Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1.1 Dosbarth fel sefydliad a gwrthdaro

Un o'r delweddau mwyaf pwerus o Gymru yw'r ddelwedd o wrthdaro dosbarth. Mae wedi'i chyfleu ledled y byd. Y llyfr a'r ffilm fwyaf llwyddiannus am Gymru erioed yw llyfr Richard Llewellyn How Green Was My Valley? (1939). Cafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan John Ford yn 1941 ac enillodd bum gwobr Oscar (gweler Ffigur 9). Mae'n cynnwys sawl golygfa o wrthdaro diwydiannol ac mae ei delweddau trawiadol yn parhau o hyd. Wrth gwrs, mae'r ddelwedd hon yn bennaf cysylltiedig â chymoedd glo y de, ond can mlynedd yn ôl, roedd tri chwarter o boblogaeth Cymru yn byw yn y de-ddwyrain a chloddio am lo oedd y swydd fwyaf cyffredin yno o bell ffordd. Yng ngweddill Cymru, roedd ardaloedd bach tebyg, fel cymunedau chwareli llechi Gwynedd a chymunedau glo a diwydiannol eraill Clwyd, oedd â'u hanes diwydiannol chwerw eu hunain o bryd i'w gilydd.

Rydych eisoes wedi gweld bod perthyn i'r dosbarth gweithiol yng Nghymru wedi cael ei ystyried yn aml yn rhywbeth cadarnhaol ac efallai bod hyn yn egluro'n rhannol pam bod cymaint o bobl yn tueddu i ddweud eu bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol. Mae ein delweddau o ddosbarth yng Nghymru yn dechrau yn y cyfnod pan mai diwydiannau mawr ac, fel arfer, trwm oedd y brif ffynhonnell o gyflogaeth ac roeddent yn tueddu i lunio natur y cymunedau o'u cwmpas. Can mlynedd yn ôl, roedd y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn gwneud gwaith llaw ac ystyriwyd bod hynny'n beth gadarnhaol oherwydd tybiwyd bod gwareiddiad yn dibynnu ar y math hwn o waith. At hynny, llwyddodd y bobl a oedd yn gweithio i fyw bywydau parchus drwy sefydlu capeli, undebau llafur, corau a llawer o sefydliadau eraill. Gwnaethant greu cymunedau, cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol, iddynt hwy eu hunain ac roeddent yn falch o'u cyflawniadau. Roedd llawer o bobl hefyd yn falch bod ganddynt draddodiad o sefyll dros eu hawliau; mae llawer o bobl yn ystyried eu bod yn Gymry am eu bod yn radical.

Archif Ronald Grant
Ffigur 9 Glowyr yn streicio yn ffilm John Ford How Green was My Valley?

Un agwedd bwysig ar ddosbarth yw bod sefydliadau wedi'u creu sy'n recriwtio pobl o un dosbarth yn bennaf ac sy'n gallu gwrthdaro â dosbarthiadau eraill. Mae undebau llafur yn wahanol iawn i'r urddau crefft a'u rhagflaenodd, oherwydd roedd yr urddau'n cael eu rhedeg gan ben-grefftwyr (a oedd bron bob amser yn ddynion) ond roeddent yn cynnwys eu gweithwyr hefyd. Sefydlwyd yr undebau llafur ar sail dosbarth; aeth pobl gyflogedig ati i drefnu eu hunain ar sail eu buddiannau cyffredin ac roedd hyn yn golygu na wnaethant gynnwys y rheolwr. Mae'r Blaid Lafur, yn wahanol i bleidiau Ewropeaidd tebyg, yn uniaethu â dosbarth yn hytrach na safbwynt gwleidyddol. Enw'r blaid gyfatebol yn yr Almaen yw'r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol. Mae gwreiddiau'r Blaid Lafur yn perthyn i'r undebau llafur, ond mae bellach yn ymgyrchu am bleidleisiau o'r tu allan i'r dosbarth gweithiol ac yn honni ei bod yn cynrychioli pobl yn gyffredinol yn hytrach nag un dosbarth penodol, ond mae enw'r blaid yn hanu o gyfnod pan roedd y syniad o ddosbarth yn hollbwysig.

Mae streiciau a gwrthdaro diwydiannol mawr wedi bod yn brin yng Nghymru ers canol y 1980au. Fel llawer o ddelweddau o leoedd, mae hon yn ddelwedd hen-ffasiwn braidd. Yn wir, ystyriwyd ei bod yn hen-ffasiwn am gryn amser. Pan ddechreuodd gwyddonwyr cymdeithasol ymddiddori'n frwd yn natur cymunedau a diwylliant y dosbarth gweithiol yn y 1950au a'r 1960au, roeddent eisoes yn siarad am ddosbarth gweithiol 'traddodiadol' Roedd glowyr, gweithwyr rheilffordd, docwyr a gweithwyr dur, sef prif grwpiau'r dosbarth gweithiol yng Nghymru ar y pryd, yn ganolog i'r dosbarth gweithiol 'traddodiadol' hwn. Roeddent yn byw mewn cymunedau ochr yn ochr â glowyr, gweithwyr rheilffordd, docwyr a gweithwyr dur eraill. Ond roedd sôn am ddosbarth gweithiol 'newydd': gweithwyr mewn diwydiannau masgynhyrchu newydd fel ceir a nwyddau gwyn a oedd yn wynebu rhesi cydosod yn eu bywydau gwaith bob dydd. Ystyriwyd bod y cynnydd mewn nwyddau traul yn ystod y cyfnod yn dylanwadu llawer mwy ar ffyrdd o fyw y gweithwyr hyn, ac roeddent yn llawer llai tebygol o fyw ochr yn ochr ag eraill a oedd yn gweithio yn yr un diwydiant a rhannu eu hamser hamdden â chydweithwyr o gymharu â'r dosbarth gweithiol 'traddodiadol'. Bellach, mae'r ddau grŵp yn ymddangos fel petaent yn perthyn i'r gorffennol.

