5.2 Casgliad
Mae pobl yng Nghymru yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol na phobl yn y rhan fwyaf o ardaloedd eraill yn y DU.
Mae gorffennol pobl yn dylanwadu ar y ffordd y maent yn dosbarthu eu hunain, yn ogystal â'u safleoedd ar hyn o bryd (gall pobl symud o un dosbarth i un arall yn ystod eu hoes).
Mae hanes o wrthdaro dosbarth yn golygu bod llawer o bobl yng Nghymru yn falch o ddisgrifio eu hunain fel dosbarth gweithiol.
Ystyrir yn aml fod Cymru yn ddi-ddosbarth, o gymharu â llawer o rannau eraill o Brydain, yn yr ystyr bod gan bobl werthoedd tebyg a'u bod yn dod o gymunedau tebyg.
Mae pobl a anwyd y tu allan i Gymru yn fwy tebygol o weithio yn y proffesiynau na phobl a anwyd yng Nghymru, ond mae gwahaniaethau hefyd rhwng siaradwyr Cymraeg a phobl ddi-Gymraeg a anwyd yng Nghymru.
Mae barn gyffredinol bod siaradwyr Cymraeg yn llywodraethu'r haenau mwyaf dylanwadol o gymdeithas.
Gall dosbarth ymddangos fel rhywbeth hen-ffasiwn. Wrth feddwl am ddosbarth, mae llawer o'r delweddau a ddaw i'r meddwl yn hen, boed yn ddelweddau o lowyr neu aristocratiaid yn eu hetiau silc. Mae rhai gwyddonwyr cymdeithasol yn honni bod dosbarth yn dechrau pylu ac nad yw'n rhan mor ganolog o fywydau pobl ag y bu unwaith; nad yw'n ein helpu mwyach i ddeall cymdeithas gyfoes. Yn sicr, mae'r mathau o ddosbarthiadau wedi newid, ond ni ddylem anwybyddu eu pwysigrwydd.
Yn yr uned hon, mae pedair dadl benodol pam bod dosbarth yn parhau i fod yn berthnasol yng Nghymru:
Yn gyntaf, nid oes tystiolaeth bod patrymau cymdeithasol, rhaniadau incwm, dymunolrwydd tai, diwylliant a thraul yn lleihau. Mae cyfoeth yn rhoi statws, bri a phŵer i bobl o hyd, tra bod stigma dwfn ynghlwm wrth dlodi. Nid yw rhaniadau cymdeithasol wedi lleihau ac yn fwy na hynny, mae rhai ohonynt wedi tyfu. Mae dosbarth ar ffurf cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol yn dylanwadu'n glir ar siawns pobl mewn bywyd.
Yn ail, mae'r gorffennol yn dylanwadu arnom. Cafodd rhan helaeth o boblogaeth Cymru ei geni a'i magu pan roedd yr hen ystrydebau ynglŷn â dosbarth yn amlwg iawn o hyd. Mewn pob cymdeithas, nid dim ond y presennol a'r newydd sy'n cyfrif, mae dylanwad y gorffennol i'w weld o hyd hefyd. Mae cryfder y Blaid Lafur yng Nghymru, waeth faint mae ei safle wedi gwanhau, yn adlewyrchu'r gorffennol ac felly hefyd, efallai, y mae brwdfrydedd cymharol pobl i ymuno ag undebau llafur. Roedd y bobl a ddyfynnwyd ar ddechrau'r adran hon yn ystyried eu bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol oherwydd eu gorffennol, nid eu presennol. Mae ysbrydion y gorffennol yn fyw o hyd. Mae delweddau pobl o'r tu allan hyd yn oed yn fwy araf i addasu i'r realiti newydd.
Yn drydydd, dosbarth yw un o'r pethau sy'n gwneud Cymru yn wahanol, yn yr ystyr bod ganddi batrwm o gydberthnasau cymdeithasol sy'n wahanol iawn i Loegr - neu o leiaf Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Meddyliwch am y cydbwysedd rhwng y cyfoethog a'r tlawd yng Nghymru, faint o bobl yng Nghymru sy'n ymuno ag undebau llafur, a'r ffordd y mae'r Cymry yn meddwl am ddosbarth. Mae'r patrwm dosbarth yn rhan amlwg iawn o'r hyn sy'n gwneud Cymru yn wahanol ac yn rhan o'r hyn sy'n gwneud ei thrigolion yn Gymry.
Yn olaf, mae dosbarth yn rhywbeth sy'n treiddio i'n hanfod fel pobl. Mae'n rhan ohonom ac yn rhywbeth rydym yn ei gario gyda ni am byth. ‘Class is something beneath your clothes, under your skin, in your reflexes, in your psyche, at the very core of your being’ (Annette Kuhn dyfynnwyd yn Sayer, 2005, t. 22). Dyna pam ei bod yn ddigywilydd gofyn am ddosbarth. Mae'n fater hynod o bersonol.