of religion, politicians and other male public figures zealously promoted the domestic ideology and the role of women as a civilizing force within the home. This, in turn, imposed on women in Wales a whole set of prescriptive rules: they were to be ‘respectable’, with all that word entails. The chapel policed their behaviour: women were cast out of chapels as late as ... the 1960’s for becoming pregnant while unmarried or on reports of adulterous behaviour. ... In terms of women’s paid employment there has also been a distinctive Welsh dimension ... the nature of industrialisation in Wales meant that there was very little paid work for women in the mining valleys before 1939 ... the war identified factory work as women’s work and post-war opportunities meant that women began to enter the workforce in increasing numbers, despite a great deal of male hostility. ... It can be argued too that Welsh women were subjected to a particularly ‘virulent strain’ of patriarchy. The nature of men’s work in Wales, in heavy, dirty and dangerous jobs ... meant not only that women’s unpaid work was essential in the home, but that in Wales, work itself was defined in exclusively macho terms: only men’s work was real work. ... In Wales there was a particular male pride in being able to support a ‘nonworking’ wife. The legacy of the nineteenth-century notion of separate spheres lingered longer in Wales, keeping women, with few exceptions, out of the public sphere.

(Beddoe, 2000, tt. 180–1)

Gadael sylw

Yn y darn hwn, mae Beddoe yn nodi pedair ffactor yn niwylliant a chymdeithas Cymru a lywiodd fywydau a phrofiadau merched:

  • diwylliant Anghydffurfiol cryf

  • rôl y capel

  • natur diwydiannu

  • math ffyrnig o dadolaeth.

Ffactorau fel hyn sy'n gyfrifol am bortread y 'Fam Gymreig', sy'n dangos merched Cymru fel merched gweithgar, duwiol a glân sy'n gyfrifol am y cartref a lles ei theulu, a gafodd ei hanfarwoli yn nofel Richard Llewellyn How Green Was My Valley(1939).

Ond roedd profiadau merched yn ystod y rhyfel wedi cynyddu eu hyder a'u disgwyliadau ac o 1945 ymlaen, gwelwyd llawer o dyndra ac anesmwythder wrth i ferched geisio cysoni syniadau o ryddid a chydraddoldeb tybiedig â phrofiadau o orthrwm, anesmwythder a rhwystredigaeth. Eto i gyd, ni chafodd y 'teimladau' hyn eu mynegi tan y 1970au pan ddaeth ffyrdd newydd o 'feddwl' am rywedd i'r amlwg. Fel y dywed Beddoe: ‘a growing feminist consciousness and influences from the USA, together with a rising tide of anger about equal pay, would turn vague stirrings of discontent into a new mass feminist movement in the 1970’s’ (2000, t. 158).

Yn ystod degawdau diwethaf yr 20fed ganrif, newidiodd bywydau merched yng Nghymru yn sylweddol. Daeth merched yn fwy amlwg ym myd gwaith, addysg, crefydd gyfundrefnol, mudiadau cymdeithasol ac, yn y pen draw, gwleidyddiaeth. Roedd economi ôl-ddiwydiannol newydd Cymru, â'i sector gwasanaethau a oedd yn tyfu, yn rhoi cyfle i ferched gymryd mwy o ran yn y farchnad lafur. Tynnodd y Mudiad Rhyddid i Ferched (WLM) sylw at sefyllfa orthrymus merched ac ymgyrchodd yn ddiflino am newid amrywiaeth eang o faterion. Yn y de-ddwyrain trefol roedd cadarnle'r mudiad ond roedd ganddo grwpiau ledled Cymru, yn enwedig yn y trefi prifysgol. Dechreuodd syniadau am ferched a'r hyn sy'n unigryw am brofiadau merched ennill proffil academaidd. Cafodd cyrsiau ar astudiaethau merched eu datblygu ymhob un o sefydliadau addysg uwch Cymru yn ystod y 1980au a'r 1990au. Gwnaed gwaith ymchwil ac ymddangosodd cyhoeddiadau newydd a oedd yn ceisio llenwi'r bylchau enfawr mewn gwybodaeth a chwarae rhan yn y frwydr barhaus i newid agweddau a gwella cyfleoedd i ferched yng Nghymru.

Un testun o'r fath oedd Our Sister’s Land (Aaron et al., 1994), a dynnodd sylw at y gwrthdaro rhwng yr hen ddelweddau a stereoteipiau o rolau merched a dynion a'r newidiadau a oedd yn digwydd ar y pryd. Mae'r golygyddion yn awgrymu bod y llyfr yn dangos bod:

Welsh women are ... to a greater or lesser extent, in the process of change ... in both the private and public sphere, a growing diversity of patterns of women’s lives and identities challenges popular images of women in Wales; at the same time, structures which perpetuate gender divisions at home and work remain stable.

(Aaron et al., 1994, t. 8)

Felly beth am yr 21ain ganrif? Pa gynnydd sydd wedi'i wneud; beth sydd ar ôl i'w wneud? A yw ein syniadau am y rhywiau a gwahaniaethau rhwng dynion a merched wedi newid?