5.1 Cysyniadau o ddosbarth yng Nghymru
Pan siaradwn am ddosbarth, rydym yn cymharu ein hunain ag eraill yn y gymdeithas. Mae pob achos unigol yn gymhleth ac mae pawb yn wahanol. Ond, fel arfer, mae gennym ryw syniad o'n safle ni ein hunain a rhyw ymdeimlad o siâp cyffredinol ein cymdeithas: ei strwythur dosbarth. Felly, sut mae'r syniad o ddosbarth yn ein helpu i ddeall Cymru? Beth yw siâp cyffredinol y gymdeithas yng Nghymru?
Gweithgaredd 11
Beth sy'n dod i'ch meddwl chi pan fyddwch yn meddwl am ddosbarth yng Nghymru?
Mae pobl yn gwrthdaro â'i gilydd yn ffyrnig dros ddosbarth yng Nghymru; mae dosbarth yn golygu'r llinell biced, undod.
Mae Cymru - yn wahanol i Loegr - yn ddiddosbarth.
Mae Cymru yn cael ei rhedeg gan y dosbarth uwch Seisnig - gwladychwyr gwyn - sy'n mynd â'r swyddi gorau i gyd.
Mae Cymru yn cael ei rhedeg gan y dosbarth canol Cymraeg: y Taffia.
Rwyf am drafod pob un o'r atebion hyn yn unigol i weld faint o wirionedd sydd ynddynt, os o gwbl.