6.1 Iaith a hunaniaeth
Fe ddeuthum i Gymru yn 1976 i wneud gwaith maes ar y mudiad cenedlaetholgar Cymreig. Roeddwn yn gwybod mai Cymraeg oedd iaith gyntaf ychydig dros un rhan o bump o boblogaeth Cymru a phrif iaith llawer o'i chymunedau. Ond cefais sicrwydd hefyd na fyddai unrhyw angen ffurfiol imi ddysgu Cymraeg ar gyfer fy ymchwil gan fod bron pob oedolyn yn siarad Saesneg hefyd. Serch hynny, fel anthropolegydd, roeddwn yn ymwybodol o bwysigrwydd iaith er mwyn deall diwylliannau eraill ac felly, am rai misoedd cyn gadael, ceisiais ddysgu rhywfaint o'r iaith, gan gynnwys geiriau'r anthem genedlaethol, 'Hen Wlad fy Nhadau'. Cofrestrais i fynd ar gwrs haf i ddysgu Cymraeg ar ôl cyrraedd hefyd. Fy mwriad ar y cychwyn oedd sicrhau lefel sylfaenol o Gymraeg o leiaf, er mwyn dangos ewyllys da a'i gwneud yn haws imi gysylltu â grwpiau ac unigolion penodol.
Mewn gwirionedd, byrhoedlog fu'n gwrthrychedd hwn wrth imi ymrwymo'n gyflym iawn i ddod yn rhugl yn y Gymraeg. Deuthum i sylweddoli bod yn rhaid imi drochi fy hun yn yr iaith er mwyn fy ngwaith ymchwil, nid yn yr ystyr dechnegol y byddai rhai cyfranwyr Cymraeg yn llai agored mewn cyfweliadau Saesneg, ond am fod dysgu Cymraeg yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach a chyswllt mwy uniongyrchol imi â'r cydberthnasau cymhleth rhwng iaith a hunaniaeth.
Daeth hyn i'r amlwg yn ystod cyfweliad ag un unigolyn, cenedlaetholwr, a oedd, fel rhywun o aelwyd ac ardal ddi-Gymraeg, wedi hyrwyddo safbwyntiau pobl ddi-Gymraeg ac wedi eu hannog i gamu'n uwch o fewn Plaid Cymru ers blynyddoedd. Bu'n llwyddiannus iawn yn hyn o beth, ond yn y diwedd penderfynodd ddysgu Cymraeg ei hun. Gan feddwl am ei brofiad, dywedodd, ‘I still identify with the non-Welsh-speaking Welshman. But as a speaker you do begin to take on some of the political overtones of the linguistic nationalists.’ O'i dystiolaeth ef, yn ogystal â'm profiad fy hun fel dysgwr Cymraeg, roeddwn yn teimlo'n siŵr nad cyfeirio at newid yn ei ddiddordebau gwleidyddol ydoedd ond at newid barn sylfaenol iawn a oedd yn ei alluogi i ystyried materion o safbwynt cwbl wahanol.