5.3 Gweithgareddau sain
Gwrandewch ar yr eitem sain isod a chwblhewch y gweithgaredd.
Eitem Sain 2 (Trafodaeth ford gron)
Yn yr eitem sain hon, mae pedwar awdur (Graham Day, Sandra Betts, Neil Evans ac Andrew Edwards) yn trafod gwahaniaethau yn y Gymru gyfoes gyda Hugh Mackay.
Mae'r eitem sain yn Saesneg; mae trawsysgrif Cymraeg ar gael.
Transcript
Gweithgaredd 14
Gwrandewch ar yr eitem sain drwyddi unwaith, yna gwrandewch arni eto a nodwch y gwahaniaethau a drafodir. Ar ôl ichi wneud hyn, cymharwch eich nodiadau â'r drafodaeth isod.
Gadael sylw
Mae'r meysydd a drafodir yn cynnwys:
gwahaniaethau â Lloegr (gan gynnwys polisïau llywodraethol gwahanol sy'n cynnig mwy o ddarpariaeth gan y wladwriaeth yng Nghymru)
gwahaniaethau rhwng y de a'r gogledd
gwahaniaethau rhwng Caerdydd a gweddill Cymru
gwahaniaethau lleol iawn, e.e. cystadlaethau rhwng cymoedd gwahanol a hyd yn oed bentrefi gwahanol yn yr un cwm
gwahaniaethau yn yr un ardal ddaearyddol
gwahaniaethau (yn hytrach na thebygrwydd) yn y defnydd o'r cyfryngau torfol
gwahaniaethau dros amser, e.e. defnydd o'r iaith Gymraeg neu batrymau cyflogaeth
gwahaniaethau rydym yn gyfforddus â nhw o gymharu â'r rhai sy'n golygu gwrthwynebiad a gwrthdaro.