4.3 Casgliad
Er bod Cymru yn gartref i un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf Ewrop, nid ystyriwyd bod 'hil' yn fater polisi cyhoeddus.
Wrth feddwl am 'hil' yng Nghymru, y prif syniad sydd wedi dod i'r amlwg yw 'nad oes problem yma'.
Wrth feddwl am rywedd yng Nghymru, gwelwyd dealltwriaeth bod rolau dynion a merched yn newid a bod merched yn dechrau dod 'allan o'r cysgodion' yn raddol.
Roedd diwylliant Cymreig unigryw â phwyslais cryf ar ideoleg y 'sfferau gwahanol' yn golygu bod merched yng Nghymru wedi'u cyfyngu i sffêr y cartref drwy'r rhan fwyaf o'r 20fed ganrif.
Yn ystod degawdau diwethaf yr 20fed ganrif, newidiodd bywydau merched yn sylweddol. Cafodd rhwystrau eu dymchwel a daeth merched yn fwy amlwg mewn sfferau cyhoeddus.
Mae gan Gymru dipyn o waith i'w wneud eto i fod yn amlddiwylliannol a sicrhau cydraddoldeb hiliol neu gydraddoldeb rhwng dynion a merched. Mae wedi gwneud rhywfaint o gynnydd. Mae merched yn fwy amlwg mewn bywyd cyhoeddus, gwleidyddol ac economaidd a chaiff gwahaniaethau eu dathlu mewn ffordd fwy gweladwy yn y portreadau o'r genedl a hunaniaeth genedlaethol. Byddai rhai yn dadlau mai newidiadau arwynebol yw'r rhain yn hytrach na newidiadau gwirioneddol a bod llawer o waith i'w wneud eto.
Arweiniodd Deddf Cydraddoldeb y DU (2010) at gynllun cydraddoldeb sengl Llywodraeth Cymru sy'n nodi ei bwriadau a'i phrosesau gweithredu am ddegawd. Mae amheuon o hyd a yw'r Llywodraeth wedi gosod sylfaen ar gyfer gwaith cynaliadwy ar gydraddoldebau a ph'un a fydd y cynnydd a wnaed hyd yma yn dod i ben neu'n cael ei wrthdroi gan newidiadau yn y llywodraeth yn y dyfodol.