Mewn sawl ffordd, roedd hunaniaeth wrywaidd i'r syniad o berthyn i'r dosbarth gweithiol. Roedd rhaid bod yn ddyn er mwyn herio'r rheolwr. Roedd bechgyn yn troi'n ddynion pan fyddent yn dechrau gweithio. Yn How Green Was My Valley?, mae'r prif gymeriad, Huw, yn mynd i ysgol ramadeg ond yn y pen draw, mae'n gwrthod y gwaith swyddfa y gallai fod wedi'i gael er mwyn mynd i'r pwll glo gyda'i dad a'i frawd. Roedd merched wedi'u cyfyngu i'r cartref llawer mwy nag yr oeddent ers yr Ail Ryfel Byd. Ystyriwyd mai'r dyn oedd pennaeth y cartref ac mai ef, felly, oedd yn pennu dosbarth y teulu cyfan. Roedd merched, wrth gwrs, yn cymryd rhan mewn streiciau a gwleidyddiaeth, ond yn aml roeddent yn gwneud hynny er mwyn cefnogi eu dynion yn eu hanghydfodau. Gwelwyd yr achos mwyaf diweddar o hyn yn ystod streic y glowyr yn 1984-5, ond roedd y cymorth hwn yn nodweddiadol o sawl ardal yng Nghymru drwy gydol yr 20fed ganrif.

A oes unrhyw rai o'r agweddau hyn yn dal i ddylanwadu ar ein safbwynt o'r byd nawr? A yw cryfder y bleidlais Lafur yng Nghymru yn awgrymu rhywbeth ynglŷn â hyn? Beth am undebau llafur? I ba raddau mae pobl yng Nghymru yn dal i ymuno ag undebau ac a oes unrhyw beth unigryw am eu cefnogaeth iddynt?

Yn 2010, roedd traean o holl weithwyr Cymru yn aelodau o undebau llafur. Mae hyn yn lleihad sylweddol o gymharu â'r gorffennol, pan mai diwydiant trwm oedd prif ddiwydiant economi Cymru. Ond dyma'r lefel uchaf o gymharu ag unrhyw ranbarth neu wlad arall yn y DU. Mae'n cynyddu ychydig hefyd, er bod y lefel ledled y DU yn tueddu i leihau fymryn. Yn ne-ddwyrain Lloegr, dim ond tua un o bob pum gweithiwr sy'n perthyn i undebau llafur, tra bod y ffigur yng Nghymru ychydig yn uwch na'r lefel yng nghyn-ardaloedd diwydiannol Lloegr, fel y gogledd-ddwyrain a'r gogledd-orllewin. Mae bron i hanner miliwn o bobl yn aelodau o undebau llafur yng Nghymru a'r dyddiau hyn, mae'r recriwtiaid newydd yn fwy tebygol o fod yn ferched na dynion.

Yn gyffredinol, mae'r rhan fwyaf o aelodau undebau llafur yn gweithio yn y sector cyhoeddus ac mae mwy o weithwyr rheoli, proffesiynol a thechnegol yn tueddu i fod yn aelodau o gymharu â rhai mewn swyddi gwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid (Barratt, 2009). Mae llawer wedi newid yn y mudiad undebau llafur ers y delweddau o ddynion mewn capiau fflat ac ar linellau piced. Yn ystod haf 2009, roedd y newidiadau hyn i'w gweld ar wefan Cyngres Undebau Llafur Cymru. Nid oedd unrhyw gyfeiriadau at streiciau, ond croesawyd mesur llywodraethol arfaethedig i hyrwyddo hawliau cyfartal i ferched a mynegwyd pryder am effaith y dirwasgiad ar swyddi merched. Yn 2014, mynegodd yr un wefan bryder mawr am dlodi, cydraddoldeb a chyflogau teg. Ond mae'n debyg bod y rhai sy'n ymuno ag undebau llafur yn teimlo bod eu buddiannau nhw yn wahanol i fuddiannau eu cyflogwyr.

Felly, mae'r syniad bod dosbarth wedi'i ymwreiddio mewn mathau penodol o sefydliadau wedi bod yn bwysig - ac mae'r farn hon yn parhau. Gall y rhai a dyfodd i fyny yn y cyfnod pan roedd y materion hyn yn llawer mwy canolog i fywydau pobl (ac mae llawer ohonynt, oherwydd y gyfradd genedigaethau uchel yn syth ar ôl y rhyfel) ei chael hi'n anodd newid eu safbwyntiau, ac mae traddodiadau teuluol yn effeithio ar ymddygiad hefyd. Ond mae newidiadau yn natur y gymdeithas yn sicr o effeithio ar y farn hon, yn enwedig y nifer a'r gyfran llawer uwch o ferched sy'n gadael y cartref er mwyn gweithio. Mae'r hen syniadau ynglŷn â dosbarth yn llawer mwy perthnasol os meddyliwn am ddynion yn gweithio dan ddaear o gymharu â merched sy'n gweithio mewn swyddfeydd.